Dangos 297 canlyniad

Disgrifiad archifol
Emyr Humphreys Papers Ffeil
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

H

Llythyrau a chardiau at Emyr Humphreys (1995-2000), oddi wrth Gwion Hallam (1), Keith Holmes (1), Jeremy (a Sue) Hooker (5), Alun Hughes (1), Glyn Tegai Hughes (1), ac anhysbys (3). / Letters and cards to Emyr Humphreys (1995-2000), from Gwion Hallam (1), Keith Holmes (1), Jeremy (and Sue) Hooker (5), Alun Hughes (1), Glyn Tegai Hughes (1), and unidentified (3).

P

Llythyrau a cherdyn at Emyr Humphreys (1993-1999), oddi wrth Gwyn Pritchard (2), O. C. Parry-Jones (1), Keith Pool (1), John Pikoulis (1), a Richard Poole (3). / Letters and a card to Emyr Humphreys (1993-1999), from Gwyn Pritchard (2), O. C. Parry-Jones (1), Keith Pool (1), John Pikoulis (1), and Richard Poole (3).

Wil Sam ac R. S. Thomas / Wil Sam and R. S. Thomas

Llythyrau, a phapurau cysylltiedig (1929; 1992; 2001-2002) yn ymwneud â materion llenyddol amrywiol, gan gynnwys llythyr at Emyr Humphreys oddi wrth y bardd R. S. Thomas, ynghyd â chopïau teipysgrif o'i farddoniaeth, a drafft o lythyr gan Emyr Humphreys yn argymell y llenor W. S. Jones ('Wil Sam') am radd er anrhydedd ym Mhrifysgol Cymru. Yn ogystal, mae'r ffeil hefyd yn cynnwys llythyrau at Emyr Humphreys yn trafod Cronfa Goffa Saunders Lewis, Ymddiriedolaeth Taliesin, a materion eraill, oddi wrth Geraint H. Jenkins (1), Ann Ffrancon (1), Alun Creunant Davies (1), Ken Davies ( 1), Richard Lewis (1), Richard a Tricia Griffiths (1), Victor Golightly (1), a Sally Baker (1), ymhlith eraill. / Letters, and related papers (1929; 1992; 2001-2002) relating to various literary matters, including a letter to Emyr Humphreys from the poet R. S. Thomas, along with typescript copies of his poetry, and a draft of a letter from Emyr Humphreys recommending the writer W. S. Jones (‘Wil Sam’) for an honorary degree at the University of Wales. Additionally, the file also contains letters to Emyr Humphreys discussing the Saunders Lewis Memorial Fund, the Taliesin Trust, and other matters, from Geraint H. Jenkins (1), Ann Ffrancon (1), Alun Creunant Davies (1), Ken Davies (1), Richard Lewis (1), Richard & Tricia Griffiths (1), Victor Golightly (1), and Sally Baker (1), among others.

Agoriad adeilad Parry-Williams, Aberystwyth / Opening of the Parry-Williams building, Aberystwyth

Llythyrau at Emyr Humphreys, a phapurau cysylltiedig (1995; 2001; 2005), yn ymwneud yn bennaf ag agoriad adeilad Parry-Williams ym Mhrifysgol Aberystwyth a agorwyd yn swyddogol gan Emyr Humphreys yn 2001. Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau oddi wrth Phil Davies (1) ; Derek Llwyd Morgan (1); John Brason (1); Bob Mole (1); Meic Stephens (1); Richard Houdmont (3); M. Wynn Thomas (1); Norman Harries (1); Myrddin ap Dafydd (1); Menna Elfyn (3); Damian Walford Davies (1); Sue Charles (4); Ceri Anwen James (1); Ned Thomas (1); Mick Felton (1); ynghyd ag atebion gan Emyr Humphreys (9). Yn ogystal, mae’r ffeil hefyd yn cynnwys deunydd yn ymwneud â chomisiynau ac ymchwil eraill, lansiad ‘Ghosts and Strangers’ a ‘Bonds of Attachment’, a phenodiad Damian Walford Davies i Fwrdd S4C. / Letters to Emyr Humphreys, and related papers (1995; 2001; 2005), mainly relating to the opening of the Parry-Williams building at Aberystwyth University which was officially opened by Emyr Humphreys in 2001. The file includes letters from Phil Davies (1); Derek Llwyd Morgan (1); John Brason (1); Bob Mole (1); Meic Stephens (1); Richard Houdmont (3); M. Wynn Thomas (1); Norman Harries (1); Myrddin ap Dafydd (1); Menna Elfyn (3); Damian Walford Davies (1); Sue Charles (4); Ceri Anwen James (1); Ned Thomas (1); Mick Felton (1); along with replies from Emyr Humphreys (9). Additionally, the file also contains some material relating to other commissions and research, the launch of ‘Ghosts and Strangers’ and ‘Bonds of Attachment’, and the appointment of Damian Walford Davies to the Board of S4C.

Gohebiaeth / Correspondence

Llythyrau at Emyr Humphreys, a phapurau cysylltiedig (1999-2000), yn ymwneud yn bennaf â materion cyhoeddi, megis cyfieithu ‘A Toy Epic’ i’r Almaeneg a thrafod erthygl ar gyfer The Society of Authors a phroflenni ar gyfer ‘Bonds of Attachment’ . Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau oddi wrth Ceinwen Jones (3); Kim Tanner (1); Llion Roberts (1); Duncan Campbell (1); Kate Pool (1); Mark Le Fanu (2); Deborah Moggach (1); Tony Brown (1); ac Inge Leipold (1); yn ogystal â drafftiau a llythyrau oddi wrth Emyr Humphreys (5). Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys nodiadau, teipysgrif o’r enw ‘A Personal Postscript’, broliant ar gyfer ‘Dal Pen Rheswm’, a chopi o Bapurau Emyr Humphreys CH2/13. / Letters to Emyr Humphreys, and related papers (1999-2000), mainly relating to publishing matters, such as the translation of ‘A Toy Epic’ into German and discussion of an article for The Society of Authors and proofs for ‘Bonds of Attachment’. The file includes letters from Ceinwen Jones (3); Kim Tanner (1); Llion Roberts (1); Duncan Campbell (1); Kate Pool (1); Mark Le Fanu (2); Deborah Moggach (1); Tony Brown (1); and Inge Leipold (1); as well as drafts and letters from Emyr Humphreys (5). The file also includes notes, a typescript titled ‘A Personal Postscript’, a blurb for ‘Dal Pen Rheswm’, and a copy of Emyr Humphreys Papers CH2/13.

Gohebiaeth / Correspondence

Llythyrau a chardiau at Emyr ac Elinor Humphreys, gyda rhai papurau cysylltiedig (2003), yn ymwneud â materion llenyddol a phersonol amrywiol, megis barddoniaeth, cyhoeddi, digwyddiadau, a Medal y Cymmrodorion. Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau oddi wrth Aled Lewis Evans (2); Dafydd Morgan Lewis (1); Barry Robertson (1); John Samuel (7); Vanessa Forbes (1); John Barnie (3); Roger Owen (2); David Woolley (2); Owen Atkinson (1); Jan Morris (1); Rob Stradling (1); Duncan Campbell (1); Johann Strutz (1); Vivien Green (1); Hilary Sagar (1); Sylvia Ellis (1); Simon Thirsk (1); Alyce von Rothkirch a Daniel Williams (2); Daniel Williams (1); Peter Finch (3); M. Wynn Thomas (1); Dewi Roberts (2); Simon Huw (1); Martin Barlow (1); Gwerfyl Pierce Jones (2); Tony Conran (2); Robert Minhinnick (1); Stevie Davies (4); Elwyn Jones (1); Jeremy Hooker (1); Val Thatcher (1); Euros Lewis (1); Gwerfyl Hughes Jones (1); Jason Walford Davies (1); Mick Felton (2); a rhai atebion gan Emyr Humphreys (12). Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys drafftiau o ddarnau ysgrifenedig yn dwyn y teitlau ‘Tŷ’r Gair’, ‘Y Fedal’, ‘Major Dafydd’, a’r gerdd ‘Manawydan i M.W.T.’. / Letters and cards to Emyr and Elinor Humphreys, with some related papers (2003), relating to various personal and literary matters such as poetry, publishing, events, and the Cymmrodorion Medal. The file includes letters from Aled Lewis Evans (2); Dafydd Morgan Lewis (1); Barry Robertson (1); John Samuel (7); Vanessa Forbes (1); John Barnie (3); Roger Owen (2); David Woolley (2); Owen Atkinson (1); Jan Morris (1); Rob Stradling (1); Duncan Campbell (1); Johann Strutz (1); Vivien Green (1); Hilary Sagar (1); Sylvia Ellis (1); Simon Thirsk (1); Alyce von Rothkirch & Daniel Williams (2); Daniel Williams (1); Peter Finch (3); M. Wynn Thomas (1); Dewi Roberts (2); Simon Huw (1); Martin Barlow (1); Gwerfyl Pierce Jones (2); Tony Conran (2); Robert Minhinnick (1); Stevie Davies (4); Elwyn Jones (1); Jeremy Hooker (1); Val Thatcher (1); Euros Lewis (1); Gwerfyl Hughes Jones (1); Jason Walford Davies (1); Mick Felton (2); and some replies from Emyr Humphreys (12). The file also includes drafts of pieces titled ‘Tŷ’r Gair – The House of the Word’, ‘Y Fedal’, ‘Major Dafydd’, and the poem ‘Manawydan i M.W.T.’.

Gohebiaeth / Correspondence

Llythyrau at Emyr ac Elinor Humphreys, a rhai papurau cysylltiedig (2006), yn ymwneud â materion personol a llenyddol amrywiol gan gynnwys trafodaeth ar waith Emyr Humphreys a chyfraniadau i gyfnodolion. Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau oddi wrth Rainer Böhlke (1); Sion Humphreys (1); Ned Thomas (1); Richard Lewis (1); Derec Llwyd Morgan (1); Damian Walford Davies (1); Menna Elfyn (1); John Barnie (2); M. Wynn Thomas (4); Andrée & Oscar Quitak (2); Stevie Davies (1); Mick Felton (2); Rebecca Davies (1); Maggie Fergusson (2); Richard Griffiths (1); William James (1); Eirion Jones (1); Maria Bulgheroni (1); a rhai atebion gan Emyr Humphreys (10). Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys drafftiau o deyrnged i Kyffin Williams, teipysgrif o stori fer yn dwyn y teitl ‘The Grudge’, drafft o’r rhagair ar gyfer ‘A Man’s Estate’, a nodiadau gyda'r teitl ‘Hidden Source, Channel 4’. / Letters to Emyr and Elinor Humphreys, and some related papers (2006), relating to various personal and literary matters including discussion of Emyr Humphreys’ works and contributions to journals. The file includes letters from Rainer Böhlke (1); Sion Humphreys (1); Ned Thomas (1); Richard Lewis (1); Derec Llwyd Morgan (1); Damian Walford Davies (1); Menna Elfyn (1); John Barnie (2); M. Wynn Thomas (4); Andrée & Oscar Quitak (2); Stevie Davies (1); Mick Felton (2); Rebecca Davies (1); Maggie Fergusson (2); Richard Griffiths (1); William James (1); Eirion Jones (1); Maria Bulgheroni (1); and some replies from Emyr Humphreys (10). The file also includes drafts of a tribute to Kyffin Williams, a typescript of a short story titled ‘The Grudge’, a draft of the foreword for ‘A Man’s Estate’, and notes titled ‘Hidden Source, Channel 4’.

Proflenni / Proofs

Set gyflawn o broflenni ar gyfer argraffiad 1999 o ‘Flesh and Blood’ (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1999), gyda rhai cywiriadau. / A complete set of page proofs for the 1999 edition of ‘Flesh and Blood’ (Cardiff: University of Wales Press, 1999), with some corrections.

Nodiadau / Notes

Nodiadau llawysgrif yn llaw Emyr Humphreys (1978-1982), yn ymwneud â’r gyfres ‘Land of the Living’ a’r mwyafrif gyda’r teitl gweithredol ‘The House of Peace’ (cyhoeddwyd fel ‘Salt of the Earth’). Mae'r rhain yn cynnwys nodiadau ar ddatblygu cymeriadau, llinellau amser, themâu, a drafftiau penodau; yn ogystal â drafftiau eraill o farddoniaeth a rhyddiaith. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys dau doriad o'r wasg (1931; [?1939x?1945]). / Manuscript notes in the hand of Emyr Humphreys (1978-1982), relating to the ‘Land of the Living’ series and the majority with the working title ‘The House of Peace’ (published as ‘Salt of the Earth’). These consist of notes on character development, timelines, themes, and chapter drafts; in addition to other drafts of poetry and prose. The file also includes two press cuttings (1931; [?1939x?1945]).

Proflenni / Proofs

Set o broflenni teipysgrif ar gyfer argraffiad cyntaf y nofel ‘An Absolute Hero’ (Llundain: Dent. 1986), gyda rhai cywiriadau. / A set of typescript proofs for the first edition of the novel ‘An Absolute Hero’ (London: Dent. 1986), with some corrections.

Proflenni / Proofs

Set gyflawn o broflenni ar gyfer ail argraffiad y nofel ‘An Absolute Hero’ yn 2000 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2000). / A full set of page proofs for the reissue of the novel ‘An Absolute Hero’ in 2000 (Cardiff: University of Wales Press, 2000).

Proflenni / Proofs

Set gyflawn o broflenni, gyda rhai cywiriadau, ar gyfer ail argraffiad y nofel ‘Bonds of Attachment’ yn 2001 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2001). / A full set of page proofs, with some corrections, for the reissue of the novel ‘Bonds of Attachment’ in 2001 (Cardiff: University of Wales Press, 2001).

Nodiadau a drafftiau / Notes and drafts

Nodiadau a drafftiau llawysgrif yn llaw Emyr Humphreys, yn cynnwys drafft sy’n ymddangos fel rhan o’r gwaith a gyhoeddwyd fel ‘The Taliesin Tradition’ (Llundain: Black Raven Press, 1983). Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys drafft o erthygl, ‘Ysbryd Chwyldro’, a gyhoeddwyd yn Y Faner (1979). / Manuscript notes and drafts in the hand of Emyr Humphreys, including a draft of what appears to be part of the work published as ‘The Taliesin Tradition’ (London: Black Raven Press, 1983). The file also includes a draft of an article, ‘Ysbryd Chwyldro’, published in Y Faner (1979).

Nodiadau a drafftiau / Notes and drafts

Llyfr nodiadau A4 yn cynnwys nodiadau llawysgrif yn llaw Emyr Humphreys (1994), yn cynnwys drafft o fersiwn cynharach o 'Unconditional Surrender' wedi’i theitlo ‘The Rector', ynghyd â drafftiau o farddoniaeth yn cynnwys cerddi yn dwyn y teitlau 'The Old Couple',' Adwaith', a 'Dysgwr y Mis', ymhlith eraill. / An A4 notepad containing manuscript notes in the hand of Emyr Humphreys (1994), including a draft of an earlier version of ‘Unconditional Surrender’ titled ‘The Rector’, together with drafts of poetry including poems titled ‘The Old Couple’, ‘Adwaith’, and ‘Dysgwr y Mis’, among others.

Drafft teipysgrif / A typescript draft

Papurau, yn cynnwys teipysgrifau a nodiadau llawysgrif yn llaw Emyr Humphreys, yn cynnwys drafft teipysgrif (di-deitl), mae’n debyg o’r nofel ‘The Gift of a Daughter’, gyda rhai cywiriadau. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys crynodeb o bennodau ar gyfer ‘Outside the House of Baal’, a chopi teipysgrif o erthygl o’r enw ‘Notes on the Novel’ (cyhoeddwyd yn New Welsh Review 35 (1996-1997)). / Papers, consisting of typescripts and manuscript notes in the hand of Emyr Humphreys, including a typescript draft (untitled), apparently of the novel ‘The Gift of a Daughter’, with some corrections. The file also includes a chapter summary for ‘Outside the House of Baal’, and a typescript copy of an article titled ‘Notes on the Novel’ (published in New Welsh Review 35 (1996-1997)).

Drafft teipysgrif rhannol / Partial typescript draft

Teipysgrif o adolygiad rhannol o nofel Emyr Humphreys ‘The Gift of a Daughter’, ynghyd â llythyr at Emyr Humphreys oddi wrth Mick Felton (1997) gydag ateb. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys drafft llawysgrif o erthygl, ‘Men of Letters’ (heb ddyddiad). / A typescript of a partial revision for Emyr Humphreys’ novel ‘The Gift of a Daughter’, together with a letter to Emyr Humphreys from Mick Felton (1997) with a reply. The file also contains a manuscript draft of an article, ‘Men of Letters’ (undated).

Drafft o bennod / Draft of a chapter

Drafft llawysgrif heb deitl, wedi’i ysgrifennu yn llaw Emyr Humphreys, o’r hyn sy’n ymddangos i fod yn bennod 7 o ‘The Shop’. / An untitled manuscript draft, written in the hand of Emyr Humphreys, of what appears to be chapter 7 of ‘The Shop’.

Nodiadau / Notes

Llyfr nodiadau yn cynnwys nodiadau llawysgrif amrywiol yn llaw Emyr Humphreys, y mwyafrif yn ymwneud â’r nofel ‘The Shop’. / A notebook containing various manuscript notes in the hand of Emyr Humphreys, the majority relating to the novel ‘The Shop’.

Proflenni / Proofs

Copy proflen o 'Penguin Modern Poets 27: John Ormond, Emyr Humphreys, John Tripp' (Harmondsworth: Penguin, 1979). / A proof copy of 'Penguin Modern Poets 27: John Ormond, Emyr Humphreys, John Tripp' (Harmondsworth: Penguin, 1979).

Nodiadau a drafftiau / Notes and drafts

Llyfr nodiadau rhwymedig (1996-1997), yn cynnwys nodiadau llawysgrif a drafftiau a ysgrifennwyd yn llaw Emyr Humphreys, y mwyafrif ohonynt yn gerddi a gyhoeddwyd yn ‘Shards of Light’ (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2018). Maent yn cynnwys cerddi gyda'r teitlau ‘Pest Officer’, ‘Hitler’s Teeth’, ‘That Summer’, ‘The End of You’, ‘Holy Orders’, ‘Armistice’, ‘Wordless’, ‘Andrée’, ‘The Day I Forgot Your Name’, ‘Bathroom Interrogation’, ‘Listening to Messiens’, ‘Myrddin’, ‘Mother to Baby’, ‘A Single Mother’, ‘The Farmer’s Wife’, ‘Invasion’, ‘A Celebration of Swallows’, ’Picnic’, ‘Wrong Number’, ac ‘Old People’s Home’; drafftiau o straeon byrion gyda’r teitlau ‘The Poet’s Corner’, ‘The Biography of Buster McJones’, ‘Marta and Gwilym’, ‘A Sour [Grape]’, a ‘A Meching of Minds’; nodiadau wedi’u teitlo 'Twilight Sleep’, ‘Agostino’s Tree’, ‘A Tale of Two Brothers’, ‘Notes on the Novel’, ‘Merêd’, ‘Cymru yn y Canol’, ‘Hela Lluniau’, ‘Crwydro’r Orielau’, ‘Llythyrau o’r Ffrynt’, ‘Hysbys’, ‘Byd a Bettws Ambrose Bebb’, ‘Ysbytai’, a ‘Plant Taliesin’; drafftiau o benodau o ‘Gift of a Daughter’ (1996); a drafftiau o’r enw ‘A Man’s Estate: diwedd newydd’, yn cynnwys drafftiau o ddiweddglo amgen i ‘A Man’s Estate’, yn seiliedig ar rifyn 1988. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys nifer o dderbynebau llyfrgell gan LlGC (1997), a chopi o raglen Colocwiwm Rhyng-golegol Prifysgol Cymru (1974). / A bound notebook (1996-1997), containing manuscript notes and drafts written in the hand of Emyr Humphreys, the majority of which are poems that were published in ‘Shards of Light’ (Cardiff: University of Wales Press, 2018). They include poems titled ‘Pest Officer’, ‘Hitler’s Teeth’, ‘That Summer’, ‘The End of You’, ‘Holy Orders’, ‘Armistice’, ‘Wordless’, ‘Andrée’, ‘The Day I Forgot Your Name’, ‘Bathroom Interrogation’, ‘Listening to Messiens’, ‘Myrddin’, ‘Mother to Baby’, ‘A Single Mother’, ‘The Farmer’s Wife’, ‘Invasion’, ‘A Celebration of Swallows’, ’Picnic’, ‘Wrong Number’, and ‘Old People’s Home’; drafts of short stories titled ‘The Poet’s Corner’,‘The Biography of Buster McJones’, ‘Marta and Gwilym’, ‘A Sour [Grape]’, and ‘A Meching of Minds’; notes titled ‘Twilight Sleep’, ‘Agostino’s Tree’, ‘A Tale of Two Brothers’, ‘Notes on the Novel’, ‘Merêd’, ‘Cymru yn y Canol’, ‘Hela Lluniau’, ‘Crwydro’r Orielau’, ‘Llythyrau o’r Ffrynt’, ‘Hysbys’, ‘Byd a Bettws Ambrose Bebb’, ‘Ysbytai’, and ‘Plant Taliesin’; drafts of chapters of ‘Gift of a Daughter’ (1996); and drafts titled ‘A Man’s Estate: diwedd newydd’, including drafts of an alternative ending to ‘A Man’s Estate’, based on the 1988 edition. The file also includes a number of library receipts from NLW (1997), and a copy of the programme for the University of Wales Inter-College Colloquium (1974).

Canlyniadau 81 i 100 o 297