Showing 691 results

Archival description
Eisteddfod Genedlaethol Cymru - cyfansoddiadau a beirniadaethau file
Print preview View:

Rhaglen nodwedd a beirniadaethau,

Rhaglenni nodwedd addas i'w defnyddio mewn capel neu eglwys a beirniadaeth (rhif 27 yn y Rhestr Testunau), ynghyd â beirniadaethau ar draethawd ar fywyd a gwaith Gwilym Bowyer, detholiad o weithiau rhyddiaith a/neu farddoniaeth, llawlyfr yn ymwneud â pharatoi ac arlwyo prydau a chyfarwyddiadur i'r hanesydd lleol (rhifau 24, 26, 28 a 29).

Arweinlyfr i deithwyr a thraethawd

Arweinlyfr i deithwyr ar gyfandir Ewrop a beirniadaeth, traethodau : 'Cyfraniad J. D. Jones (1827-1870) i Ganiadaeth y Cysegr' a beirrniadaeth (rhifau 31 a 33 yn y Rhestr Testunau), ynghyd â beirniadaeth ar 'Llawlyfr y garddwr amatur' a thraethawd : 'Cyfraniad Sir Feirionnydd i gelfyddyd Cerdd Dannau yn ystod hanner can mlynedd cyntaf y ganrif hon' (rhif 32 a 34a yn y Rhestr Testunau).

Rhyddiaith,

Casgliad o dair o straeon byrion; ysgrifau yn portreadu lle neu berson; cyfres o dair stori fer gydag oedran darllen 9-11 oed; straeon byrion (o dan 19 oed); llyfrau profiad a myfyrdod, wedi'u selio ar alwedigaeth; chwech o ysgrifau poblogaidd ar weithgareddau diddan amrywiol; casgliad byr o chwedlau o'r Gwledydd Celtaidd wedi'u haddasu ar gyfer plant 9-12 oed; dwy ysgrif : 'Taid' a 'Nain' a dwy bennod gyntaf ac amlinelliad byr o ddatblygiad nofel â chefndir cyfoes iddi.

Barddoniaeth,

Awdlau : 'Y petheu bychein' neu 'Allorau'; pryddestau : 'Llygaid'; englynion : 'Llaw'; englynion ffraeth : 'S4C'; hir a thoddeidiau : 'Carreg filltir'; sonedau : 'Soar-y-mynydd'; cerddi mewn tafodiaith; cylchoedd o gerddi yn y wers rydd ar thema 'difodiant'; telynegion i gystadleuwyr o dan 25 oed; casgliad o gerddi ysgafn gwreiddiol; trosiadau i farddoniaeth Gymraeg o waith bardd sy'n ysgrifennu yn un o ieithoedd Ewrop a blodeugerdd o gerddi gan awduron cyfoes i ieuenctid 15-19 oed.

Cystadlaethau amrywiol,

Cystadlaethau i ddysgwyr : gwaith ysgrifenedig creadigol : 'Heddwch' neu 'Hamdden'; cylchgrawn ar gyfer dysgwyr gan grŵp o ddysgwyr; cerddi : 'Y ffair/y môr/dysgwyr' a deialogau ar unrhyw thema gan ddechreuwyr. Deunydd ar gyfer dysgwyr : stori fer ar gyfer disgyblion 16+; pedair dramodig ysgafn ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd; cylchgrawn ar gyfer ieuenctid; cywaith i ddim mwy na thri pherson (rheoli diadell o ddefaid ar fferm deuluol yng Nghymru); erthygl addas ar gyfer Y Gwyddonydd ar unrhyw destun a dwy erthygl addas ar gyfer Cennad.

Cyfansoddiadau cerddorol,

Alawon cerdd dant; anthem S.A.T.B. addas ar gyfer Côr Pensiynwyr; rhangan ddigyfeiliant i eiriau gan fardd cyfoes; cylch o bedair cân i unrhyw lais gyda chyfeiliant piano neu gitâr; pedwar symudiad cyferbyniol ar gyfer recorders a llinynnau; emyn-donau a chyfansoddi alaw â geiriau cyfoes yn y dull gwerin.

Dysgwyr,

Cerdd: 'Dŵr' (cystadleuaeth y gadair); darn o ryddiaith: 'Sêr' (tlws rhyddiaith); dyddiadur: 'Y profiad o ddysgu Cymraeg y tu allan i Gymru'; adolygiad o lyfr neu raglen deledu; cerdyn post; paratoi cwis syml ar gyfer dysgwyr (cywaith grŵp); paratoi deunydd ar gyfer dysgwyr (agored i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg): ysgrifennu 4 stori neu erthygl; a chreu gweithgaredd iaith ar gyfer grŵp o bobl mewn noson gymdeithasol.

Cyfansoddiadau cerddorol,

Emyn-dôn i eiriau Rita Milton Jenkins; deuawd wreiddiol a fyddai'n addas i rai 12-16 oed gan fardd cyfoes; cyfansoddiad i achlysur arbennig ar gyfer band pres neu ensemble pres; trefniant o gân werin ar gyfer unrhyw gyfuniad o leisiau; cyfansoddiad gwreiddiol ar gyfer cyfuniad o un llais a dau offeryn mewn unrhyw ardd (Tlws y cerddor); a dau ddarn cyferbyniol i unrhyw gyfrwng.

Results 141 to 160 of 691