Dangos 3 canlyniad

Disgrifiad archifol
Emyr Humphreys Papers Davies, Walford, 1940-
Rhagolwg argraffu Gweld:

Erthyglau / Articles

Erthyglau, cyhoeddedig a heb eu cyhoeddi, a phapurau eraill (1938-2011) gan ac yn ymwneud â gweithiau Emyr Humphreys, yn cynnwys teipysgrifau, drafftiau, nodiadau, gohebiaeth a thoriadau. / Articles, published and unpublished, and other papers (1938-2011) by and relating to the works of Emyr Humphreys, consisting of typescripts, drafts, notes, correspondence and cuttings.

Graddau er anrhydedd / Honorary degrees

Rhaglenni graddio a phapurau eraill yn ymwneud â Graddau er Anrhydedd a Chymrodoriaethau a dderbyniwyd gan Emyr Humphreys, gan gynnwys rhaglenni ar gyfer Prifysgol Abertawe (Cymrodoriaeth Coleg Er Anrhydedd 1987), a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (1990, Doethuriaeth er Anrhydedd mewn Llenyddiaeth); copi o gylchgrawn 'Hon' (1963), yn cynnwys cyfweliad ag Emyr Humphreys; a llythyr oddi wrth Walford Davies (1978), ynglŷn â'r cynulliad blynyddol, Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys rhaglen ar gyfer hanner canmlwyddiant Côr Meibion Trelawnyd (1983), gan gynnwys llythyr gan Ednyfed Williams; a gwahoddiad am sgwrs yn y BBC (1950). / Graduation programmes and other papers related to Honorary Degrees and Fellowships received by Emyr Humphreys, including programmes for Swansea University (1987 Honorary College Fellowship), and the University College of Wales, Aberystwyth (1990, Honorary Doctorate in Literature); a copy of 'Hon' magazine (1963), featuring an interview with Emyr Humphreys; and a letter from Walford Davies (1978), re the annual assembly, University College of Wales Aberystwyth. The file also contains a programme for Côr Meibion Trelawnyd 50th anniversary (1983), including a letter from Ednyfed Williams; and an invitation for a talk at the BBC (1950).

Gohebiaeth wedi'i threfnu yn ôl pwnc / Correspondence arranged by subject

Llythyrau at ac oddi wrth Emyr ac Elinor Humphreys, ynghyd â rhai papurau cysylltiedig, wedi'u trefnu fesul pwnc yn bum grŵp: Papurau cynnar a llythyrau (1945-1972); gohebiaeth i ac oddi wrth gyhoeddwyr ac asiantwyr (1981-2007); gohebiaeth yn ymwneud â materion llenyddol eraill (1929; 1984-2002); gohebiaeth yn ymwneud â chomisiynau a digwyddiadau (1962-2009); a gohebiaeth arall ([?1933]-2015). / Letters to and from Emyr and Elinor Humphreys, together with some related papers, arranged by subject into five groups: Early papers and letters (1945-1972); correspondence to and from publishers and agents (1981-2007); correspondence relating to other literary matters (1929; 1984-2002); correspondence relating to commissions and events (1962-2009); and other correspondence ([?1933]-2015).