Print preview Close

Showing 2204 results

Archival description
Papurau Carneddog File
Advanced search options
Print preview View:

1 results with digital objects Show results with digital objects

John Aber Jones,

St Anne's-on-Sea. Tywydd. Llongyfarch Carneddog ar ei briodas aur gydag atgofion o'r diwrnod. Toriad papur newydd am y Parchedig John Lewis o'r Rhondda a adeiladodd gapel yn Tyldesly, swydd Gaerhirfryn.

John Aber Jones,

14 Cudworth Road, St Anne's-on-Sea. Trafod y rhyfel a chrefydd. Y tywydd - eira a rhew mawr 1879 ac 1895. Anfon llith ar 'hen ddarluniau' a 'cân y gog' (yn eisiau). Trafod y gair 'ffyniant'.

John Aber Jones,

14 Cudworth Road, St Anne's-on-Sea. Llythyr yn disgrifio a mynegi barn ar y rhyfel yn bennaf.

John Aber Jones,

14 Cudworth Road, St Anne's-on-Sea. Trafod iechyd, 'Lady' Buckley, y rhyfel, Meuryn yn siarad am Evan Roberts ar y radio a'r ffurf 'ugian'.

John E. Jones (Ioan Gwynant),

2 Cambrian Terrace, Llanberis. Tudalen olaf llythyr yn mynegi siom ac yn ymddiheuro am fethu â chyfarfod Carneddog yng Nghwmdyli gan ddisgrifio ei symudiadau. Cyfeirio at rhai gwallau yn Gwreichion Diwygiadau (anghyflawn).

John Elias Jones,

863 Shepard Avenue, Milwaukee, USA. Llythyr personol teipiedig. Canmol Carneddog. Sôn am amryw gymeriadau a weithiai gyda'r cwmni yswiriant yn Milwaukee. Sôn ychydig am y teithiau i'r eisteddfod.

John Elias Jones,

863 Shepard Avenue, Milwaukee. Cerdyn post a llun y cwmni yswiriant arno. Gofyn iddo anfon ambell ysgrif i'r Drych.

John J. Jones,

General Stores, Llandwrog Uchaf. Amgau deunydd (yn eisiau) i'r wasg gan ofyn i Carneddog ymatal rhag rhoi ei enw priodol wrtho.

Ioan Brothen (John O. Jones),

Garreg Ganol, Llanfrothen. Gofyn i Carneddog roi nodyn yn y 'Manion' ar briodas Llwyd y Bugail. Sôn am farwolaeth Evan Jones ac englyn Mary Thomas.

(Ioan Eryri) John W. Jones.

Poultney, Rutland Co., Vermont. Llythyr yn cynnig cymorth wrth gyhoeddi y gyfrol ar Dewi Glan Dulas, sôn am Eisteddfod Utica, a phrisiau argraffu.

John W. Jones, (Ioan o'r Foel).

Y Foel Gwnus, Llithfaen. Hiraeth ar ôl ei ddiweddar dad [Richard O. Jones]. Bwriadu ysgrifennu ei hanes a chofnodi ei ddywediadau. Rhoi braslun o'i fywyd a'i waith.

Ioan o'r Foel (John W. Jones),

Foel Gwnus, Llithfaen. Llythyr, yn sôn yn bennaf am Tom y Cilia, Ioan Mai Evans ac ychydig o'i wiath. Ceir llith er cof am W. H. Roberts, Llithfaen.

Ioan o'r Foel (John W. Jones),

Foel Gwnus, Llithfaen. Gresyn iddo golli'r Eisteddfod eleni eto. Bu T. E. Nicholas yn darlithio ar dwyll Chamberlain - Sôn am ei lith wythnosol yn Y Cymro. Mwynhau ysgrif Canwy.

J. W. Jones,

Minffordd, Oakeley Square, [Blaenau Ffestiniog]. Sôn am amryw bobl megis Prosser Rees, Richard Hughes, Ioan Brothen, Tegfelyn, Eifion Wyn, Bob Owen, Kelt ac eraill. Annog Carneddog i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1925.

Results 2141 to 2160 of 2204