Dramâu'n seiliedig ar hanesyn neu chwedl o Sir Gâr; act gyntaf drama gyfres deledu yn seiliedig ar nofel a gyhoeddwyd wedi 1960; dramâu byrion ar thema neu sefyllfa gyfoes ar gyfer ieuenctid; dramâu radio hanner awr; dramâu un act i ferched; beirniadaeth drama a berfformiwyd ar y teledu a throsiadau o ddrama fer o'r Saesneg.
Drama faith; dramâu byrion; dramâu awr ar gyfer plant; dramâu ar gyfer teledu; comedïau byrion; dramâu crefyddol; pum sgets; llawlyfr sy'n cyfuno gwaith creadigol mewn drama, cerddoriaeth ac arlunio a beirniadaethau ar ddrama Saunders Lewis.
Cyfansoddi drama lwyfan (Y fedal ddrama); cyfansoddi drama fer ar gyfer cwmni drama ar y thema 'Gwrthdaro'; a chyfansoddi drama (cystadleuaeth arbennig i rai dan 25 oed).
Sgriptiau dramâu hir a byr; dramâu i'w cyflwyno gan blant ysgolion cynradd; dramâu i'w cyflwyno gan ddisgyblion ysgolion uwchradd a chlybiau ieuenctid; cynllunio rhaglenni nodwedd; ffârs ddychanol; trosiadau o ddrama fer Saesneg.
Drama lwyfan o leiaf awr a hanner o hyd; drama fer ar gyfer y llwyfan : Gwersyll; tair deialog wreiddiol 5 munud yr un; drama i gwmni o blant yn eu harddegau cynnar a drama radio mewn chwe phennod.
Drama hir : drama lwyfan neu tair drama fer ac iddynt gysylltiad o ran cymeriadau ac/neu thema; drama fer ar gyfer y llwyfan a chyfrol fer yn olrhain hanes un cwmni drama amatur Cymraeg.
Drama fer agored; trosi drama benodol i'r Gymraeg; sgript ar gyfer y teledu; a chyfansoddi hyd at 4 sgets 5 munud o hyd yr un, addas ar gyfer noson lawen.
Dramâu byrion i'w perfformio gan ferched; sgriptiau drama gerdd; trosi dramâu o iaith Ewropeaidd sy'n addas i'w hastudio ar gyfer TGAU neu Safon Uwch i'r Gymraeg a senario ar gyfer cyflwyniad Theatr mewn Addysg i blant cynradd.
Dramâu hir; dramâu byrion; dramâu byrion addas i'w cyflwyno gan gwmni o ferched; dramâu byrion ar gyfer plant Ysgol Gynradd; dramâu byrion yn addas i'w cyflwyno gan blant ysgolion uwchradd; cyfieithiad o'r Ffrangeg; sgript pantomeim; addasiadau llwyfan o stori fer Gymraeg a sgriptiau ffilm ddramatig.
Drama hir (Tlws y ddrama); dramâu byrion; comedi neu ffars a gymer oddeutu awr a hanner i'w chyflwyno; drama deledu a dramâu am bobl ifanc i actorion ifainc.
Dramâu byrion; sgriptiau radio ar gyfer rhaglen nodwedd; drama fer neu sgript ddramatig; libretto ar gyfer comedi gerdd a drama fer neu gyflwyniad damatig yn seiliedig ar olygfa o un o lyfrau D. J. Williams.
Dramâu hir (Tlws y ddrama); dramâu byrion; sgript rhaglen nodwedd awr a hanner ar gyfer y llwyfan; dramâu byrion ar gyfer merched; dramâu byrion ar gyfer Aelwyd yr Urdd, Clwb Ffermwyr Ieuainc neu Glwb Ieuenctid; a throsi drama fer o unrhyw iaith Ewropeaidd heblaw'r Saesneg.
Dramâu mydryddol (testun yn agored); dramâu gwreiddiol hir; dramâu gwreiddiol un act (testun agored); dramâu byrion, addas ar gyfer tymor y Nadolig; drama un act i ferched; drama i blant o dan 11 oed, yn seiliedig ar unrhyw Chwedl Gymreig; dramâu i blant rhwng 11 a 15 oed, seiliedig ar unrhyw ddigwyddiad yn hanes Cymru; trosiadau i'r Gymraeg o unrhyw ddrama o waith James Bridie neu St John Irvine; a throsiadau i'r Gymraeg o ddrama gan W. B. Yeats.
Dramâu hir; dramâu byrion; drama i'w chyflwyno gan actorion profiadol; tair drama 15 munud; tair dramodig; pantomeim; cyfieithiadau o ddrama hir Saesneg; cyfieithiad o ddrama hir o unrhyw iaith Ewropeaidd ac o unrhyw ddrama un act.
Addasiad, nas cyhoeddwyd, ar gyfer llwyfan, o un o nofelau Islwyn Ffowc Elis; drama fer i ferched; rhaglen lwyfan ar gyfer plant ysgolion uwchradd; gwaith ymchwil ar gyfer rhaglen ddogfen deledu ... un o enwogion bro'r Eisteddfod; sgript ar gyfer cyflwyniad dramatig fyddai'n denu plant i ddarllen llyfrau Cymraeg; trosi sgript deledu o'r Saesneg ar gyfer trosleisio; trosiad o ddrama ias a chyffro (thriller), sydd wedi ei chyfansoddi ers 1950 a throsiad o ddrama Saesneg ar gyfer gwyliau drama ieuenctid ....