Dangos 297 canlyniad

Disgrifiad archifol
Emyr Humphreys Papers Ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

Pregethau, nodiadau, a chasgliadau plwyf / Sermons, notes, and parish collections

Naw o lyfrau nodiadau bychain (1920; 1922-23; 1926; 1932-1933; 1936; 1946-55), yn cynnwys nodiadau llawysgrif yn llaw Griffith Jones ac yn cynnwys pregethau a nodiadau amrywiol eraill yn ymwneud â chasgliadau a thanysgrifiadau plwyfol, rhoddion, a nodiadau meddygol. / Nine small notebooks (1920; 1922-23; 1926; 1932-1933; 1936; 1946-55), containing manuscript notes in the hand of Griffith Jones and consisting of sermons and various other notes relating to parish collections and subscriptions, donations, and medical notes.

Pregethau / Sermons

Bwndel o nodiadau llawysgrif (heb eu dyddio) yn llaw Griffith Jones ac yn cynnwys pregethau yn bennaf. / A bundle of manuscript notes (undated) in the hand of Griffith Jones and consisting mainly of sermons.

Nodiadau cwis / Quiz notes

Papurau amrywiol o nodiadau llawysgrif a theipysgrif (1940; 1948-1949) wedi'u labelu 'Quiz a Llenyddol & Gwybodaeth gyffredinol, hefyd englynion', yn cynnwys gwybodaeth gyffredinol a chwestiynau cwis, emynau, a nodiadau yn ymwneud â hanes teulu, ynghyd â rhestr o gynrychiolwyr dros Undeb yr Annibynwyr Cymraeg Caernarfon a'r Cylch (1930); papur arholiad Undeb Ysgolion Sabothol yr Annibynwyr Cymraeg (1941); a manylion pensiwn (1952-1957). / Various papers of manuscript and typescript notes (1940; 1948-1949) labelled ‘Quiz a Llenyddol & Gwybodaeth gyffredinol, hefyd englynion’, consisting of general knowledge and quiz questions, hymns, and notes relating to family history, together with a list of representatives for Undeb Yr Annibynwyr Cymraeg Caernarvon a’r Cylch (1930); an exam paper for Undeb Ysgolion Sabothol yr Annibynwyr Cymraeg (1941); and pension details (1952-1957).

Llyfrau nodiadau poced / Pocket notebooks

Dau ar bymtheg o lyfrau nodiadau poced (1991-2006), yn cynnwys nodiadau llawysgrif a ysgrifennwyd yn bennaf yn llaw Emyr Humphreys gydag ambell law arall, yn cynnwys dyddiadau ac amseroedd, enwau a chyfeiriadau, drafftiau, syniadau, a barddoniaeth; ynghyd â nodiadau pellach wedi eu hysgrifennu ar napcyn, a llythyr oddi wrth Emyr Humphreys (heb ei ddyddio). / Seventeen pocket notebooks (1991-2006), containing manuscript notes written mainly in the hand of Emyr Humphreys with the occasional other hand, including dates and times, names and addresses, drafts, ideas, and poetry; together with further notes written on a napkin, and a letter from Emyr Humphreys (undated).

Graddau er anrhydedd / Honorary degrees

Rhaglenni graddio a phapurau eraill yn ymwneud â Graddau er Anrhydedd a Chymrodoriaethau a dderbyniwyd gan Emyr Humphreys, gan gynnwys rhaglenni ar gyfer Prifysgol Abertawe (Cymrodoriaeth Coleg Er Anrhydedd 1987), a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (1990, Doethuriaeth er Anrhydedd mewn Llenyddiaeth); copi o gylchgrawn 'Hon' (1963), yn cynnwys cyfweliad ag Emyr Humphreys; a llythyr oddi wrth Walford Davies (1978), ynglŷn â'r cynulliad blynyddol, Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys rhaglen ar gyfer hanner canmlwyddiant Côr Meibion Trelawnyd (1983), gan gynnwys llythyr gan Ednyfed Williams; a gwahoddiad am sgwrs yn y BBC (1950). / Graduation programmes and other papers related to Honorary Degrees and Fellowships received by Emyr Humphreys, including programmes for Swansea University (1987 Honorary College Fellowship), and the University College of Wales, Aberystwyth (1990, Honorary Doctorate in Literature); a copy of 'Hon' magazine (1963), featuring an interview with Emyr Humphreys; and a letter from Walford Davies (1978), re the annual assembly, University College of Wales Aberystwyth. The file also contains a programme for Côr Meibion Trelawnyd 50th anniversary (1983), including a letter from Ednyfed Williams; and an invitation for a talk at the BBC (1950).

Cymrodoriaeth a chynhadledd Gregynog / Gregynog fellowship and conference

Papurau'n ymwneud â Chymrodoriaeth a chynhadledd Gregynog, gan gynnwys rhaglen ac adroddiad cynhadledd (1972), a llythyrau (1972; 1974-1975) at Emyr Humphreys oddi wrth Glyn Tegai Hughes, Gregynog (4), Ben Jones (1), ac Arthur Johnston (1). Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys llythyrau pellach oddi wrth J. Beverley Smith (1985) a Dafydd Rogers (1991); a theipysgrifau (1982; heb ddyddiad) o ddrafftiau o weithiau o’r enw ‘Saesneg ar oriau Cymraeg y Sianel’, ‘Hunan les neu hunan laddiad?’, a ‘Lle pwysig yw theatre’. / Papers relating to the Gregynog Fellowship and conference, including a conference programme and report (1972), and letters (1972; 1974-1975) to Emyr Humphreys from Glyn Tegai Hughes, Gregynog (4), Ben Jones (1), and Arthur Johnston (1). The file also contains further letters from J. Beverley Smith (1985) and Dafydd Rogers (1991); and typescripts (1982; undated) of drafts of works titled 'Saesneg ar oriau Cymraeg y Sianel’, 'Hunan les neu hunan laddiad?’, and ‘Lle pwysig yw theatre’.

Gweithredoedd Ymddiriedolaeth / Trust deeds

Dau gopi o weithred ymddiriedolaeth Ymddiriedolaeth Taliesin (1989), ynghyd â dau lythyr oddi wrth y gyfreithwyr Morgan, Bruce & Hardwickes. / Two copies of the trust deed for The Taliesin Trust (1989), together with two letters from Morgan, Bruce & Hardwickes Solicitors.

Rhaglenni digwyddiadau amrywiol eraill / Various other event programmes

Rhaglenni digwyddiadau amrywiol a gasglwyd gan Emyr Humphreys, yn cynnwys rhaglenni ar gyfer cynhyrchiad theatr ‘Noboalfabeto’, Teatro delle Albe (2001); ‘Dylan Thomas: A Memorial Catalogue’, Abertawe (2003); ‘25 Paintings from the Festival of Britain 1951’, Orielau Celf Dinas Sheffield (1978); copi o ‘Fine print: A Review for the Arts of the Book’, cyf.7.2 (1981); a chopi o glawr ‘Wales’ rhif 1 1937 (dyddiedig 1969). / Various event programmes collected by Emyr Humphreys, consisting of programmes for a theatre production ‘Noboalfabeto’, Teatro delle Albe (2001); ‘Dylan Thomas: A Memorial Catalogue’, Swansea (2003); ’25 Paintings from the Festival of Britain 1951’, Sheffield City Art Galleries (1978); a copy of ‘Fine Print: A Review for the Arts of the Book’, vol.7.2 (1981); and a copy of the cover of ‘Wales’ no.1 1937 (dated 1969).

J

Llythyrau a chardiau at Emyr ac Elinor Humphreys (1983-2002), oddi wrth E. Stanley John (1), Owie Jones (1), Arwel Jones (5), Dewi a Magdalen Jones (1) (gyda dau ateb heb eu llofnodi), Nesta Wyn Jones (3), Meri a Wiliam Jones (1), 'Emyr a Mary' (2), ac un cerdyn oddi wrth 'Janet a Kevin'. / Letters and cards to Emyr and Elinor Humphreys (1983-2002), from E. Stanley John (1), Owie Jones (1), Arwel Jones (5), Dewi and Magdalen Jones (1) (with two unsigned replies), Nesta Wyn Jones (3), Meri and Wiliam Jones (1), 'Emyr and Mary' (2), and one card from 'Janet and Kevin'.

S

Llythyrau at Emyr ac Elinor Humphreys (1997-2003), oddi wrth Iris Smith (1, gydag ateb gan Elinor Humphreys), ac Isobel Steinthal (2). / Letters to Emyr and Elinor Humphreys (1997-2003), from Iris Smith (1, with a reply from Elinor Humphreys), and Isobel Steinthal (2).

Llythyrau oddi wrth M. Wynn Thomas a phapurau cysylltiedig / Further letters from M. Wynn Thomas and related papers

Gohebiaeth a phapurau cysylltiedig (1973-2010), y mwyafrif yn cynnwys llythyrau at Emyr Humphreys oddi wrth M. Wynn Thomas (15), gydag atebion (4). Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys llythyrau oddi wrth Mick Felton (1), 'Rhiannon' (1), Penny Thomas (1), Ned Thomas (1), Stevie Davies (1), Oscar Quitak (1), Ken Davies (2), Geraint H. Jenkins (1), Etain Todds (1), Helle Michelsen (1), 'John' (2), Hugo Rhys (1), Kuniko Fujisawa (3), Winifred Jones (1), 'Huw' (1), 'Terry' (1), Huw Ethall (1), a Bob Borsley (2); a nifer o phapurau cysylltiedig fel nodiadau, toriadau, a deunydd wedi'i lungopïo. / Correspondence and related papers (1973-2010), the majority being letters to Emyr Humphreys from M. Wynn Thomas (15), with replies (4). The file also contains letters from Mick Felton (1), 'Rhiannon' (1), Penny Thomas (1), Ned Thomas (1), Stevie Davies (1), Oscar Quitak (1), Ken Davies (2), Geraint H. Jenkins (1), Etain Todds (1), Helle Michelsen (1), 'John' (2), Hugo Rhys (1), Kuniko Fujisawa (3), Winifred Jones (1), 'Huw' (1), 'Terry' (1), Huw Ethall (1), and Bob Borsley (2); and a number of related papers such as notes, cuttings, and photocopied material.

V

Llythyrau (1997-2000), at Emyr ac Elinor Humphreys oddi wrth Marie Vanuxeem (2, gyda atebion), Siân [?Verrall] (1), a Margaret [?Vanstone] Heller (1, gydag ateb). / Letters (1997-2000), to Emyr and Elinor Humphreys from Marie Vanuxeem (2, with replies), Siân [?Verrall] (1), and Margaret [?Vanstone] Heller (1, with reply).

Sheil Land Associates

Llythyrau at ac oddi wrth Emyr Humphreys (1989-2007), yn ymwneud yn bennaf â’r asiantwyr llenyddol ‘Sheil Land Associates’, yn cynnwys llythyrau oddi wrth Vivien Green (56); Susanna Forrest (1); Andrew Coates (1); Hilary Laurie (2); Claire Binnie (2); Elizabeth Haylett (2); Chi-ann Rajah (1); John Rush (2); A. V. Lomas (3); R. D. Hardie (1); Margaret Body (2); Roma Woodnutt (1); Anthony Sheil (1); Patricia James (1); Natasha Pym (1); Mick Felton (1); Barbara Boote (2); Tim Baker (1); David Knight (1); M. Wynn Thomas (1); ac Emyr Humphreys (33). Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys rhai papurau cysylltiedig, yn cynnwys datganiadau breindal, copīau o broflenni clawr ar gyfer ‘An Absolute Hero’, tystysgrifau cofrestru hawlfraint, a chopi o lyfryddiaeth Emyr Humphreys. / Letters to and from Emyr Humphreys (1989-2007), mainly relating to the literary agents Sheil Land Associates, including letters from Vivien Green (56); Susanna Forrest (1); Andrew Coates (1); Hilary Laurie (2); Claire Binnie (2); Elizabeth Haylett (2); Chi-ann Rajah (1); John Rush (2); A. V. Lomas (3); R. D. Hardie (1); Margaret Body (2); Roma Woodnutt (1); Anthony Sheil (1); Patricia James (1); Natasha Pym (1); Mick Felton (1); Barbara Boote (2); Tim Baker (1); David Knight (1); M. Wynn Thomas (1); and Emyr Humphreys (33). The file also contains some related papers, including royalty statements, copies of cover proofs for ‘An Absolute Hero’, copyright registration certificates, and a copy of Emyr Humphreys’ bibliography.

Pryniant LlGC o bapurau Emyr Humphreys / NLW purchase of Emyr Humphreys' papers

Gohebiaeth (1984-1995), yn ymwneud â phryniant llawysgrifau a phapurau Emyr Humphreys gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1994, yn cynnwys llythyrau at Emyr Humphreys oddi wrth Daniel Huws (4), Dafydd Ifans (2), J. Gwynn Williams (2), Gwyn Jenkins (6), Arwel Jones (1), Mark LeFanu (1), ac R. Geraint Gruffudd (1), gyda rhai atebion ac atebion drafft gan Emyr Humphreys (16); ynghyd â nodiadau llawysgrif yn llaw Emyr Humphreys, rhestri manwl o’i lawysgrifau a’i bapurau i’w cynnig i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, a rhestr gynnwys ar gyfer casgliad anghyhoeddedig o gerddi o’r enw ‘Consolations’. / Correspondence (1984-1995), relating to the purchase of Emyr Humphreys’ manuscripts and papers by the National Library of Wales in 1994, including letters to Emyr Humphreys from Daniel Huws (4), Dafydd Ifans (2), J. Gwynn Williams (2), Gwyn Jenkins (6), Arwel Jones (1), Mark LeFanu (1), and R. Geraint Gruffudd (1), with some replies and draft replies from Emyr Humphreys (16); together with manuscript notes in the hand of Emyr Humphreys, itemised lists of his manuscripts and papers for offer to the National Library of Wales, and a contents list for an unpublished collection of poems titled ‘Consolations’.

Llythyrau amrywiol / Various letters

Llythyrau at Emyr ac Elinor Humphreys, ynghyd â rhai papurau cysylltiedig (1994-2014), wedi’u trefnu’n wreiddiol i gyd mewn un ffolder ac yn ymwneud â phynciau amrywiol gan gynnwys gweithiau Emyr Humphreys, materion personol a theuluol, materion llenyddol eraill, cynyrchiadau teledu, digwyddiadau, ac ysgrifennu Festschrift i Meic Stephens. Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau oddi wrth Gwerfyl Pierce Jones (4); Peter Finch (2); Ioan Williams (1); Elwyn Jones (2); Rachael Owens (1); Geraint H. Jenkins (2); Ceri Thomas (1); Bob Mole (2); Pedr ap Llwyd (1); Siân Wheway (1); Paul Islwyn Thomas (1); Ann Ffrancon (1); John Barnie (2); Gwynn Pritchard (3); Emyr Llewelyn Gruffudd (2); Elisabeth Rees Evans (1); Dewi Roberts (1); Paul Griffiths a Gwen Griffith (1); Rhian M. Evans (1); Eileen White (1); Eleri Hopcyn (2); Richard [?] (1); Mick Felton (1); J. Clifford Jones (1); Dylan [?] (1), gyda llythyr ar y cyd oddi wrth Wilbert Lloyd Roberts, Emyr Humphreys, & Dewi Jones (1); Sarah Tavner (1); Gwyddfid Jones (2); Elinor Wyn Reynolds (1); Raymond Garlick (1); Ioan Williams (1); Claire Collett (1); Julia Abel Smith (1); Victoria Glendinning (1); Margaret Harlin (1); Sally Baker (1); Sarah Stone (2); Elain Haf (1); Owen Burt (1); Cyngor Bwrdeistref Ynys Môn (1); Samuel J. Dempsey (1); Pryderi Llwyd Jones (1); Anne Baxter (3); Carol Jones (1); David Prince (1); Sam Adams (8), gyda dau ddrafft teipysgrif o bennod Emyr Humphreys, ‘Taliesin’s Children’; Cary Lewis-Le Disez (3); Miranda Walsh (1); Wil Aaron (1); Manon [?] (1); Phil Thomas (1); Eileen White (1); Sioned Puw Rowlands (1); Dafydd Wyn Phillips (1); Dafydd Rogers (2); Nesta Wyn Jones (1); Robin Reeves (1); Oscar Quitak (2); a Vivien Green (1). Yn ogystal, mae'r ffeil hefyd yn cynnwys rhai datganiadau breindal (1995; 1997; 2015). / Letters to Emyr and Elinor Humphreys, with some related papers (1994-2014), originally arranged all in one folder and relating to various subjects including Emyr Humphreys’ works, personal and family matters, other literary matters, scripts and TV productions, events, and the writing of a Festschrift for Meic Stephens. The file includes letters from Gwerfyl Pierce Jones (4); Peter Finch (2); Ioan Williams (1); Elwyn Jones (2); Rachael Owens (1); Geraint H. Jenkins (2); Ceri Thomas (1); Bob Mole (2); Pedr ap Llwyd (1); Siân Wheway (1); Paul Islwyn Thomas (1); Ann Ffrancon (1); John Barnie (2); Gwynn Pritchard (3); Emyr Llewelyn Gruffudd (2); Elisabeth Rees Evans (1); Dewi Roberts (1); Paul Griffiths & Gwen Griffith (1); Rhian M. Evans (1); Eileen White (1); Eleri Hopcyn (2); Richard [?] (1); Mick Felton (1); J. Clifford Jones (1); Dylan [?] (1), with a joint letter from Wilbert Lloyd Roberts, Emyr Humphreys, & Dewi Jones (1); Sarah Tavner (1); Gwyddfid Jones (2); Elinor Wyn Reynolds (1); Raymond Garlick (1); Ioan Williams (1); Claire Collett (1); Julia Abel Smith (1); Victoria Glendinning (1); Margaret Harlin (1); Sally Baker (1); Sarah Stone (2); Elain Haf (1); Owen Burt (1); Anglesey Borough Council (1); Samuel J. Dempsey (1); Pryderi Llwyd Jones (1); Anne Baxter (3); Carol Jones (1); David Prince (1); Sam Adams (8), with two typescript drafts of Emyr Humphreys’ chapter, ‘Taliesin’s Children’; Cary Lewis-Le Disez (3); Miranda Walsh (1); Wil Aaron (1); Manon [?] (1); Phil Thomas (1); Eileen White (1); Sioned Puw Rowlands (1); Dafydd Wyn Phillips (1); Dafydd Rogers (2); Nesta Wyn Jones (1); Robin Reeves (1); Oscar Quitak (2); and Vivien Green (1). Additionally, the file also includes some royalty statements (1995; 1997; 2015).

Gohebiaeth / Correspondence

Llythyrau at Emyr ac Elinor Humphreys, gyda nifer o bapurau cysylltiedig (2007), yn ymwneud â materion llenyddol a phersonol amrywiol. Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau oddi wrth Helle Michelsen (1); Cathy Grindod (1); Dafydd Trystan (1); Clancy Pegg (1); Ceridwen Lloyd-Morgan (1); William James (1); Jason Walford Davies (1); M. Wynn Thomas (1); Margaret Heller (1); Andrée & Oscar Quitak (2); Diana Griffiths (1); Richard Davies (2); a rhai atebion gan Emyr Humphreys (2). Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys datganiadau breindal, copi o bywgraffiad Emyr Humphreys, sawl ffotograff lliw o Emyr ac Elinor Humphreys, nodiadau llawysgrif, a drafftiau o straeon byrion yn dwyn y teitlau ‘Rendezvous’ a ‘The Comet’. / Letters to Emyr and Elinor Humphreys, with a number of related papers (2007), relating to various personal and literary matters. The file includes letters from Helle Michelsen (1); Cathy Grindod (1); Dafydd Trystan (1); Clancy Pegg (1); Ceridwen Lloyd-Morgan (1); William James (1); Jason Walford Davies (1); M. Wynn Thomas (1); Margaret Heller (1); Andrée & Oscar Quitak (2); Diana Griffiths (1); Richard Davies (2); and some replies from Emyr Humphreys (2). The file also contains royalty statements, a copy of a biography of Emyr Humphreys, several colour photographs of Emyr and Elinor Humphreys, manuscript notes, and drafts of short stories titled ‘Rendezvous’ and ‘The Comet’.

Gohebiaeth / Correspondence

Llythyrau a chardiau at Emyr ac Elinor Humphreys, a phapurau cysylltiedig (2009), yn ymwneud â materion llenyddol a phersonol amrywiol, gan gynnwys cyhoeddiadau ac adolygiadau o weithiau Emyr Humphreys, a newyddion personol a theuluol. Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau oddi wrth Geraint Talfan Davies (1); Richard Lewis (2); Simon Huw (1); Sarah Rhys (2); Tina, David, a Taffy [?] (1); M. Wynn Thomas (3); Lucy [Rhys] (5), gyda braslun pensil; Ceri Wyn Jones (2); Kuniko Fujisawa (1); Emma Holding (1); Herbert McTaggart a Heike Fortmann (2); Huw Ethall (1); Myrddin ap Dafydd (1); Gareth W. Evans (1); Etain Todds (1); John [?Pritchard] (1); Idris Jones (1); Jean Alker (1); Hugo Rhys (1); a rhai atebion gan Emyr ac Elinor Humphreys (2). Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys datganiadau breindal, drafft llawysgrif a theipysgrif yn dwyn y teitl ‘W. S. Jones – Llenor a Gwladgarwr’, proflen clawr ar gyfer ‘The Woman at the Window’, adolygiad o ‘The Taliesin Tradition’, cytundeb ar gyfer cynhyrchiad radio, a drafft o deyrnged i Richard Rhys (9fed Barwn Dinefwr ). / Letters and cards to Emyr and Elinor Humphreys, and related papers (2009), relating to various literary and personal matters, including publication and reviews of Emyr Humphreys’ works, and personal and family news. The file includes letters from Geraint Talfan Davies (1); Richard Lewis (2); Simon Huw (1); Sarah Rhys (2); Tina, David, and Taffy [?] (1); M. Wynn Thomas (3); Lucy [Rhys] (5), with a pencil sketch; Ceri Wyn Jones (2); Kuniko Fujisawa (1); Emma Holding (1); Herbert McTaggart & Heike Fortmann (2); Huw Ethall (1); Myrddin ap Dafydd (1); Gareth W. Evans (1); Etain Todds (1); John [?Pritchard] (1); Idris Jones (1); Jean Alker (1); Hugo Rhys (1); and some replies from Emyr and Elinor Humphreys (2). The file also includes royalty statements, a manuscript draft and typescript titled ‘W. S. Jones – Llenor a Gwladgarwr’, a cover proof for ‘The Woman at the Window’, a review for ‘The Taliesin Tradition’, a contract for a radio production, and a draft of an obituary for Richard Rhys (9th Baron Dynevor).

Proflenni / Proofs

Proflenni teipysgrif o benodau 7-26 o ailargraffiad 1996 o ‘Outside the House of Baal’, ynghyd â nodiadau testunol gan M. Wynn Thomas. / Typescript proofs of chapters 7-26 of the 1996 reprint of ‘Outside the House of Baal’, along with textual notes by M. Wynn Thomas.

Proflenni / Proofs

Proflenni teipysgrif, gyda chywiriadau, mae'n debyg ar gyfer yr argraffiad cyntaf o ‘The Best of Friends’ (Llundain: Hodder & Stoughton, 1978). / Typescript proofs, with corrections, apparently for the first edition of ‘The Best of Friends’ (London: Hodder & Stoughton, 1978).

Proflenni / Proofs

Set bron yn gyflawn o broflenni (tt. 2-211) ar gyfer rhifyn 1999 o ‘Salt of the Earth’ (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1999). / A near complete set of page proofs (pp. 2-211) for the 1999 edition of ‘Salt of the Earth’ (Cardiff: University of Wales Press, 1999).

Canlyniadau 1 i 20 o 297