Showing 2258 results

Archival description
Papurau Carneddog
Advanced search options
Print preview View:

1 results with digital objects Show results with digital objects

John W. Jones,

Minffordd, Oakeley Square, [Blaenau Ffestiniog]. At Mrs Griffith a'r teulu. Diolch iddi am hanes Isallt a sôn ychydig amdano. Sôn am Bob Owen, R. E. Davies, gwraig Eifion Wyn a'r plant a'r newid ym Mhorthmadog. Dymuno Blwyddyn Newydd Dda.

Henry Owen at 'Cyfaill',

Middle Granville, Washington. Llythyr yn ceisio perswadio ei gyfaill rhag ymfudo i'r Amerig gan roi rhesymau a disgrifio sefyllfa'r wlad.

Job Owen,

Llanberis. Gofyn i Carneddog geisio cael ei ysgrifau ar 'Hynafiaethau Nantgwynant' etc., yn ôl oddi wrth O. M. Edwards.

Ap Glaslyn [Y Parch. John Owen],

Llanbradach. Llythyr galar yn diolch i Carneddog am ei gydymdeimlad ar golli ei wraig ac yn disgrifio ychydig ar yr angladd. Ceir toriad allan o'r Western Mail hefyd yn sôn amdani.

John Owen,

Bryn Beuno, Caernarfon. Gofyn am gopi o Tannau Tegfelyn. Dymuno'n dda.

Lizzie Brothen Owen,

Bebington. Diolch i Carneddog am ei eiriau caredig am ei rhieni. Bwriadu cadw llyfr o waith ei thad. Holi hynt Miss Mary Thomas o Coventry.

Owen Owens,

Caergethin, Harlech. Anfon pedwerydd pennill rhyw gerdd i'r 'Manion'.

Owen Owens.

Rhosdai Dinorwig, Deiniolen. Anfon rhai cerddi o glywodd gan glaf arall tra yn yr ysbyty. Sôn am Eryri, cerdd yn amgaeedig.

Owen J. Owen,

Penrallt, Pen-y-groes. Disgrifio rhai o hen drigolion Nant Gwynant.

R. Owen,

Brynllwyd, Nantglyn. Cyfarchion. Gofyn i Carneddog roi cerdd ddoniol Wil Ellis yn Y Faner. Canmol ei golofn. Sôn am ei deulu a'u cysylltiad â Jac Glanygors.

Thomas R. Owen,

Ty Newydd, Penisa'r-waun. Anfon rhagor o englynion i'w rhoi yn y 'Manion'.

Results 2221 to 2240 of 2258