Minffordd, Oakeley Square, [Blaenau Ffestiniog]. At Mrs Griffith a'r teulu. Diolch iddi am hanes Isallt a sôn ychydig amdano. Sôn am Bob Owen, R. E. Davies, gwraig Eifion Wyn a'r plant a'r newid ym Mhorthmadog. Dymuno Blwyddyn Newydd Dda.
Llanbradach. Llythyr galar yn diolch i Carneddog am ei gydymdeimlad ar golli ei wraig ac yn disgrifio ychydig ar yr angladd. Ceir toriad allan o'r Western Mail hefyd yn sôn amdani.
Brynllwyd, Nantglyn. Cyfarchion. Gofyn i Carneddog roi cerdd ddoniol Wil Ellis yn Y Faner. Canmol ei golofn. Sôn am ei deulu a'u cysylltiad â Jac Glanygors.