Gohebiaeth gyffredinol Taliesin
- CCT2
- cyfres
- 1974-1994
Gohebiaeth gyffredinol Taliesin
Geiriadur yr Academi: gohebiaeth
Mae'r gyfres hon yn cynnwys gohebiaeth sy'n adlewyrchu gweinyddiad y Geiriadur a pherthynas yr Academi, y Geiriadur â'r gwahanol gyrff oedd yn gysylltiedig â'r cynllun, 1975-1993.
Heb deitl
Mae'r gyfres yn cynnwys papurau yn ymwneud â Chynllun Creu Gwaith y Llywodraeth, 1975-1977; cysylltiadau rhyngwladol, 1977-1978; erthyglau a ysgrifenwyd ar waith y geiriadur, 1977-1989; darlith y Geiriadur, 1982-1983; geiriaduron lleiafrifoedd eraill, 1983; cytundeb a Gwasg y Brifysgol, 1988.
Heb deitl
Mae'r gyfres yn cynnwys sawl drafft o lawlyfr yr Academi ac yn adlewyrchu peth o'r ansicrwydd a fodolai ynglŷn â phwy yn union oedd yn gyfrifol am sefydlu'r Academi, a'r anghytundeb a fu ynglŷn â hyn, rhwng Bobi Jones a rhai o'r aelodau eraill, 1977-1980.
Mae'r gyfres yn cynnwys deunydd sy'n adlewyrchu gweithgaredd yr Academi a'r tîm ymchwil, dan arweiniad Iwan Llwyd, wrth iddynt baratoi ar gyfer cyhoeddi'r Llyfrynnau Llenorion, 1981-1983.
Heb deitl
Cyfres y clasuron : : Cronicl Elis Gruffydd,
Adysgrif o Gronicl Elis Gruffydd, 'y milwr o Galais', NLW MS 5276D a NLW MS 3054D (Mostyn MS 158 gynt), a fwriadwyd i'w gyhoeddi o bosib fel rhan o gyfres Clasuron yr Academi.
Mae'r gyfres yn cynnwys ffeiliau o ohebiaeth, adroddiadau a chofnodion yn ymwneud â threfniadau a digwyddiadau'r cynadleddau, 1972-1992.
Heb deitl
Mae'r gyfres yn cynnwys gohebiaeth a phapurau perthynol yn ymwneud a gweithgaredd yr Academi yng nghylch Caerdydd rhwng 1979 a 1990 yn arbennig felly y gweithgareddau yn ymwneud â'r theatr a gynhaliwyd yn ystod y 1980au cynnar.
Heb deitl
Cystadleuthau i lenorion ieuanc
Mae'r gyfres yn cynnwys gohebiaeth, beirniadaethau ac enghreifftiau o waith rhai o'r llenorion ieuanc oedd yn cymryd rhan yn y cystadleuthau yn ogystal â deunydd yn ymwneud â gwobrwyo'r llenorion buddugol, 1982-1988, 1994.
Heb deitl
Mae'r gyfres yn cynnwys papurau'r Pwyllgorau Blynyddol; agenda, cofnodion, adroddiadau a pheth gohebiaeth berthynol.
Heb deitl
Mae'r gyfres yn cynnwys papurau'r cyfarfodydd busnes; agenda, cofnodion, adroddiadau a pheth gohebiaeth berthynol.
Heb deitl
Mae'r grŵp yn cynnwys ffeiliau yn ymwneud yn benodol â materion aelodaeth, ethol aelodau newydd, swyddogion a chymrodorion, yn ogystal â manylion bywgraffyddol am rai o'r aelodau.
Cofnodion Pwyllgor y Geiriadur
Mae'r gyfres yn cynnwys cofnodion y Bwrdd Golygyddol rhwng 1975 a 1988, ynghyd â rhai llythyrau ac adroddiadau.
Rheolwyd y Geiriadur gan Fwrdd Golygyddol a gyfarfu am y tro cyntaf ar 1 Awst 1975 dan gadeiryddiaeth J. E. Caerwyn Williams.
Mae'r grŵp yn cynnwys deunydd yn ymwneud â threfnu'r cyrsiau unigol.
Heb deitl
Mae'r gyfres yn cynnwys ffeiliau yn ymwneud â chynadleddau amrywiol a gynhaliwyd ar y cyd rhwng yr Academi a Gweled, 1983-1991.
Morris, John Meirion, 1936-