Unawdau i unrhyw lais gyda chyfeiliant, ar gerdd gan unrhyw fardd Cymraeg cyfoes; anthem S.A.T.B gyda chyfeiliant organ; cylch o ganeuon unsain; emyn-donau; gwaith ar gyfer grŵp siambr a threfniannau o ddwy alaw draddodiadol ar gyfer gwahanol leisiau, un ohonynt ar gyfer T.T.B.B.
Traethawd yn olrhain hanes a datblygiad unrhyw agwedd ar y diwydiant amaethyddol (Gwobr Beatrice Grenfell) a nofelau a anfonwyd i gystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen.
Dramâu hir (Tlws y Ddrama); drama fer; drama fer i ferched; cyflwyniad dramatig ar gyfer plant ysgolion cynradd; drama fer ar gyfer plant 11-15 oed; drama fer ar gyfer ieuenctid 15-19 oed; comedi neu ffars; llyfryn o sgetsus addas i'w perfformio gan bobl ifanc a sgript ffilm ddramatig.
Alawon cerdd dant; unawdau ar gyfer unrhyw lais gyda chyfeiliant piano neu delyn, ar gerdd gan unrhyw fardd Cymraeg cyfoes; casgliad o drefniadau o alawon addas ar gyfer grŵp o offerynau mewn ysgol gynradd wledig; trefniant o ddwy alaw werin gyferbyniol ac emyn-donau.
Llyfr taith trwy Gymru; drama fer ar gyfer oedolion sy'n dysgu Cymraeg; cyfres o chwech o sgyrsiau; cywaith grŵp : paratoi papur ar lun Papur Bro; cyfansoddi dawns yn y traddodiad Morris Cymreig; llyfryn o weithgareddau mathemategol; tair erthygl ar unrhyw agwedd o fyd natur; dwy erthygl ar bynciau meddygol yn addas i'w cyhoeddi.
Dyddiaduron yn cofnodi treigl y tymhorau (y fedal ryddiaith); tair stori yn edrych ar un digwyddiad o dri safbwynt gwahanol; ysgrifau : 'Mynydd'; golwg ddychanol ar yr 20fed ganrif yn null un o weledigaethau Ellis Wynne; ysgrifau newyddiadurol; cyfrolau o storïau crefyddol ... i blant dan 6 oed; casgliad o eiriau a dywediadau tafodieithol o unrhyw ardal; stori fer hir; cystadleuaeth i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac sy'n dal i fyw yno : 'Dylanwadau' a llyfr erchwyn gwely.