Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 691 canlyniad

Disgrifiad archifol
Eisteddfod Genedlaethol Cymru - cyfansoddiadau a beirniadaethau ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

Dysgwyr,

Cerdd: 'Croesi' (cystadleuaeth y gadair); darn o ryddiaith: 'Eisteddfod ddoe a heddiw' (y tlws rhyddiaith); sgwrs rhwng dau berson ar faes yr Eisteddfod'; sgript cyfweliad hyd at 5 cwestiwn ac ateb gyda Chymro neu Gymraes enwog (byw neu farw); llythyr cwyno; adolygiad o lyfr neu CD Cymraeg; a gwaith grŵp neu unigol.

Rhyddiaith,

Darn neu ddarnau rhyddiaith ar ffurf benodol (Ysgoloriaeth Emyr Feddyg); stori fer wedi'i lleoli ym myd diwydiant; blog dros gyfnod o fis; casgliad o 10 darn ar ffurf llên meicro: 'Ystafelloedd aros'; ysgrif bortread; erthygl newyddiadurol ... ar bwnc llosg; llythyr dychmygol at wleidydd; stori arswyd wedi'i hanelu at bobl ifanc; casgliad o hyd at 30 o anecdotau difyr o'r byd chwaraeon; a chystadleuaeth i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac yn dal i fyw yn Yr Ariannin: 'Byw yn y Wladfa heddiw'.

Cyfansoddiadau cerddorol,

Cyfansoddiad gwreiddiol ar gyfer côr SATB ... yn adlewyrchu dathliad yr Eisteddfod yn 150 mlwydd oed (Tlws y cerddor); emyn-dôn i eiriau Siôn Aled; darn ar gyfer côr SSA fyddai'n addas ar gyfer Nadolig gyda chyfeiliant piano neu organ; ffantasia i'r organ; trefniant o unrhyw alaw werin yn y llon ar gyfer côr TTBB; cyfansoddiad ar gyfer ensemble pres mewn arddull jazz (neu blues); a chasgliad o ddarnau mewn unrhyw gyfrwng na chymer fwy na 8 munud (i ddisgyblion ysgolion uwchradd a cholegau trydyddol).

Dysgwyr,

Cerdd: 'Y ddinas' (cystadleuaeth y gadair); darn o ryddiaith: 'Gwrthdaro' (y tlws rhyddiaith); darn o ryddiaith: 'Cyflwyno ffrind'; llythyr neu ebost i ysgol eich plentyn neu at ffrind; a gwaith prosiect ar y thema 'Bwyta'n iach' yn seiliedig ar wybodaeth a godwyd o'r wê.

Rhyddiaith,

Stori fer: 'Gollwng'; casgliad o lên meicro: 'Gwastraff'; ysgrif ar unrhyw agwedd o fyd chwaraeon; dyddiadur dynes ddwâd; pennod gyntaf cofiant/bywgraffiad; erthygl grafog; gohebiaeth rhwng dau berson o ddwy genhedlaeth; cardiau nabod (set o 30) ym maes llenyddiaeth Gymraeg, yn null cardiau Top Trumps a Dr Who; a chasgliad o sloganau slic.

Barddoniaeth,

Hyd at 30 o gerddi (Ysgoloriaeth Emyr Feddyg); cerdd neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn; 'Tir newydd'; casgliad o gerddi rhydd: 'Stryd pleser'; englyn: 'Sain Ffagan'; englyn ysgafn: 'Parcio'; telyneg: 'Gwlith'; cerdd ddefosiynol; cerdd heb fod yn fwy na 50 llinell: 'Senedd'; cerdd ddychan: 'Saga'; cerdd ar fesur Filanél; a throsi i'r Gymraeg gerdd gan un o bump awdur penodol.

Cyfansoddiadau cerddorol,

Emyn-dôn i eiriau'r Parchedig Denzil John; trefniant o alaw werin neu emyn-dôn ar gyfer meibion TTBB; gosodiad o unrhyw salm (neu adnod o salm) ar gyfer côr SATB; tri symudiad gwrthgyferbyniol; ymdeithgan i'r organ; cylch o ganeuon ar gyfer unrhyw lais ar eiriau gan fardd cyfoes; a chyfansoddiad gwreiddiol rhwng 4 a 6 munud o hyd i bedwar llais SATB gyda chyfeiliant piano neu organ (Tlws y cerddor).

Canlyniadau 1 i 20 o 691