Nofel hir heb ei chyhoeddi (Gwobr Goffa Daniel Owen); cystadleuaeth i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac sy'n dal i fyw yn yr Ariannin (Fy nghapel i); tair ysgrif (thema 'Hau a medi'); pedair erthygl addas i gylchgrawn fel Llafar Gwlad; dyddiadur : 'Newid aelwyd'; portread newyddiadurol cyfoes a dwy bennod o nofel wyddonias i rai yn eu harddegau.
Dramâu hir (Tlws y ddrama); dramâu byrion - comedi wedi ei lleoli mewn gwely a brecwast neu westy glan y môr a sgriptiau ar gyfer cyflwyniad un actor neu actores.
Nofel heb ei chyhoeddi (Gwobr Goffa Daniel Owen); straeon byrion : 'Dim ond heddiw ...' ; stori fer mewn tafodiaith; sgwrs neu ddarlith fer ysgafn; storïau ar gyfer gwasanaeth boreol mewn ysgol gynradd; llyfryn ym mhatrwm cyfres Llafar Gwlad ar Ffynhonnau Canolbarth Cymru; pigion o ddyddiadur mis (i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac yn dal i fyw yn yr Ariannin) a nofel i blant 9-12 oed â chwaraeon yn gefndir iddi.
Drama hir neu drioleg o ddramâu byrion (Tlws y ddrama); drama fer : comedi i'w perfformio gan actorion dan 26; rhaglen arbennig : sgript wreiddiol ar gyfer sioe lwyfan i ysgolion meithrin a throsi drama Gymraeg hir i un o ieithoedd cyfandir Ewrop ar wahân i'r Saesneg.
Awdlau : 'Gwaddol'; pryddestau i nifer o leisiau heb fod dros 200 liinell : 'Branwen'; englynion : 'Geiriadur'; englynion ysgafn : englyn cerdyn post gan rywun ar wyliau; cywydd i goffáu E. Meirion Roberts; soned : 'Crefftwr'; telynegion : 'Cadwyn'; emynau : 'Gobaith' a chyfrolau o gerddi digri gwreiddiol.
Cyfansoddi cainc o naws anthem genedlaethol mewn arddull gyfoes; emyn-donau; unawdau ar gyfer contralto/bas a phiano; ensemble offerynnol ar gyfer rhwng 4 ac 8 o rannau; ensemble lleisiol ar gyfer grŵp rhwng 4 ac 6 o rannau; cyfansoddiad gwreiddiol ar gyfer côr gyda chyfeiliant; trefniant o ddwy gân werin wrthgyferbyniol ar gyfer côr amatur; trefniant o ddwy gân werin wrthgyferbyniol ar gyfer cerddorfa amatur a ffolio o waith amrywiol i fod rhwng 4 ac 8 munud wedi'i gyflwyno ar dâp ac/neu sgôr (cystadleuaeth i ieuenctid).