Diolch i KR am ei geiriau caredig [ynglyn â Thryweryn]. Gwyr fod KR wedi dioddef ac aberthu llawer dros Gymru. Y mae llafurio'n ddygn ac yn ddiflino fel y gwnaeth KR o ddydd i ddydd yn golygu mwy o aberth nag un weithred bendant, ramantus, boed yn Mhen-y-berth neu yn Nhryweryn.
Gofynnodd KR iddo fod yn bresennol yng nghyfarfod nesaf yr Academi 'er mwyn G.J.W.' ond ni chafodd air swyddogol, dim ond gweld hysbysiad yn Y Faner. Bydd mewn pwyllgor yn yr Amgueddfa Werin ar y pumed o Ebrill beth bynnag. Ymddengys bod Ysgrifennydd yr Academi yn ei anwybyddu'n llwyr bellach.
Y mae wedi ysgrifennu at Dr Peate. Dywedasai Iorwerth C. Peate wrth Gwenallt nad oedd bellach yn aelod o'r Academi. Mae'n cynnwys copi o'i lythyr yn croesawu Iorwerth C. Peate i Gynhadledd Caredigion Taliesin.
Nid oes angen iddi roi gwybod i Bobi Jones. Ysgrifennodd at y Llywydd i ymddiswyddo. Nid yw'r ffaith fod Bobi Jones yn cilio o'r Academi ym mis Ebrill yn newid dim gan nad yw'r Academi wedi anghymeradwyo dim a wnaeth. Mae'n dehongli hynny fel pleidlais o gerydd arno. Byddai'n well iddo gyhoeddi ei ymddiswyddiad a chlirio'r awyr yn llwyr.
Ymateb i Tywyll Heno ar ôl ei ail-ddarllen. Thema gwraig yn ymladd yn erbyn anawsterau sydd yn y gyfrol hon eto fel nifer o'i gweithiau eraill. Mae elfen foesol yn ei hysgrifennu, dylanwad Methodistiaeth Galfinaidd y cyfnod cynnar mae'n debyg, ond mae i'r elfen honno ei pherygl, gall droi yn ddysgu moesoldeb. Ydi'r ffaith i [Bet] wella yn feddyliol yn golygu iddi gael ei ffydd yn ôl?.
Buont yn Llundain a bu Dewi'n gwylio'r criced yn yr Oval a hithau'n gweld "Chips with Everything" Arnold Wesker. Hanesion teuluol. Canlyniadau'r arholiadau ysgol.
Dylid trafod y mater o dalu awduron yn yr Academi Gymreig. Gofyn iddi adolygu llyfrau ar gyfer Taliesin. Bu gweddw G. J. Williams yn ei holi am hawliau pensiwn. Y mae wedi cilio i'w chragen yn ôl pob hanes ar ôl colli G. J. Williams.
Diolch am Hyn o Fyd. Mae'n gwerthfawrogi'r cyflwyniad yn fawr iawn ac yn edrych ymlaen i weld yr adolygiadau er bod llawer o adolygwyr Cymru yn rhai anghymwys. Bu'n gwrando ar Thomas Parry yn sôn am Ieuan Llyn yng Nghymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. Y mae'r gymdeithas ei hun yn ddigri - cotiau ffyr a snobyddiaeth a siarad Cymraeg unwaith yn y pedwar amser.
Mae darllen 'Teulu Mari' yn Hyn o Fyd wedi ei oglais i wraidd ei fod, "mae'n ofnadwy o glyfar". Trafod cymeriadau'r stori. Mae ambell gyffyrddiad sy'n farddoniaeth bur.
Yr anrheg pwysicaf a dderbyniodd dros y Nadolig oedd Hyn o Fyd. Cafodd ei gwr a hithau fwynhad mawr o ddarllen y gyfrol. Bydd yn rhyfeddu at allu KR i ddeall holl drybini dyn o gyni oes Victoria i broblemau newydd yr ugeinfed ganrif.
Bu colli G. J. Williams yn ormod o ergyd i'w weddw. Clywodd KR ar y radio y noson cynt a darllen ei sgwrs â [Lewis] Valentine a'i chael yn bwysig a thra diddorol. Nid yw'n debyg o orffen ei lyfr ar Ann Griffiths. Mae angen rhai wythnosau o waith yn y Llyfrgell yn Aberystwyth i wneud hynny ac ni all ymryddhau. Cyhoeddwyd llyfr difyr ar ei theulu gan David Thomas.
Da ganddo ddeall bod KR wedi mwynhau darllen ei ymdriniaeth ar yr awduron Eingl-Gymreig. Bu'n ddirgelwch iddo erioed pam yr oedd gwaith y bobl hyn yn swnio mor annaturiol ac anghywir o'i gymharu â gwaith llenorion Cymraeg. Gwaith diflas oedd darllen y deunydd. Mwynhaodd y gynhadledd yn Abertawe yn enwedig Glyn Jones a'i sylwadau hithau ar "Chwaeth".
Mae'r math o ysgrifennu a gafwyd yn Tywyll Heno wrth ei fodd. Mae pobl wedi ei gamddeall - fe gostiodd yn ddrud iddo droi'n eglwyswr. Peth trist oedd bod y Methodistiaid wedi gadael yr eglwys ac na welodd yr eglwys werth yn yr adnewyddiad a gynigid ganddynt.
Mae'r lluniau enwogion yn ifanc yn denu chwilfrydedd plant yr Ysgol Gymraeg yn fawr. Diolch am y lluniau ac am gymwynasau eraill. Mae'n sylweddoli pa mor ffodus y maent o gael KR yn asgwrn cefn i'r ysgol.
Mae wedi darllen ei hysgrif o atgofion yn Barn. Y mae wedi ennill Gwobr Goffa Syr John [Morris-Jones]. Bu'n paratoi traethawd technegol ar ddefnydd Bobi Jones o ddelweddau. Disgwylir ail nofel ei wraig, Byd o Gysgodion, o'r wasg erbyn yr Eisteddfod.
Diolch am ysgrifennu hanes yr Ysgol Haf mor llawn a chryno yn Y Faner. Canmol y cyfarfod teyrnged iddo. Yr oedd KR yn ardderchog. Roedd y cyfarfod yn un o oriau goleulon ei fywyd. Cafodd lythyrau gan Dr Gwenan [Jones] a Dr Noëlle [Davies] yn canmol y cyfarfod. Mae'n darllen llyfr J. E. [Jones] ar Y Swistir, llyfr teilwng iawn.