Dangos 2204 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Carneddog Ffeil
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

1 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

W. R. Jones.

Nant Gwynant. Amgau englyn er cof am Mrs Jones, Dolafon, gan ofyn i Carneddog beidio â rhoi ei enw wrtho pe cyhoeddid ef.

W. R. Jones,

Llanfrothen. Llongyfarch Carneddog ar gael rhodd gan y llywodraeth.

W. Roberts,

Walton, Lerpwl. Llythyr yn ymwneud ag ymholiad Carneddog yn y 'Manion' ynglyn â 'holi y plismon' sef Sergeant Rowlands, Bethesda. Holi am rai o'i gyd-ddisgyblion yn Namor, e.e. John Aber Jones a Dafydd, Cae'r llwynog, sef y Parch. D. D. Williams, Lerpwl.

W. T. Ellis,

Porthmadog. Diolch am y gyfrol Tannau Tegfelyn. Gofyn am hanes Pwllheli.

W. T. Williams,

Bangor. Sôn am hen gloc oedd ganddo wedi ei wneud gan Robert Jones, Caer.

W. W. Davies,

Englyn yn gyflwynedig i Shanto ac Idris ar eu priodas, 2 Hydref 1937.

W. Williams,

Llanberis. Sôn am hen lyfryn ym meddiant 'Alarch Gwyrfai' ac am 'Sian Nog' a gwr di-enw a gladdwyd ym mynwent Beddgelert.

W. W[illiams],

Llanrwst. Da clywed bod llyfr arall ar y ffordd (cerdyn post).

W. Williams,

Mynytho. Esbonio pwy yw ef, sôn am drychineb yn Afon Ynysfor pan foddodd Robert Hughes.

Waeth Bwy,

Groeslon. Anfon copi o gân Owen Parri ar gyfer E. Jones a rhoi tipyn o hanes Owen Parri.

Wil Huws.

Ymddiheuro am beidio ag ysgrifennu ynghynt; Sôn am gerddi gan Tegfelyn.

William a Laura Griffith,

Hillside, 4 Gwynant St., Beddgelert. Dymuno i Garneddog nodi yn ei golofn eu bod yn briod ers hanner can mlynedd.

Canlyniadau 2081 i 2100 o 2204