Showing 3 results

Archival description
Emyr Humphreys Papers Wil Sam, 1920-2007 File English
Advanced search options
Print preview View:

Ffotograffau / Photographs

Ffotograffau du a gwyn yn dangos cynyrchiadau o ddramâu teledu’r BBC, yn cynnwys dau o gynhyrchiad y BBC o ‘Esther’ gan Saunders Lewis (1961); dau o gynhyrchiad y BBC o ‘Treason’ gan Saunders Lewis (1959); un o gynhyrchiad y BBC o ddrama gan W. S. Jones ‘A Car in the Thicket’ (1959); a thri llun arall yn ymwneud â chynyrchiadau teledu (di-deitl a heb ddyddiad). / Black and white photographs depicting productions of BBC television plays, consisting of two of the BBC production of Saunders Lewis’s ‘Esther’ (1961); two of the BBC production of Saunders Lewis’s ‘Treason’ (1959); one from BBC production of W. S. Jones's play ‘A Car in the Thicket’ (1959); and three other photographs relating to TV productions (untitled and undated).

Nodiadau a drafftiau amrywiol / Various notes and drafts

Nodiadau a drafftiau amrywiol, gan gynnwys teipysgrifau o syniadau ar gyfer erthyglau neu draethodau gyda’r teitlau 'A Note', 'Sut i Sgwennu Nofel', ac 'On Writing Novels' (yn gysylltiedig yn ôl pob tebyg â 'Notes on the Novel', a gyhoeddwyd yn ‘New Welsh Review’ 35, 1996/7); nodiadau llawysgrif yn llaw Emyr Humphreys dan y teitl ‘George Dennis in Etrusia’ (heb ddyddiad); papurau yn ymwneud â syniadau sgript, gan gynnwys copi o sgript ar gyfer y ddrama ‘Y Gadair Olwyn’ gan W.S. Jones ([?1950sx?1960au]), braslun o stori gyda’r teitl ‘Cyfeillion Mynwesol’ (heb ddyddiad), a chanllawiau iaith S4C (1987); a drafftiau teipysgrif pellach, gan gynnwys yr hyn sy’n ymddangos fel tudalennau o ‘The Gift of a Daughter’ (cyhoeddwyd Bridgend: Seren, 1998). Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys agenda a chofnodion ar gyfer cyfarfod o Ymddiriedolaeth Taliesin (1990); rhestr o ychwanegiadau at archif Emyr Humphreys (1992); datganiad o wrthwynebiad i gais cynllunio (1993); a llythyrau (1990; 1993; 1996) oddi wrth Manon Gwyn Jones (1) ac Emyr Humphreys (3). / Various notes and drafts, including typescripts of ideas for articles or essays titled ‘A Note’, ‘Sut i Sgwennu Nofel’, and ‘On Writing Novels’ (apparently related to ‘Notes on the Novel’, published in New Welsh Review 35, 1996/7); manuscript notes in the hand of Emyr Humphreys titled ‘George Dennis in Etrusia’ (undated); papers relating to script ideas, including a copy of a script for the drama ‘Y Gadair Olwyn’ by W.S. Jones ([?1950sx?1960s]), a story outline titled ‘Cyfeillion Mynwesol’ (undated), and S4C language guidelines (1987); and further typescript drafts, including what appears to be pages from ‘The Gift of a Daughter’ (published Bridgend: Seren, 1998). The file also contains an agenda and minutes for a meeting of the Taliesin Trust (1990); a list of additions to Emyr Humphreys’ archive (1992); a statement of objection to a planning application (1993); and letters (1990; 1993; 1996) from Manon Gwyn Jones (1) and Emyr Humphreys (3).

'The Shilling (Insurance) Man' / 'The Stumbling Block'

Dwy sgript (y ddwy wedi’u dyddio 1963), yn cynnwys teipysgrif o sgript ar gyfer drama lwyfan o’r enw ‘The Shilling (Insurance) Man’, cyfieithiad Saesneg gan Emyr Humphreys o ‘Y Dyn Swllt’ gan W.S. Jones; a chopi teipysgrif o sgript ar gyfer drama deledu gyda’r teitl ‘The Stumbling Block’ gan John Gwilym Jones, cyfieithiad o’r fersiwn Gymraeg wreiddiol gan Emyr Humphreys. / Two scripts (both dated 1963), consisting of a typescript of a script for a stage play titled ‘The Shilling (Insurance) Man’, an English translation by Emyr Humphreys of ‘Y Dyn Swllt’ by W.S. Jones; and a typescript copy of a script for a television play titled ‘The Stumbling Block’ by John Gwilym Jones, a translation of the original Welsh version by Emyr Humphreys.