Dangos 691 canlyniad

Disgrifiad archifol
Eisteddfod Genedlaethol Cymru - cyfansoddiadau a beirniadaethau ffeil
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Cyfansoddi dramâu,

Sgript drama fer ar gyfer disgyblion Ysgolion Uwchradd dan 15 oed a beirniadaeth; beirniadaeth tair drama fer ar gyfer disgyblion ail-iaith mewn Ysgolion Uwchradd; beirniadaeth ar wythnos o raglenni Cymraeg ar y teledu a beirniadaeth; rhaglen ddramatig neu ddrama ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd (rhifau 47-48, 50-52 yn y Rhestr Testunau).

Cyfansoddi,

Chwech o ganeuon unsain ar eiriau Cymraeg gwreiddiol ar gyfer plant ysgolion cynradd gyda chyfeiliant syml i'r piano, tri darn deulais addas i gôr plant ysgol uwchradd gyda chyfeiliant piano a threfniant o ddwy o alawon Cymreig traddodiadol, ynghyd ag un feirniadaeth arnynt (rhifau 19-21 yn y Rhestr Testunau).

Cyfansoddi,

Gosodiad o Salm 100 (SATB); gododiadau mewn idiom ysgafn fodern ar gyfer llais unigol o ran o 'Yr hen Gwm' gan Amanwy; gwaith siambr mewn un symudiad ar gyfer pedwarawd llinynnol; ymdeithgan i gerddorfa ysgol, ar gyfer diwrnod rhannu gwobrau; a chylchoedd o chwe chân unsain ar gyfer ysgolion cynradd.

Cyfansoddiadau cerddorol,

Cyfansoddi cainc o naws anthem genedlaethol mewn arddull gyfoes; emyn-donau; unawdau ar gyfer contralto/bas a phiano; ensemble offerynnol ar gyfer rhwng 4 ac 8 o rannau; ensemble lleisiol ar gyfer grŵp rhwng 4 ac 6 o rannau; cyfansoddiad gwreiddiol ar gyfer côr gyda chyfeiliant; trefniant o ddwy gân werin wrthgyferbyniol ar gyfer côr amatur; trefniant o ddwy gân werin wrthgyferbyniol ar gyfer cerddorfa amatur a ffolio o waith amrywiol i fod rhwng 4 ac 8 munud wedi'i gyflwyno ar dâp ac/neu sgôr (cystadleuaeth i ieuenctid).

Cyfansoddiadau cerddorol,

Trefniannau lleisiol neu offerynnol o un alaw neu gainc werin Gymraeg draddodiadol; emyn-donau; unawd piano neu delyn; darn byr i organ bib; gosodiad o salm i gôr merched; carol Nadolig; gosodiad Cymraeg o'r Magnificat a'r Nunc Dimitis ar gyfer côr cymysg SATB; symudiad byr (heb fod yn hwy na 7 munud) ar gyfer cerddorfa lawn; un symudiad ar gyfer ensemble offerynnol; Tlws y Cerddor; ffolio o waith amrywiol i gynnwys dim mwy na 5 o ddarnau (cystadleuaeth i ddisgyblion ysgolion uwchradd a cholegau trydyddol dan 19 oed); a chyfansoddi cân (Adran Dinistr).

Canlyniadau 141 i 160 o 691