Dangos 2258 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Carneddog Cymraeg
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

1 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

D. L. Davies,

Rorsedd, Chwilog. Canmol Cerddi Eryri a gwaith da Carneddog gan amgau arian am gopi arall.

D. Lloyd Evans,

120 Boylston Street, Boston. Awyddus i Carneddog anfon copi o Blodau'r Gynghanedd iddo ac Ystyron Enwau hefyd.

D. Lloyd Roberts,

Manceinion. Archebu copïau o [Blodau Awen Bardd Bach Hen Efail] ar gyfer ei hun a'r Ford Gron.

D. R. Daniel,

Four Crosses, Chwilog. Cerdyn post yn hysbysu Carneddog ei fod wedi camgyfeirio llythyr ato. Nodiadau ar Tal o Eifion oedd ei gynnwys.

D. R. Hughes,

16 Durand Gardens, London. Gofyn am gyfeiriad W. Arthur Roberts, Worthing. Sôn am Mary Hughes, Llangollen, a llyfrau D. R. Daniel.

D. R. Hughes,

Y Bwthyn, Hen Golwyn. Ei longyfarch ar gyrraedd pedwar ugain oed.

D. Rhys Phillips,

Llyfrgell Gyhoeddus, Abertawe. Diolch am gopïau o O Greigiau'r Grug. Saesneg/English.

D. T. Hughes,

Tyddyn-yr-Eglwys, Llanfihangel-y-Traethau. Anfon arian am gopi o'r gyfrol O Greigiau'r Grug.

D. T. Morgan,

Abermaw. Anfon copi o'r llyfr ato a rhyw hanner dwsin at Delynor Mawddwy i'w gwerthu.

D. T. Morgan,

Abermaw. Anfon anrheg Nadolig. Y Blagur wedi eu gwerthu i gyd. Rhai copïau o'r gyfrol O Greigiau'r Grug ar ôl ond y mae'n siwr o'u gwerthu.

D. T. Morgan,

Abermaw. Gofyn am help i drefnu cylchdaith Undeb Cenedlaethol y Cymdeithasau Cymraeg, gan rhoi llawer o hanes yr Undeb.

D. T. Morgan,

Gofyn am gymorth i ysgrifennu papur ar 'Agwedd y Bedyddwyr at Addysg Fydol o 1800 i 1870'. Sôn am ei dad, y Parchedig T. R. Morgan. Eu llongyfarch ar eu priodas aur.

D. T. Morgan,

1 High Street, Abermaw. Sôn am y 'Manion' a'r cyfeiriad ato ef. Argraffiad cyntaf Y Blagur bron wedi eu gwerthu i gyd. Trafod llyfrau syml i blant.

D. T. Morgan,

Abermaw. Anfon adroddiad i'w roi yn y 'Manion' am Yr Hen Delynor (yn eisiau) ac amgau nodyn oddi wrtho, sef Telynor Mawddwy (D. Roberts, Abermaw).

D. Walter Morris,

Llangeitho. Anfon siec er mwyn cael copi o Cerddi Eryri. Saesneg/English.

Canlyniadau 241 i 260 o 2258