2 Cambrian Terrace, Llanberis. 'Trydydd Epistol' Ioan yn sôn am ei gardota o le i le ac o ddrws i ddrws am hen emynau ac yn anfon ychydig ohonynt (yn eisiau) nad oedd yn ymddangos yn Llyfr Emynau y Cyssecr a rhai yn llawysgrif Elidirfab.
2 Cambrian Terrace, Llanberis. Sôn am ei lwyddiant yn gwerthu Gwreichion i Carneddog; a theitlau cyfrol a werthodd i fachgen yn Llanberis. Sôn am fwriad Carneddog ac yntau i ymweld â Chwmdyli a threfnu cwrdd. Atgofion dyddiau ysgol. Rhagor o emynau (yn eisiau).
2 Cambrian Terrace, Llanberis. Llythyr yn ymwneud â chasgliad Carneddog o atgofion am y diweddar William Wmffra o Dan-y-Bryn. Rhoi hanes amdano fel adroddwr a chantor.
Rhif Ail Rhestai'r Cambrian, Llanberis. Llythyr yn sôn am enwogion plwyf Beddgelert sef Howel Ellis a Henry Thomas, hefyd ei hiraeth ar farwolaeth ei frawd, Ebenezer. Cydymdeimlo â Charneddog ar golli ei frawd yntau. Ceir englyn i Ebenezer gan Elidirfab - (John Ellis Jones).
Bryntirion, Llanberis. Anfon ychydig ddalennau allan o ddyddlyfr ei ddiweddar fab, Hugh J. Jones, a ysgrifennodd yn Nwyrain Affrica adeg y Rhyfel Byd Cyntaf. Ceir dau bennill o'i eiddo ac un o eiddo Ioan Gwynant.
Minffordd, Oakeley Square, [Blaenau Ffestiniog]. Llythyr wedi ei anfon gyda cherdd i'r 'Manion' (yn eisiau). Crybwyll Dewi Glan Dulas Gwilym Ychain, Bob Owen, Anthropos, Bob Ellis, R. E. Jones. Dymuno Nadolig Llawen.
Minffordd, Oakeley Square, [Blaenau Ffestiniog]. Llythyr yn cwyno am ei iechyd a iechyd ei wraig. Sôn am leidr a ddygodd agoriad ei dy, am Robert Jones, Bryn Brisgyll. Dymuno Nadolig Llawen.