Dramâu hir (Tlws y ddrama); dramâu byrion - comedi wedi ei lleoli mewn gwely a brecwast neu westy glan y môr a sgriptiau ar gyfer cyflwyniad un actor neu actores.
Drama hir neu drioleg o ddramâu byrion (Tlws y ddrama); drama fer : comedi i'w perfformio gan actorion dan 26; rhaglen arbennig : sgript wreiddiol ar gyfer sioe lwyfan i ysgolion meithrin a throsi drama Gymraeg hir i un o ieithoedd cyfandir Ewrop ar wahân i'r Saesneg.
Dramâu hir gwreiddiol; drama un act wreiddiol i ferched; dramâu teledu; addasiadau o stori fer mewn unrhyw iaith yn ddrama Gymraeg; trosiadau o ddramâu hir a throsiad o unrhyw ddrama fer o’r Almaeneg neu’r Ffrangeg.
Drama hir; dramâu byrion; comedïau byrion; dramâu byrion i ferched; drama fer i rai dan 25 oed; trosiad o ddrama hir a throsiadau o ddrama fer o'r Saesneg neu'r Ffrangeg.
Drama hir wreiddiol; drama fer wreiddiol; cyfaddasiaf cyfoes dramatig o unrhyw gymeriad neu ddigwyddiad yn y Testament Newydd; act gyntaf o ddrama gyfres ar gyfer y teledu; dramâu un act gwreiddiol; dramâu ar gyfer plant; dramâu un act gwreiddiol ar gyfer merched; trosi drama fuddugol o waith awdur yn perthyn i Gymdeithas Drama Cymru;
Drama hir (cadwyn o ddramodigau); drama fer ar gyfer llwyfan; drama radio neu ddrama gyfres chwe phennod; trosi drama benodol i'r Gymraeg a chreu neu drosi monolog.
Drama hir agored neu gyfres o ddramâu; drama fer agored hyd at awr o hyd; trosi drama benodol i'r Gymraeg; cyfansoddi; cyfansoddi drama gomedi; cyfansoddi monolog ... ar y testun 'Celwydd'; a sgript drama deledu neu ffilm 10 munud o hyd (Ysgoloriaeth Geraint Morris mewn cydweithrediad â Cyfle).
Trioleg. Cyfres o dair drama un act ar thema amser (Tlws y ddrama); sgriptiau drama radio yn null opera sebon; ffars ddychanol a sgript ffilm : drama ddogfen.
Drama a gymer rhwng awr a hanner a dwy awr i'w pherfformio (Tlws y ddrama); sgriptiau opera sebon; drama fer tua 40 munud o hyd; sgript drama gerdd, addas i'w pherfformio gan blant ysgolion cynradd; amlinelliad llu a llafar o bump o hysbysebion ar gyfer y teledu.
Drama hir wreiddiol; drama fer wreiddiol; sgript ar gyfer cyflwyniad llwyfan ar ffurf rhaglen deyrnged ddramatig ... Waldo Wiliams neu D. J. Williams; trosiadau o ddrama hir gan unrhyw awdur cyfoes o gyfandir America neu Ewrop a drama fer (hunan ddewisiad).