Dangos 3 canlyniad

Disgrifiad archifol
Emyr Humphreys Papers Hoddinott, Alun
Rhagolwg argraffu Gweld:

Cydweithrediad gydag Alun Hoddinott / Collaboration with Alun Hoddinott

Papurau amrywiol yn ymwneud yn bennaf â chydweithrediad Emyr Humphreys â’r cyfansoddwr Alun Hoddinott, gan gynnwys nodiadau llawysgrif yn llaw Emyr Humphreys; drafft o lythyr at Alun Hoddinott oddi wrth Emyr Humphreys (heb ddyddiad); nodyn gan Geraint Lewis yn ymwneud â’r erthygl ‘Hoddinott at 60’, ynghyd â chopi o’r erthygl (1989); llythyr oddi wrth E. Butler (1975), yn trafod y gwaith ‘Five Landscapes’ (cyhoeddwyd fel ‘Landscapes: Ynys Môn : a song cycle for high voice and piano’, Llundain: OUP, 1976), ynghyd â chopi; rhagymadrodd i ‘Songs of Exile: Poems by Emyr Humphreys’ gan Alun Hoddinott (a recordiwyd gan Gerddorfa Symffoni Gymreig y BBC, 1989); rhaglen ar gyfer opera Hoddinott ‘The Beach of Falesá’ (perfformiwyd gan Gwmni Opera Cenedlaethol Cymru, 1974); tocynnau ar gyfer Wythnos Gerdd Dewi Sant y BBC (1978); llythyr gan Emyr Humphreys yn ymwneud â Chwmni Theatr Cenedlaethol Cymru, ynghyd ag adroddiad (1967); a chopi o gerdd Humphreys ‘How the Prince Found a Wife’, ynghyd â llythyrau a phapurau pellach. / Various papers mainly relating to Emyr Humphreys’ collaboration with the composer Alun Hoddinott, including manuscript notes in the hand of Emyr Humphreys; a draft of a letter to Alun Hoddinott from Emyr Humphreys (undated); a note from Geraint Lewis relating to the article ‘Hoddinott at 60’, together with a copy of the article (1989); a letter from E. Butler (1975), discussing the work ‘Five Landscapes’ (published as ‘Landscapes: Ynys Môn : a song cycle for high voice and piano’, London: OUP, 1976), a copy of which is included; an introduction for Alun Hoddinott’s ‘Songs of Exile: Poems by Emyr Humphreys’ (recorded by the BBC Welsh Symphony Orchestra, 1989); a programme for Hoddinott’s opera ‘The Beach of Falesá’ (performed by the Welsh National Opera Company, 1974); tickets for the BBC’s St David’s Music Week (1978); a letter from Emyr Humphreys relating to the Welsh National Theatre Company, together with a report (1967); and a copy of Humphreys’ poem ‘How the Prince Found a Wife’, together with further letters and papers.

Teipysgrifau a drafftiau amrywiol / Various typescripts and drafts

Papurau (1967-2019), yn cynnwys nodiadau a drafftiau yn ymwneud a traethodau a gweithiau eraill gan Emyr Humphreys, gan gynnwys teipysgrifau o draethodau gyda’r teitlau ‘Anglo-Welsh’ (1967/8), ‘The Size of Soap’ (1986), ‘Bwrdd Datblygu Teledu Cymraeg’ (heb ddyddiad), 'Lawen Chwedl' (heb ddyddiad), a 'Cyflwyno Cymreictod' (heb ddyddiad); ynghyd â theipysgrifau pellach gan gynnwys drafft o 'A Spark from the Sun' ([?1992]), sgript ddrafft ar gyfer 'Yr Eneth Fwyn' (heb ddyddiad), crynodeb o'r gyfres 'Land of the Living' (1990), a nodiadau o'r enw 'Plas Moloch' (heb eu dyddio), ymhlith papurau eraill. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys gohebiaeth, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Sioned Puw Rowlands (1), Natalie Williams (1), Margaret Body (2), ac Emyr Humphreys (3); a chopi o raglen ar gyfer Cyngerdd Cerddorfa Symffoni’r BBC, Caerdydd (1989), a oedd yn cynnwys y darn ‘Songs of Exile’ gan Alun Hoddinott gyda geiriau gan Emyr Humphreys. / Papers (1967-2019), featuring notes and drafts relating to essays and other works by Emyr Humphreys, including typescripts of essays titled ‘Anglo-Welsh’ (1967/8), ‘The Size of Soap’ (1986), ‘Bwrdd Datblygu Teledu Cymraeg’ (undated), ‘Lawen Chwedl’ (undated), and ‘Cyflwyno Cymreictod’ (undated); together with further typescripts including a draft from ‘A Spark from the Sun’ ([?1992]), a draft script for ‘Yr Eneth Fwyn’ (undated), a summary of the ‘Land of the Living’ series (1990), and notes titled ‘Plas Moloch’ (undated), among other papers. The file also contains correspondence, including letters from Sioned Puw Rowlands (1), Natalie Williams (1), Margaret Body (2), and Emyr Humphreys (3); and a copy of a programme for the BBC Symphony Orchestra Concert, Cardiff (1989), which included the piece ‘Songs of Exile’ by Alun Hoddinott with words by Emyr Humphreys.

Cytundebau cyhoeddi / Publishing contracts

Cytundebau cyhoeddwyr, yn cynnwys cytundebau a memoranda (1943-2005), ynghyd â pheth o ohebiaeth, yn ymwneud â gweithiau gan Emyr Humphreys gan gynnwys nofelau a chasgliadau o straeon byrion a barddoniaeth. / Publishing contracts, agreements, and memoranda (1943-2005), together with some correspondence, relating to works by Emyr Humphreys including novels and collections of short stories and poetry.