Showing 950 results

Archival description
Papurau W. J. Gruffydd File
Print preview View:

D. R. Hughes, Hen Golwyn,

Mae'n ysgrifennu i ddiolch i W. J. Gruffydd am ei ran yn trefnu i D. R. Hughes dderbyn gradd anrhydeddus gan Brifysgol Cymru. Cafodd wybod mai W. J. Gruffydd a fydd yn ei gyflwyno yn y seremoni. Mae'n diolch am bob amlygiad o garedigrwydd W. J. Gruffydd tuag ato ar hyd y blynyddoedd. Mae'n rhyfeddu mwy at fawrfrydigrwydd W. J. Gruffydd gan ei fod yn deall fod D. R. Hughes yn perthyn i 'wersyll arall' yn yr etholiad.

[E.] Ernest [Hughes], Abertawe,

Trafod rhestr etholwyr y Brifysgol. [D. Brynmor] Anthony yn anfodlon derbyn cyfeiriad newydd gan neb ond yr etholwr ei hunan. Mae cyfran helaeth o gefnogwyr y Blaid â chyfeiriadau sefydlog gan fod cynifer ohonynt yn wrthwynebwyr cydwybodol neu'n athrawon, gweinidogion, etc. Yn anffodus mae'r rhai a fyddai'n pleidleisio i W. J. Gruffydd wedi eu gwasgaru yn y lluoedd arfog ac yng ngwasanaeth y llywodraeth. Mae'n awgrymu sut y gellid delio â'r fath sefyllfa. Trefnu cyfarfod etholiadol yn Abertawe ar gyfer W. J. Gruffydd ar ôl gêm rygbi rhwng Cymru a'r R.A.F. Atodiad Mae'n anfon drafft o lythyr y gellid ei anfon at bobl sydd yn debygol o bleidleisio dros W. J. Gruffydd i'w hatgoffa i newid eu cyfeiriadau ar restr y Gofrestrfa os oes angen.

H. M. Hughes, Caerdydd,

Cododd dau bwynt yng nghyfarfod Llys y Brifysgol a'r Cynulliad Graddio. Yn gyntaf dywedodd yr Athro Morgan Watkin nad oedd athrawon Cymraeg y colegau yn ieithegwyr ond yn llenorion a'u bod yn anwybyddu dysgu iaith ar draul llenyddiaeth. Gwelai hyn fel adlewyrchiad o'r hyn a ddywedwyd am W. J. Gruffydd adeg penodi prifathro, sef nad oedd ond journalist. Yn ail wrth i Henry Lewis gyflwyno Dyfnallt ar gyfer ei radd anrhydeddus, fe ddywedodd i Dyfnallt godi'r Tyst 'o fod yn bapur 'distadl' enwadol i fod yn bapur cenedlaethol o fri a dylanwad'. Hoffai wybod pa un ai Henry Lewis ai W. J. Gruffydd a ysgrifennodd hyn gan ei fod yn sen a sarhad ar y cyn-olygyddion i gyd gan gynnwys H. M. Hughes. Dylai'r sylw gael ei ddileu o'r cofnodion.

J. R. Lloyd Hughes, Llanymynech,

Y mae yn ddisgynnydd i Huw Huws o Glynnog a oedd yn aelod o 'deulu' Trefeca, ac yn frawd i'r Parch. Howell Harris Hughes. Hanes ei dad John Richard Hughes y Diwygiwr. Credodd y byddai hanes y teulu yn gwneud rhaglen radio ddiddorol ond gwrthodwyd yr awgrym gan y BBC. Meddyliodd wedyn lunio llyfr ac anfonodd at Iorwerth Peate. Teimlai yntau y byddai cyfrol yn ddiddorol iawn neu gyflwyno'r deunydd i'r Llenor ar ffurf tair ysgrif. Mae'n gofyn am farn W. J. Gruffydd ar y mater. Rhydd grynodeb o'i hanes personol. Teipysgrif.

LL. W. Hughes, Bethel,

Mae'n anfon rhestr o enwau caeau'r ardal at W. J. Gruffydd. Awgrymu enwau pobl eraill a allai gofio enwau caeau nas rhestrwyd ganddo.

Moelwyn Hughes, Penbedw (Birkenhead),

Mae'n anfon copi o'r ail argraffiad o'i bregethau yn rhodd i W. J. Gruffydd. Hwyrach i'r cyntaf fynd i golli gan na wnaethpwyd sylw ohono. Hoffai dderbyn barn W. J. Gruffydd arno naill ai mewn llythyr neu yn Y Llenor. Mae'n amgau adolygiadau ar ei waith hefyd. Teipysgrif.

Ja[me]s F. Jackson, Newport, Ynys Wyth,

Ysgrifenna at W. J. Gruffydd fel Cymro a heddychwr i ddiolch iddo am ei erthygl yn y Daily Herald y diwrnod blaenorol. Bu'n wrthwynebydd cydwybodol yn y Rhyfel Mawr ac o ganlyniad i hynny collodd y cyfle i gael swydd yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Gall ddeall hunan-aberth y tri a weithredodd [yngl?n â'r Ysgol Fomio yn Llyn]. Mae'r dosbarth sy'n rheoli yn Lloegr yn ystyried y Cymry yn un o'r 'lesser breeds without the law', chwedl Kipling. Mae'n rhagweld bod y llywodraeth yn cynllunio ar gyfer rhyfel mawr arall. Y mae heddychiaeth llawer o Gymry yn fygythiad i'w paratoadau, sydd yn rheswm da dros iddynt wrthwynebu cenedlaetholdeb Cymreig. Dylid sefydlu mudiad gwrtharfogi yng Nghymru i geisio rhwystro cynlluniau'r llywodraeth. Cerdyn ymweld Jas. F. Jackson, F.G.S., Curadur Anrhydeddus, Amgueddfa Ddaeareg Ynys Wyth, Sandown.

Kenneth Jackson, Cambridge, Mass., U. D. A,

Y mae'n ateb y pwyntiau a wnaeth T. J. Morgan mewn adolygiad yn Y Llenor ar ei lyfrau yn trafod y canu gwirebol a'r canu natur Celtaidd. Dechreuodd astudio Cymraeg yn 1931 pan oedd yn 21 oed. Ni welodd erthygl T. J. Morgan tan 1934 pan oedd yn paratoi i deipio ei draethawd. Ni chrybwyllodd nodyn T. J. Morgan oherwydd brys. I'r Athro Chadwick, yn hytrach, y mae ei ddyled ef am y syniad. Mae'n diolch i W. J. Gruffydd am adolygiad caredig ganddo ar Celtic Nature Poetry yn Medium Aevum.

Edwin Stanley James, Castellnewydd Emlyn,

Llongyfarch W. J. Gruffydd ar ei ethol i'r Senedd. Y mae wedi cyfieithu 'Y Tlawd Hwn' a 'Cofio' Waldo Williams i'r Saesneg. Cred mai'r 'Tlawd Hwn' yw un o'r cerddi gorau a ddarllenodd yn Gymraeg a Saesneg. Mae'n dangos ei gyfieithiad i W. J. Gruffydd er mwyn iddo benderfynu os yw'n cadw at ysbryd y gwreiddiol. Mae ganddo tua 65 o gyfieithiadau bellach ac y mae'n awyddus i'w cyhoeddi. Mae'n crybwyll ei fethiant wrth ysgrifennu barddoniaeth Gymraeg. Fersiynau llawysgrif a theipysgrif o'i gyfieithiad o'r 'Tlawd Hwn'.

E. H. Jenkins, BBC, Caerdydd,

Mae'n cynnig ffi o ddeg gini i W. J. Gruffydd am bob perfformiad o'i ddrama 'Dull y Byd Hwn'. Gellid defnyddio'r ddrama gan yr awdur ond byddai'r sgript yn para'n eiddo i'r Gorfforaeth. Hoffai dderbyn cydsyniad W. J. Gruffydd.

R. T. Jenkins, Bangor,

Mae'n anfon erthygl gan Alun Thomas ar gyfer Y Llenor ('Rhai Agweddau a r Broblem Diarfogi', Y Llenor XIV [1935, tt. 51-62]). Bu'n rhaid ei chwtogi tipyn. Y mae'n gofyn i W. J. Gruffydd ei chynnwys yn Y Llenor ar fyrder er mwyn i R. T. Jenkins fedru wynebu'r awdur gan iddo ei chadw cyhyd. Daeth [David] Hughes Parry at R. T. Jenkins yn Llundain yn brudd yr olwg a'i hysbysu nad oedd W. J. Gruffydd am barhau gyda chofiant O. M. Edwards. Cafodd R. T. Jenkins wahoddiad i fynd ymlaen â'r dasg. Mae'n pwyso ar W. J. Gruffydd i fynd â'r maen i'r wal. Rhydd hanes ei ymweliad â'r Gyfadran Ddiwinyddol yn Amwythig y diwrnod blaenorol.

Edw[ard] T. John, Llanfairpwllgwyngyll,

Diolch am lythyr diddorol. Mae'n falch o glywed bod yr elfen fwyaf ystyriol yng ngharfan Young Wales yn gefnogol i'w syniadau. Cafodd ei siomi hytrach gan The League of Young Liberals. Mae'n dda ganddo weld bod W. J. Gruffydd yn prisio'r farddoniaeth ddiweddar cystal. Credai y byddai dadeni ym myd yr awen o weld y beirdd yn ailgydio yn themgu y Mabinogion. Y mae'n credu y dylai Cymru gael rheolaeth dros ei hadnoddau naturiol. Mae'n cytuno â'r angen i bregethu efengyl Cenedlaetholdeb Cymreig. Mae'n gobeithio cael cyfle i siarad â W. J. Gruffydd ar ddydd Sul, 18 Mehefin, am ei erthygl i'r Beirniad ac am Ddatgysylltiad.

[W. J. Gruffydd] at A. E. Jones 'Cynan',

Mae'n rhoi ei farn ar 'yr enwau ar y pared' yn yr Eisteddfod. Nid yw'n gefnogol i'r paneli enwogion. Cam yn ôl i Oes Victoria fyddai llenwi'r pafiliwn â baneri pigfain. Yr oedd yr hen eisteddfodwyr yn credu mewn gwneud y pafiliwn yn debyg i siop printer gwlad. O ddefnyddio baneri pigfain byddai'n debycach i syrcas. Mae'n apelio am foelni a symlrwydd ar furiau'r pafiliwn. Os oes raid cael enwau enwogion yna dylid defnyddio llythrennau Rhufeinig plaen. Copi teipysgrif.

[A. E. Jones] 'Cynan', Porthaethwy,

Yr oedd yn ddrwg ganddo glywed fod W. J. Gruffydd yn anhwylus ym Methel. Mae'n esbonio sut yr aethpwyd ymlaen gyda beirniadaeth y Goron er na dderbyniwyd beirniadaeth W. J. Gruffydd. Er pob ymdrech i gysylltu â W. J. Gruffydd methwyd â dod o hyd iddo. Gan fod Prosser Rhys a Chynan yn gytûn mai'r gwaith yn dwyn y ffugenw 'Aneirin' [Herman Jones, Deiniolen] oedd y gorau, fe aethpwyd ati yn unol â'r rheol ynghylch cytundeb dau feirniad, i gynnwys y beirniadaethau yn y gyfrol. Mae'n ofid nad yw W. J. Gruffydd yn cytuno ond nid yw'r ffaith honno yn newid dim ar farn Cynan.

[A. E. Jones] 'Cynan', Porthaethwy,

Y mae Cynan yn falch mai ato ef yr anfonodd W. J. Gruffydd ei brotest yn erbyn y rhan honedig a gymerodd yr Archdderwydd Crwys mewn seremoni yn Wessex pan wisgwyd tarw â garlantau barddol. Mae Cynan yn pwysleisio nad oedd a wnelo'r Orsedd ddim â'r peth. Yr adroddiad yn yr Evening News oedd y peth cyntaf a glywodd ef am y digwyddiad. Yr oedd hawl gan Crwys i dderbyn gwahoddiad personol i fynd yno ond nid oedd ganddo'r hawl i fynd â gwisg a theyrnwialen Archdderwydd Cymru o'r Amgueddfa Genedlaethol heb awdurdod Bwrdd yr Orsedd. Pan dderbyniodd Cynan y toriad gan gyd-swyddog ysgrifennodd at Crwys [ceir copi o'r llythyr yn atodiad i'r llythyr hwn] ond cadarnhau iddo fod yno a wnaeth Crwys yn hytrach na gwadu. Dywedodd na chymerodd ran yn nefod addurno'r tarw ac y bu iddo ymgynghori â'r Arwyddfardd cyn mynd. Yr oedd yr Arwyddfardd dan yr argraff mai dros Gyngor yr Eisteddfod yr âi Crwys ac nid fel unigolyn. Bwriada'r Arwyddfardd ysgrifennu i egluro hyn i Fwrdd yr Orsedd a chael Crwys i ysgrifennu llythyr o ymddiheuriad. Teimla Cynan na ddylai W. J. Gruffydd grybwyll y mater yn Y Llenor. Pwyllgor Gwaith Cyngor yr Eisteddfod yw'r lle priodol i wneud hynny.

A. Gwynn Jones, Capel Garmon,

Anfon tair cân i'r Llenor. Y mae dylanwad W. J. Gruffydd ar y cyfnod yn fwy nag y tybia. Y mae cynnwys Y Llenor yn gyfoethog. Wfft i'r 'Junior Member' a chriw ffals y Western Mail.

D. J. Jones, Portsmouth,

Llwyddodd i fenthyg llyfrau ar Ddewi Sant o'r Llyfrgell Genedlaethol a phenderfynodd gadw at bwyntiau cyffredinol gan osgoi ffeithiau. Tybia fod ei bregeth yn eithaf llwyddiannus. Ei uchelgais yw cael plwyf tawel gwledig heb fod ymhell o'i sefyllfa bresennol ar gyfer y deg i bymtheg mlynedd sy'n weddill o'i yrfa. Atgoffa W. J. Gruffydd o'u hymweliad â bazaar y Groes Goch yn Ismailia. Holi beth yw ystyr yr enw Mabws ym mhlwyf Llanrhystud a beth yw'r esboniad am y ffurf 'Llangwrddon' ar lafar am enw'r plwyf Llangwyryfon.

Results 41 to 60 of 950