Showing 950 results

Archival description
Papurau W. J. Gruffydd File
Print preview View:

Ioan Rhys, Llan-non (Ceredigion),

Mae W. J. Gruffydd ac eraill o'i gyfoedion wedi dylanwadu gymaint arno yn llenyddol a chrefyddol fel ei fod wedi magu digon o asgwrn cefn i ddatgan ei syniadau yn gyhoeddus. Saer coed yw ef a'i wraig yn gofalu am gapel y M.C. yn y pentref. Ers deng mlynedd buont yn byw yn nhy'r capel. Yn fuan ar ôl penodi gweinidog newydd cafodd ei wraig daflen ac arni ddeg o reolau i'w harwyddo. Os gwrthodir eu harwyddo y mae'r teulu'n cael ei orfodi i symud o'r ty o fewn chwe mis. Mae'n anfodlon i'w wraig arwyddo oherwydd bod pwynt naw yn datgan 'Fod y tenant i gario allan unrhyw gais a ofynir gan y bugail neu y swyddogion'. Mae'n gweld cyfle ardderchog i W. J. Gruffydd i ysgrifennu llythyr agored i benaethiaid y Cyfundeb drwy'r Goleuad neu'r Cymro neu'r Western Mail. Cynhwysir copïau o'r rheolau a thri llythyr oddi wrth ysgrifennydd y capel.

R. Richards, Llangynog,

Mynegi ei siom yngl?n ag apwyntiad [prifathro] Caerdydd. Mae'n adnabod Rees yn dda ac wedi bod yn gydweithiwr iddo ym Mangor. Ni all fyth wasanaethu Cymru cystal ag y gall W. J. Gruffydd, hyd yn oed pe bai'n byw am fil o flynyddoedd. Mae W. J. Gruffydd yn sathru ar gyrn, ond yr aflwydd yw bod y cyrn yn dal i dyfu ynghynt nag y sethrir hwy. Caiff gyfle yn awr i ddal ati.

D. O. Roberts, Aberdâr,

Mae'n gwerthfawrogi'r anogaeth a roddodd W. J. Gruffydd drwy gyfrwng ei nodiadau golygyddol yn Y Llenor. Cyfeiriodd at sylwadau W. J. Gruffydd yn ei adroddiad blynyddol i'r Undeb Athrawon Cymreig. Yr oedd arwyddion cryf o ymddeffro ac o ymwybod cenedlaethol yno. Cyhudda'r Western Mail o wneud cyhuddiadau annheg yn erbyn W. J. Gruffydd bob tro y bydd yn siarad ar lwyfan. Mae'n ei annog i beidio â rhoi'r gorau i'r Llenor.

[W. J. Gruffydd at E. Jones-roberts],

Mae ei lythyr [rhif 718 uchod] yn gosod W. J. Gruffydd mewn penbleth. Bydd Lerpwl yn gofyn am dystysgrif i ddweud bod ei waith yng Nghaerdydd ar ei gwrs gradd yn ddigonol i arwain at radd M.A. Byddai'n rhaid i W. J. Gruffydd ddweud y byddai'n ofynnol i E. Jones-Roberts eistedd yr M.A. Prelim. yn ôl y rheolau. Byddent hefyd am wybod paham ei fod yn newid prifysgol. Os yw wedi pasio ei B.D. mae W. J. Gruffydd yn ei gynghori i geisio am y radd yn yr Adran Ddiwinyddiaeth. Prin y derbynnid Richard Jones o'r Wern fel testun yn yr Adran Gymraeg. Copi teipysgrif.

Emrys O. Roberts, Lerpwl,

Mae wedi cael blas mawr ar erthygl W. J. Gruffydd yn rhifyn Hydref 1940 o'r Llenor. ['Mae'r Gwylliaid ar y ffordd', cyf. XIX, tt. 112-26]. Gallai arwain i ddeffroad mawr ym meddwl politicaidd Cymru. Mae'n gofyn i W. J. Gruffydd ystyried cyhoeddi'r erthygl ar ffurf pamffledyn a pharatoi fersiwn Saesneg yn ogystal. Mae llawer yn dyheu am arweiniad yn y cyfeiriad hwn.

John Roberts, Lerpwl,

Diolch am y llyfr Hen Atgofion. Fe'i darllenodd ddwywaith a'i gael yn 'hufen bywoliaeth'. Yn sir Gaernarfon y mae ei galon. Bu mam W. J. Gruffydd yn ei ddysgu rhwng tair a chwech oed yn Ysgol y Felinheli. Mae llu o'i hynafiaid yn gorwedd ym mynwent Llanddeiniolen. Hanesyn am weld y wawr yn torri a ben yr Wyddfa. Atgofion am ardal Bethel ac am y cyfarfodydd llenyddol. Rhestru perthnasau. Bu yn gweld beddau'r teulu yn Llanddeiniolen yn ddiweddar a gofynnodd i'r clochydd a fedrai gael ei gladdu yno. Trafod y modd y bu i stâd y Faenol gosbi tenantiaid am gefnogi'r Rhyddfrydwyr. Hanes ei blant a'i hanes ei hunan. Bu'n beiriannydd ar y môr.

Kate Roberts, Tonypandy,

Cynnig stori fer i W. J. Gruffydd ar gyfer Y Llenor. Mae Morris T. Williams, ei gwr, yn amgau cân i'r Llenor. Os na fwriedir ei defnyddio hoffai ei derbyn yn ôl. Dyna'r unig gopi sydd ganddo.

Kate Roberts, Tonypandy,

Mae'n frwdfrydig iawn dros sefydlu cwmnïaeth o lenorion ond bydd yn rhaid gweithredu ar unwaith. Daeth gweledigaeth y Blaid Genedlaethol yn rhy ddiweddar ac y mae Cymru'n anobeithiol. Llenorion cyfoes Cymru yw llenorion olaf Cymru ac felly dylent gael tipyn o hwyl yng nghwmni ei gilydd. Bu R. Williams Parry yn poeni'n arw wrth feddwl y gellid cyfrif Crwys yn well bardd nag ef ymhen can mlynedd. Mae Kate Roberts yn fodlon trefnu'r cyfarfod cyntaf. Bydd amser Eisteddfod Castell-nedd yn hwylus i bawb ond G. J. Williams. Bydd ef yn brysur gyda'r Bwrdd Canol. Awgrymu cwrdd mewn tafarn yn Aberdulais. Gwahodd W. J. Gruffydd i fyny i Donypandy yn yr wythnosau dilynol - byddant yn codi tatws o'u gardd y pryd hwnnw. Nid oes rhaid gofyn i Morris T. Williams, ei gwr, i fod yn aelod o'r cwmni yn unig am ei fod yn wr iddi. Maent yn gallu trafod eu beiau llenyddol yn agored. Mae gan Morris T. Williams drwyn iawn at lenyddiaeth. Nid yw hi'n cytuno ag W. J. Gruffydd fod O Gors y Bryniau yn well na Rhigolau Bywyd. Mae arni gywilydd o ddull plentynnaidd rhai o storïau O Gors y Bryniau.

Kate Roberts, Dinbych,

Diolch iddo am ei adolygiad ar [Traed mewn Cyffion] yn Y Llenor [cyf. XV (1936), tt. 123-7]. Mae'n falch fod un, o leiaf, wedi deall ei hamcan wrth ysgrifennu'r nofel. Mae'n ymwybodol fod y cynfas yn rhy fychan ond yr oedd yn well ganddi neidio dros flynyddoedd na chrynhoi. Yr oedd dau reswm dros ei hanfon i'r Eisteddfod - gosod amser penodedig i'w gorffen a'r wobr ariannol. Cafodd ei thwyllo o hanner hwnnw. £50 oedd y wobr gyfan ac nid £100 fel y dywedodd T. J. Morgan [mewn adolygiad ar y gwaith arall Creigiau Milgwyn gan Grace Wynne Griffith]. 'Suntur a Chlai' oedd ei theitl cyntaf. Mae'n nodi'r anawsterau yr oedd ynddynt wrth ysgrifennu'r gwaith a bu'n rhaid ei chyhoeddi fel ag yr oedd er mwyn cadw'r pris yn hanner coron. Mae'n bwriadu ei gorffen rywdro drwy ddilyn helyntion William yn y De. Amddiffyn ei hunan rhag beirniadaeth yngl?n â diffyg digrifwch y llyfr. Arddull awduron Ffrengig a'r modd yr ysgrifennwyd 'Buddugoliaeth Alaw Jim'. Mae'n bwriadu ysgrifennu stori arall i'r Llenor ond bu'n rhy brysur oddi ar iddi ddod i Ddinbych. Mae ganddi chwe stori ar gyfer ei chyfrol nesaf. Mae'n amgau torion o'r Genedl gan 'Caswallon' a 'Cymro' sy'n cyfeirio at gystadleuaeth y nofel yn Eisteddfod Castell-nedd. Maent wedi prynu Gwasg Gee. Busnes digalon iawn yw cyhoeddi llyfrau Cymraeg. Sefyllfa druenus Cymru. Mae pawb bron yn Ninbych yn deall Cymraeg ond bod y bobl ifanc yn mynnu siarad Saesneg. Cymraeg yw iaith yr ardaloedd gwledig o gwmpas. Mae Dinbych yn lle braf i fyw ynddo. Bwydydd ffres. Dim ond taith deng munud sydd yna at fedd 'Twm o'r Nant' ac nid yw Maes-y-plwm ymhell ychwaith. Falch o glywed yr hyn a ddywedodd W. J. Gruffydd am Hatter's Castle. Mae'n amlwg o ddarllen Three Loves fod yr awdur yn seilio datblygiad y nofel ar ystyfnigrwydd ei brif gymeriad. Canmol gwroldeb W. J. Gruffydd ym Mhwllheli. Yr unig beth sy'n ei chadw rhag rhoi'r cwbl i fyny yngl?n â Chymru yw gweld ysbryd di-droi'n ôl pobl fel W. J. Gruffydd a Saunders Lewis. Torion papur newydd o'r Genedl.

Kate Roberts, Dinbych,

Mae'n cytuno i adolygu Hen Atgofion a Storïau Dilys Cadwaladr. Mae'n bwriadu rhoi copi o Hen Atgofion i'w mam sydd wedi cael pleser mawr o ddarllen y gyfres yn Y Llenor. Canmol gwaith Dilys Cadwaladr - mae ganddi ryw gallineb sy'n gweld trwy ragrith a phethau felly. Mae ei storiau gorau yn well o ran crefftwaith na rhai D. J. Williams. Mynegi'r pleser a gafodd o ailddarllen y bennod am fam W. J. Gruffydd yn Hen Atgofion. Rhoddodd dawelwch iddi wrth ei darllen. Ymddiheuro am anfon stori'r 'Cwilt' ato ar gymaint o frys. Bydd rhaid ei thrwsio cyn ei chyhoeddi mewn llyfr. Mae awydd arni ysgrifennu stori ddigri er mwyn yr adolygwyr sy'n dweud nad oes gan Kate Roberts ddim hiwmor. Mae'n gobeithio gorffen 'Ysgolfeistr y Bwlch' rywbryd. Mae ganddi erthygl yn Y Ddraig Goch cyfredol yn condemnio'r Blaid yn hallt am ei diffyg diddordeb mewn etholiadau lleol. Gallesid bod wedi rhwystro'r ysgol fomio pe bai aelodau ar y pwyllgorau lleol. Gresyn bod ymraniadau o fewn y Blaid ei hunan. Mae arwyddion Ffasgiol yn y Welsh Nationalist. Ymddengys fel petai rhyw dynged yn rhwystro Cymru rhag bod yn un. Canfu Kate Roberts o ddarllen hen rifyn o'r Ymwelydd Misol ei bod yn cael ei phen blwydd ar yr un diwrnod ag W. J. Gruffydd ond ei fod ef union ddeng mlynedd yn hyn na hi.

Kate Roberts, Dinbych,

Gofyn i W. J. Gruffydd a gafodd wahoddiad gan Yr Aelwyd i ddod i siarad. Bu'r ysgrifennydd yn hir iawn yn ysgrifennu, felly mae Kate Roberts yn gofyn iddo ddod er mwyn i'r Aelwyd fod yn llwyddiant mawr. Yr unig boen yw bod y tâl yn fychan - dwy gini yn cynnwys treuliau. Hwyrach bod ganddo gyhoeddiad arall yn yr un ardal ac y gellid trefnu'r ddau tua'r un adeg. Mae Morris T. Williams, ei gwr, yn gynghorydd ar dref Dinbych, cafodd ei ethol yn ddiwrthwynebiad. Hysbyswyd yn y Wasg Saesneg ddechrau'r wythnos y byddai neges oddi wrth y Tri [Saunders Lewis, D. J. Williams a Lewis Valentine] yn Y Ddraig Goch nesaf. Bu cynrychiolydd y Daily Mirror yn swyddfa Gwasg Gee y diwrnod cynt yn cynnig pum punt i un o'r dynion am gael y neges cyn i'r Ddraig Goch ymddangos. Fe'i hanfonwyd at Morris T. Williams a rhoddodd hwnnw bryd o dafod iddo. Fe hysbysodd Morris T. Williams yr heddlu hefyd ac os daw'r dyn yn ôl bydd plismon yn gwrando arno. Ni wyddai fod Morris T. Williams yn aelod o'r Blaid Genedlaethol. Y mae wedi darllen pedair pennod o gofiant O. M. Edwards. Mae'r ty fel hotel ym mis Awst. Yr oedd Y Llenor diwethaf yn odidog. Cafodd agoriad llygad wrth ddarllen hanes William Jones [Y Llenor, cyf. XVI (1937), tt. 77-87]. Mae'n dyfynnu darn o adolygiad W. D. D. o'r Cymro ar Y Llenor: 'Ysgrifenna Dafydd Jenkins yn ddiddorol iawn ar y Teify Dairy'!! [Stori fer oedd 'Teivy Dairy'].

Kitty Jones Roberts, Blaenau Ffestiniog,

Diolch am ei lythyr. Mae'n gallu deall angen W. J. Gruffydd am le i encilio iddo am ddeufis yn yr haf. Nid yw'n adnabod arfordir y dwyrain ond byddai hysbyseb yn Y Times neu Lady yn sicr o weithio. Yn y Lady y bydd pobl Abersoch yn cael hyd i'w hymwelwyr i gyd. Fe'i ganed yn bagan ac felly ni all ddeall yr angen am bwrpas i fywyd a deimla cymaint o bobl. Mae swn y gwynt yn y brwyn ar ben y Migneint yn ddigon o reswm iddi hi am bopeth. Fe fydd yn rhaid i W. J. Gruffydd gael bwthyn yn sir Gaernarfon cyn y bydd iddo gael tawelwch llwyr. Gofyn iddo roi gwybod iddi am ei drefniadau'r Sulgwyn. Byddant yn Harlech ar y Llungwyn er mwyn yr enwebiad.

[R.] Alun [Roberts], Bangor,

Mae'n ofni y bydd yn rhaid iddo fod yn llym ac angharedig wrth y gyfrol [Glamorgan County History I] yn ei adolygiad [gw. Y Llenor, cyf. XVI (1937), tt. 59-64]. Mae'n bwriadu ysgrifennu adolygiad pur faith a bydd raid i'r dasg aros tan wyliau'r Nadolig. Hoffai wybod beth a fwriedir yng ngweddill y gyfres.

R. E. Vaughan Roberts, Llanarmon yn Iâl,

Trafod y term 'cari dyms' yn Hen Atgofion, t. 152. Sôn am 'gari bans' - rhywbeth tebyg i sipsiwn. Hwyrach i'r term darddu o'r term 'gari fan' fel yr yngenid ef. Bygythid hefyd y 'dra bans' yn ogystal â'r 'Sowldiar coch' a'r sipsiwn ar blant drwg. Trafod 'Ned Drabwn' a 'Wil Drabwn' dau gymeriad yn y Bala, a elwid felly am fod eu tad yn canu'r trombone ym mand Milisia'r dre. Pryfed yw prif ddiddordeb R. E. Vaughan Roberts ac ysgrifennodd ddeugain o ysgrifau ar y pwnc. Ymddangosodd rhai ohonynt yn Yr Haul. Bwriada gyhoeddi'r deunydd yn gyfrol ar ddiwedd y rhyfel. Methodd â chael term Cymraeg i'r cockroach.

Robert John Rowlands ('Meuryn'), Caernarfon,

Diolch am ymateb i'w gais yn yr Herald yn gofyn am ysgrif ac am yr ysgrif gampus gan W. J. Gruffydd yn y Western Mail. Tila ac annheilwng oedd ysgrifau T. Gwynn Jones a Henry Lewis. Ni ellid casglu oddi wrth eu sylwadau hwy fod neb o bwys wedi marw. Mae'n wir ddrwg ganddo na phenodwyd W. J. Gruffydd yn Brifathro [yng Nghaerdydd]. Gwnaeth sylwadau ar hynny yn Yr Herald. Cydymdeimlo hefyd ag W. J. Gruffydd ar golli ei dad.

Gr?p o ohebiaeth yn ymwneud ag achos o enllib gan gwmni Selfridge, Llundain, yn erbyn W. J. Gruffydd yn 1929 ...,

Ymddangosodd hanesyn yn Y Ddraig Goch yn honni bod arwydd yn ffenestr siop Selfridge yn Llundain yn dweud 'No Welsh girls need apply'. Ymddengys nad oedd yr hanesyn yn wir, ond yr oedd W. J. Gruffydd wedi dyfynnu'r stori mewn darlith yn Aberteifi a chafodd y sylw ei nodi mewn adroddiad yn y Cardigan & Tivy-side Advertiser. Bu raid i W. J. Gruffydd a'r papur gyhoeddi ymddiheuriad mewn nifer o bapurau a thalu costau o bedair gini.

G. Arbour Stephens, Abertawe,

Llythyr yn cymeradwyo dyfyniad yn y Western Mail o sylw golygyddol gan W. J. Gruffydd yn Y Llenor. Hoffai pe bai Cymry yn gallu sylweddoli gwir arwyddocâd ei sylwadau. Nid oes corff mwy totalitaraidd ar gael na'r Eglwys Gatholig, un sy'n ceisio chwarae a bwydo ar emosiynau ac ofergoelion pobl gyffredin. Fe geisiodd y pulpudau Cymreig ddynwared hyn gyda chanlyniadau trychinebus.

Results 181 to 200 of 950