Dangos 691 canlyniad

Disgrifiad archifol
Eisteddfod Genedlaethol Cymru - cyfansoddiadau a beirniadaethau ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

Rhyddiaith,

Straeon byrion (agored); casgliad o 10 stori fer ar ffurf llên meicro; erthygl ar naill ai: oblygiadau datblygiadau diweddar ym myd geneteg, neu: cynhesu byd eang; deuddeg llythyr rhwng dau/dwy yn ymateb i sefyllfa neu ddigwyddiad a chasgliad gwreiddiol o storïau neu sgyrsiau cyfoes i'w cyflwyno mewn gwasanaeth boreol ysgol uwchradd.

Rhyddiaith,

Cyfrol o ryddiaith gyda chysylltiad amaethyddol (y fedal ryddiaith).stori fer neu stori fer dafodieithol: hunanddewisiad; cyfrol o storïau gwreiddiol amser gwely i blant; erthygl hyd at 5,000 o eiriau: 'Mab Darogan'; dyddiadur wythnos newyddiadurwr/wraig; a chasgliad o ddywediadau ffraeth.

Rhyddiaith,

Stori fer: 'Gollwng'; casgliad o lên meicro: 'Gwastraff'; ysgrif ar unrhyw agwedd o fyd chwaraeon; dyddiadur dynes ddwâd; pennod gyntaf cofiant/bywgraffiad; erthygl grafog; gohebiaeth rhwng dau berson o ddwy genhedlaeth; cardiau nabod (set o 30) ym maes llenyddiaeth Gymraeg, yn null cardiau Top Trumps a Dr Who; a chasgliad o sloganau slic.

Rhyddiaith,

Dyddiaduron yn cofnodi treigl y tymhorau (y fedal ryddiaith); tair stori yn edrych ar un digwyddiad o dri safbwynt gwahanol; ysgrifau : 'Mynydd'; golwg ddychanol ar yr 20fed ganrif yn null un o weledigaethau Ellis Wynne; ysgrifau newyddiadurol; cyfrolau o storïau crefyddol ... i blant dan 6 oed; casgliad o eiriau a dywediadau tafodieithol o unrhyw ardal; stori fer hir; cystadleuaeth i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac sy'n dal i fyw yno : 'Dylanwadau' a llyfr erchwyn gwely.

Canlyniadau 581 i 600 o 691