Dangos 691 canlyniad

Disgrifiad archifol
Eisteddfod Genedlaethol Cymru - cyfansoddiadau a beirniadaethau ffeil
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Rhyddiaith,

Stori fer: 'Sbectol'; ysgrif: 'Canrif'; portread o gynefin neu fro; erthygl olygyddol mewn papur bro; erthygl neu erthyglau papur bro; dyddiadur; rhyddiaith greadigol ar unrhyw ffurf: 'Coch'; a chyflwyniad cryno o hanes o leiaf chwe addoldy Cymreig y Dyffryn a'r Andes ar gyfer ymwelwyr (cystadleuaeth i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac yn dal i fyw yn yr Ariannin).

Rhyddiaith,

Dyddiaduron yn cofnodi treigl y tymhorau (y fedal ryddiaith); tair stori yn edrych ar un digwyddiad o dri safbwynt gwahanol; ysgrifau : 'Mynydd'; golwg ddychanol ar yr 20fed ganrif yn null un o weledigaethau Ellis Wynne; ysgrifau newyddiadurol; cyfrolau o storïau crefyddol ... i blant dan 6 oed; casgliad o eiriau a dywediadau tafodieithol o unrhyw ardal; stori fer hir; cystadleuaeth i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac sy'n dal i fyw yno : 'Dylanwadau' a llyfr erchwyn gwely.

Rhyddiaith,

Dwy stori fer wrthgyferbyniol i'w gilydd mewn crefft a/neu gynnwys; tair ysgrif fer gan yr un person : 'Gwanwyn'; pigion dyddiadur mis yn croniclo digwyddiadau doniol gŵr neu wraig wrth ei (g)waith; casgliad o straeon yn cyflwyno rhai o chwedlau Arthur ar gyfer plant 9 i 12 oed; portread o ardal neu bentref; nofel gyffrous neu arswyd i oedolion a chyfrol o hyd at ddeg o straeon doniol i blant cynradd.

Canlyniadau 581 i 600 o 691