Dangos 691 canlyniad

Disgrifiad archifol
Eisteddfod Genedlaethol Cymru - cyfansoddiadau a beirniadaethau ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

Cyfansoddi dramâu,

Sgript drama fer ar gyfer disgyblion Ysgolion Uwchradd dan 15 oed a beirniadaeth; beirniadaeth tair drama fer ar gyfer disgyblion ail-iaith mewn Ysgolion Uwchradd; beirniadaeth ar wythnos o raglenni Cymraeg ar y teledu a beirniadaeth; rhaglen ddramatig neu ddrama ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd (rhifau 47-48, 50-52 yn y Rhestr Testunau).

Cyfansoddi,

Chwech o ganeuon unsain ar eiriau Cymraeg gwreiddiol ar gyfer plant ysgolion cynradd gyda chyfeiliant syml i'r piano, tri darn deulais addas i gôr plant ysgol uwchradd gyda chyfeiliant piano a threfniant o ddwy o alawon Cymreig traddodiadol, ynghyd ag un feirniadaeth arnynt (rhifau 19-21 yn y Rhestr Testunau).

Cyfansoddi,

Gosodiad o Salm 100 (SATB); gododiadau mewn idiom ysgafn fodern ar gyfer llais unigol o ran o 'Yr hen Gwm' gan Amanwy; gwaith siambr mewn un symudiad ar gyfer pedwarawd llinynnol; ymdeithgan i gerddorfa ysgol, ar gyfer diwrnod rhannu gwobrau; a chylchoedd o chwe chân unsain ar gyfer ysgolion cynradd.

Cyfansoddiadau cerddorol,

Darn corawl di-gyfeiliant seciwlar (Tlws y cerddor); emyn-dôn i eiriau Dorothy Jones; unawd i lais isel ar eiriau Cymraeg o ddewis y cyfansoddwr; trefniant o unrhyw gân werin Gymraeg neu gân ysgafn Gymraeg ar gyfer côr meibion TTBB gyda chyfeiliant piano; symudiad offerynnol yn seiliedig ar alaw neu alawon gwerin Cymreig i unrhyw gyfuniad o offerynau; a dau ddarn cyferbyniol mewn unrhyw gyfrwng (cystadleuaeth i ddisgyblion uwchradd a cholegau trydyddol 16-19 oed).

Cyfansoddiadau cerddorol,

Cyfansoddi alaw 12 bar o hyd (cerdd dant); papurau'n cyd-fynd â llunio tâp fideo o unrhyw gân gyfoes Gymraeg; emyn-donau i eiriau Tilsli; unawd i lais bâs; arwyddgan ar gyfer rhaglen deledu adloniant ysgafn; symudiad ar gyfer unrhyw offeryn; gwaith corawl S.A.T.B. (Salm 150); gwaith ar gyfer ysgolion cynradd; cân, tri lais, mewn unrhyw arddull; trefniant o ddwy alaw draddodiadol gwahanol eu natur ar gyfer gwahanol leisiau a chyfansoddi dwy ddawns gyferbyniol.

Cyfansoddiadau cerddorol,

Cyfansoddi cainc o naws anthem genedlaethol mewn arddull gyfoes; emyn-donau; unawdau ar gyfer contralto/bas a phiano; ensemble offerynnol ar gyfer rhwng 4 ac 8 o rannau; ensemble lleisiol ar gyfer grŵp rhwng 4 ac 6 o rannau; cyfansoddiad gwreiddiol ar gyfer côr gyda chyfeiliant; trefniant o ddwy gân werin wrthgyferbyniol ar gyfer côr amatur; trefniant o ddwy gân werin wrthgyferbyniol ar gyfer cerddorfa amatur a ffolio o waith amrywiol i fod rhwng 4 ac 8 munud wedi'i gyflwyno ar dâp ac/neu sgôr (cystadleuaeth i ieuenctid).

Canlyniadau 141 i 160 o 691