Dangos 691 canlyniad

Disgrifiad archifol
Eisteddfod Genedlaethol Cymru - cyfansoddiadau a beirniadaethau ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

Rhyddiaith,

Straeon byrion yn ymwneud â byd y cyfryngau; pigion o ddyddiadur myfyriwr; cyfrol o storïau gwreiddiol yn ymwneud â byd chwaraeon, i blant 12-15 oed; cyfrol o storïau gwreiddiol ar gyfer darllenwyr ysgol uwchradd; llyfryn i'r carafaniwr dibrofiad; erthygl : 'Coron yr Eisteddfod Genedlaethol am ryddiaith?'; cystadleuaeth i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes : 'Fy ysgol i' a nofel i blant 11-13 oed;

Rhyddiaith,

Nofel fer (cystadleuaeth ar gyfer ysgrifenwyr sydd heb gyhoeddi nofel; cyfres o storïau byrion cyfoes (y fedal ryddiaith); straeon byrion : 'Ofn'; llyfryn am unrhyw ardal yng Nghymru i ddenu ymwelwyr; tair ysgrif bortread o unigolion o fro'r eisteddfod; deialogau rhwng gwleidydd a'i gydwybod; casgliad o storïau gwreiddiol addas ar gyfer dosbarthiadau adfer; cyfres o dair erthygl newyddiadurol yn ymwneud ag argyfwng/argyfyngau yng ngwledydd y trydydd byd; traethodau : Hen feddygyniaethau ym Mhatagonia (i rai sydd wedi eu geni yn y Wladfa ac sy'n dal i fyw yno); sgript i raglen nodwedd deledu hanner awr am fardd neu lenor o Gymraes; Iaith, arferion a thraddodiadau pysgota a nofel garu ar gyfer rhai yn eu harddegau (3 pennod).

Rhyddiaith,

Stori fer: 'Yfory'; casgliad o ddeg darn ar ffurf llên micro: 'Gafael'; ysgrrif yn ymwneud â byd natur; pennod gyntaf llyfr ar hanes unrhyw glwb neu gymdeithas; erthygl ar gyfer papur bro ar y thema: 'Dilyn afon' neu 'Taith trên'; portread (agored); stori ffantasi i bobol ifainc; erthygl: paratoi cinio i dri chymeriad hanesyddol neu lenyddol ...; erthygl am un o gewri chwaraeon Cymru a fyddai'n addas i'w chyhoeddi mewn cylchgrawn fel Barn neu Taliesin; cyfrol bwrdd coffi: 'Bro'; a a chystadleuaeth i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac yn dal i fyw yn Yr Ariannin: 'Fy mhlentyndod - hyd at 15 oed'.

Rhyddiaith,

Stori fer: 'Sbectol'; ysgrif: 'Canrif'; portread o gynefin neu fro; erthygl olygyddol mewn papur bro; erthygl neu erthyglau papur bro; dyddiadur; rhyddiaith greadigol ar unrhyw ffurf: 'Coch'; a chyflwyniad cryno o hanes o leiaf chwe addoldy Cymreig y Dyffryn a'r Andes ar gyfer ymwelwyr (cystadleuaeth i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac yn dal i fyw yn yr Ariannin).

Rhyddiaith,

Dwy stori fer wrthgyferbyniol i'w gilydd mewn crefft a/neu gynnwys; tair ysgrif fer gan yr un person : 'Gwanwyn'; pigion dyddiadur mis yn croniclo digwyddiadau doniol gŵr neu wraig wrth ei (g)waith; casgliad o straeon yn cyflwyno rhai o chwedlau Arthur ar gyfer plant 9 i 12 oed; portread o ardal neu bentref; nofel gyffrous neu arswyd i oedolion a chyfrol o hyd at ddeg o straeon doniol i blant cynradd.

Rhyddiaith,

Nofel heb ei chyhoeddi (Gwobr Goffa Daniel Owen); stori ddeng munud addas i'r radio ar y thema celwydd golau; erthyglau ar waith unrhyw fardd neu lenor o fro'r eisteddfod; portread o wleidydd; casgliad o straaeon yn ymwneud â chwarae triciau (cystadleuaeth i'r rhai sydd wedi cael eu geni yn y Wladfa ac yn dal i fyw yno); pigion o ddyddiadur mis person ifanc yng Nghymru Fu neu yng Nghymru Fydd; casgliad o hanesion unrhyw fro ar un thema a llawlyfr i ddarpar rieni neu lawlyfr priodas.

Rhyddiaith,

Straeon byrion wedi eu selio ar ddigwyddiad hanesyddol; ysgrif : portead o unrhyw berfformiwr o dras Cymreig; pedair sgwrs ar batrwm 'Munud i feddwl'; dyddiadur dychmygol dros wythnos yr eisteddfod; stori fer dafodieithol; nofel fer neu gyfrol o straeon sy'n addas ar gyfer bechgyn yn eu harddegau a chasgliad o groeseiriau.

Canlyniadau 561 i 580 o 691