Papurau'r Pwyllgor Gwaith: 1980-1983
- CSP2/7
- ffeil
- 1980-1983
Papurau'r Pwyllgor Gwaith: 1980-1983
Papurau'r Cyfarfod Blynyddol: 1983-1987
Papurau'r Cyfarfod Blynyddol: 1985
Papurau'r Cyfarfod Blynyddol: 1988
Papurau'r Cyfarfod Blynyddol: 1989
Papurau'r Cyfarfod Busnes: 1973-1977
Pwyllgor Hanes Llenyddiaeth: 1983-1987
Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth Euros Bowen, a threfniadau Cynhadledd Caredigion Taliesin yn benodol, ynghyd â sylwadau ar gyhoeddi Taliesin. Mae'n cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus, yn eu plith; Gwenallt, Bobi Jones, Alun Talfan Davies, John Gwilym Jones, Kate Roberts, Bedwyr Lewis Jones, Gwyn Thomas, Rhiannon Davies Jones, Alun Jones, Y Cilie, Gareth Miles a G. J. Williams.
Jones, Bobi, 1929-2017
Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth Gwyn Thomas, ynghyd â sylwadau ar gyhoeddi Taliesin. Mae'n cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer o lenorion adnabyddus, yn eu plith; Gwenlyn Parry, Dic Jones, Tecwyn Lloyd, Islwyn Ffowc Elis, Rowland Mathias a Meic Stephens. Ceir cyfeiriadau at sefydlu Cymdeithas Awduron Cymru ac Adran Saesneg yr Academi Gymreig.
Thomas, Gwyn, 1936-
Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth Gwyn Thomas, gan gynnwys trefniadau Cynhadledd Taliesin, Cyfarfod Coffa D. J. Williams a'r cynlluniau gwreiddiol ar gyfer Cyfres Cyfieithiadau'r Academi. Mae'n cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus.
Thomas, Gwyn, 1936-
Gohebiaeth gyffredinol: 1971-1974
Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth Gwyn Thomas a John Rowlands. Ceir cyfeiriadau at drefniadau Cynhadledd Taliesin, at berthynas yr Adran Gymraeg a'r Adran Saesneg, at y trefniadau ar gyfer penodi ysgrifennydd cyflogedig cyntaf Adran Gymraeg yr Academi ac at gyfraniad yr Academi i'r ymgyrch ddarlledu. Mae'n cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus ac at gyflwyno Gwobr Goffa Griffith John Williams i Owain Owain, yn 1971, am ei gyfrol Bara Brith ac i Einir Jones, yn 1972, am ei chyfrol Pigo Crachan.
Thomas, Gwyn, 1936-
Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth John Rowlands. Ceir trafodaeth benodol ar ddyfodol cyfansoddiadaol yr Academi.
Rowlands, John, 1938-2015
Gohebiaeth gyffredinol: 1974-1976
Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd, gan gynnwys llawer o ohebiaeth ynglŷn â materion ariannol a'r newidiadau cyfansoddiadol oedd yn yr arfaeth. Ceir cyfeiriadau at gyhoeddi Taliesin ac at y cais i ennill Gwobr Nobel i Saunders Lewis yn ogystal â chyfeiriadau at dderbyn Geraint Gruffydd a Wil Sam yn aelodau o'r Academi.
Gohebiaeth gyffredinol: ffeil Bobi Jones
Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd, gan gynnwys ymweliad awduron o'r Ffindir a helynt diswyddo'r trefnydd.
Jones, Bobi, 1929-2017
Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd, ynghyd â phapurau rhai o'r pwyllgorau, yn trafod, ymysg pethau eraill, cychwyn y gwaith ar y Cydymaith i lenyddiaeth Gymraeg a chyflwyno Gwobr Goffa Griffith John Williams i Dafydd Rowlands am Mae Theomemphus yn hen ac i Aled Islwyn am Lleuwen.
Rowlands, Dafydd
Gohebiaeth gyffredinol: ffeil golygydd cynorthwyol Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru
Mae'r ffeil yn cynnwys copïau carbon o'r llythyrau a yrrwyd allan o'r swyddfa, gan Christine James, golygydd cynorthwyol Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, rhwng 1978 a 1980.
Gohebiaeth gyffredinol: Cyfeillion y Theatr Gymraeg
Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth a phapurau yn ymwneud â pherthynas yr Academi a Chyfeillion y Theatr Gymraeg yng Nghaerdydd rhwng 1978 a 1981. Yn ogystal â'r ohebiaeth mae'r ffeil yn cynnwys eu rhaglenni a'u posteri a chopi o'u cyfansoddiad wedi ei ddyddio 26 Ionawr 1978.
Cyfeillion y Theatr Gymraeg
Gohebiaeth gyffredinol: Cymdeithas Celfyddydau De Ddwyrain Cymru