Showing 2204 results

Archival description
Papurau Carneddog File
Print preview View:

1 results with digital objects Show results with digital objects

Ellis E. Jones,

Gaerwen, Rhostryfan. Talu am gopi o Cerddi Eryri - rhoi enwau prynwyr eraill iddo. Sôn am farwolaeth ei frawd-yng-nghyfraith gydag englyn gan ewythr hwnnw, sef Owain Dinorwig, yn ei funudau olaf:. 'Heno'r wyf yn yr afon - mewn lli. Mae'n llawn hyd yr ymylon.'.

Emyr Jones,

Gorffwysfa, Penrhyndeudraeth. Bwriadu ymweld ag ef gyda Mr Tom Parry a'i wraig ar 27 Awst.

Evan Jones,

1 Jones Street, Blaenau Ffestiniog. Cyflwyno ei hun. Sôn am farw John a Margaret Roberts - egluro ei berthynas â hwy. Sôn am afiechyd John Davies, 2 Bowydd View.

Evan Jones,

Garreg Lwyd, Tal-y-sarn, Pen-y-groes. Sôn am Myfyr o'r Coed sef William E Jones a gofyn am lyfryn a gyhoeddwyd ganddo yn 1885.

Evan Jones,

Ty'n-y-pwll, Rhoshirwaun. Anfon billheads y diweddar G. Jones, Hebron, Llyn, i'r 'Manion', sef cân un o feirdd cartref yr ardal (yn eisiau).

Ianto Soch (Evan Jones).

Glan-rhyd, Botwnnog. Eisiau eglurhad am yr holl enwau ffermydd yn Llyn yn dechrau â 'Bod' - gan gynnwys pennill.

H. T. Jones,

Wood River, Ponoka, Alberta, Canada. Llythyr i'r 'Manion' yn trafod penillion am 'Mary Ann'.

Henry Jones,

96 Watergate Flags, Chester. Talu am gyfrolau o Cerddi Eryri. Canmol gwaith Carneddog yn y Geninen a'r Cymru. Egluro mai 'mab y mynydd' ydyw yntau - Sôn am ei dras.

Hugh R. Jones (Glandwyffrwd).

Ty'n y Coed, Llanrhychwyn, Trefriw. Atgofion taith i'w hen gartref genedigol. Ceir englyn o feddargraff, hen bennill yr arferai ei dad ei adrodd, a phennill o'i eiddo ef ei hunan.

Results 81 to 100 of 2204