Cyrhaeddodd Tegwch y Bore ac y mae wedi gorffen y darllen mawr "ac wedi cuddio deigryn fwy nag unwaith". Mae diffuantrwydd llwyr yn perthyn i'r nofel. Llythyr oddi wrth David Jones a'r nofel hon oedd y ddau beth mawr a dderbyniodd y Nadolig hwnnw.
Cafodd y teipysgrif yn ôl heddiw bron i gyd. Rhaid diwygio tipyn ar fersiwn 'Pistyll'. Mae'n flin na fu iddo gymharu'r hen gyfieithiadau gyda'r llyfr cyn eu gyrru i'w teipio.
Diolch am gopi o Tegwch y Bore. Bu'n rhy sâl i'w darllen hyd yn hyn ac y mae arno ofn ei darllen rhag iddo ddwyn syniadau ar gyfer ei nofel ef yn disgrifio'r Rhyfel Byd Cyntaf mewn pentre diwydiannol.
Cynnig mynd â KR i'r ysbyty pan fydd raid iddi fynd yno. Fe'i gwelodd yn siarad am yr anterliwt ar y teledu. Hoffai pwyllgor Theatr Fach Eryri iddi ddod draw efo'r rhaglen ym mis Medi.
Mae'n aros yn y bwthyn ac y mae newydd ddarllen [Tea in the Heather]. Llwyddodd i gyfleu teimladau plentyn yn arbennig, mae'r cymeriadau yn feistraidd a'r ysgrifennu am natur yn farddonol. Hanesion am gydnabod. Saesneg/English.
Trafod awduron ar gyfer y gyfrol deyrnged. Gofyn am gyfeiriad Winnie Rees. Gellir cyfieithu ei chyfraniad yn ddidrafferth. Hoffai ddod i Ddinbych am sgwrs ynglyn â'r lluniau i'r gyfrol.
Diolch am anrheg [priodas] i Elinor. Trawyd ei wraig, Mari, â pharlys ddeuddydd cyn y briodas. Llwyddodd i fynd i'r briodas er hynny. Mae yn yr ysbyty ar y pryd. Cyfeiriad at ei adolygiad yn "Ar Ymyl y Ddalen", Barn, Mai 1968. Gwelodd mwy fyth yn [Tegwch y Bore] ar yr ail-ddarlleniad.
Canmol Tea in the Heather. Cafodd hi a Daisy wyliau da yn yr Eidal. Mae'n teimlo na fydd henaint yn caniatáu iddi grwydro'r Cyfandir eto. Yr oedd yn falch o fedru dangos gogoniant Fenis i'w merch. Bu ffrind o Efrog Newydd yn aros gyda hi wedyn. Holi am yr anterliwt. Saesneg/English.
Diolch am anfon tri llythyr R. W[illiams] P[arry] ato. Mae'r un ynglyn â'r DLitt yn bwysig. Mae'r llythyrau yn deyrnged unplyg iawn iddi hi a'i gwr. Mwynhaodd Tegwch y Bore yn fawr. Bydd yn aros yn saff gyda Rhys Lewis ac Enoc Huws ymhlith colofnau cadarn y nofel gymdeithasol Gymraeg.
Mae'n gas ganddo'r Nadolig a'i ruthr. Ceisio cadw'r Blaid ar yr hen lwybrau oedd ei amcan yn Barn. Nid yw'r to presennol o arweinwyr yn gwybod mai peidio â mynd i senedd Llundain oedd polisi gwreiddiol y Blaid. Cânt eu holl syniadau oddi wrth y papurau sosialaidd Saesneg. Pwysleisiodd hynny yn ei ddrama Excelsior rai blynyddoedd ynghynt ond ni chyhoeddwyd mo'r ddrama.
Mae'n bwriadu rhoi gwybod i Mr Bowen am roi teitlau'r llyfrau cyn 1946 ar y llechi [yng Nghae'r Gors] ond i gynnwys Te yn y Grug hefyd. Cafwyd gair calonogol o gefnogaeth oddi wrth Alwyn Hughes Jones i'r fenter ond dim gair swyddogol eto. Bydd yn ysgrifennu eto ynglyn â'r cyfarfod yn Rhosgadfan a'r cinio teyrnged.
Hanes marwolaeth ei frawd yn Harpenden. Diolch am adolygiad caredig yn Y Faner. Bydd yn anfon copi o'r adolygiad a chyfieithiad Saesneg at ei gyhoeddwr, Dent. Mae ei wraig wedi mwynhau darllen Tea in the Heather. Nid oedd ef yn gwbl hapus â'r cyfieithiad.
Cael amser diddorol yng Nghaliffornia. Mae'r prysurdeb yn dychryn dyn a phobl yn byw mewn palasau o dai. Mae'n mynd i weld y Grand Canyon ymhen deuddydd. Cerdyn post.
Trafod cyflwr iechyd ei chwaer, Neli. Y mae hi yn gwaelu yn feddyliol ac yn nerfol. Ymddiheuro am lythyr mor ddigalon ond dyna'r unig beth sydd ar ei meddwl hi.
Bu yn Llundain yn ymweld â David Jones. Gwahoddwyd Saunders Lewis gan Gyngor y Celfyddydau i ysgrifennu llyfr Saesneg ar fywyd a gwaith David Jones. Nid yw'n awyddus i dreulio blwyddyn yn ysgrifennu llyfr Saesneg, ond y mae David Jones yn hen gyfaill iddo ac yn awyddus i Saunders Lewis i gyflawni'r gorchwyl. Drwg ganddo glywed am waeledd KR. Beirniadaeth lem ar Y Faner - "y cawl mwya comig a didrefn ac anfad ddiymennydd a welwyd erioed yn Gymraeg". Tra bu yn Llundain bu'n ymweld ag arddangosfa Claude Lorrain ac yn gweld perfformiad o'r ddrama The Price gan Arthur Miller.
Cafodd flwyddyn brysur ac nid diolch i'r BBC yr oedd hynny. Mae'n teimlo ei bod yn dipyn o "back number" gyda'r to newydd yno. Mae ei gwr wedi dygymod â'i ymddeoliad yn dda iawn. Hanesion teuluol. Canmol "Unigrwydd". Cafodd ei holi gan Teleri Phillips [>Bevan] ar "Merched yn Bennaf" ynglyn â'r gwaith a roddodd fwyaf o bleser iddi. Dywedodd mai 'rwts' yr oedd rhywun yn gorfod ei wneud rhan amlaf ac felly nefoedd ambell waith oedd cael gwneud gwaith KR.
Diolch i KR am ei charedigrwydd yn anfon [Prynu Dol] yn rhodd iddo. Bu'n ail ddarllen ei holl straeon byrion yn ddiweddar gyda Megan Hughes Jones sy'n ymchwilio i'r stori fer. Cafodd flas anghyffredin ar wneud hynny.