Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 691 canlyniad

Disgrifiad archifol
Eisteddfod Genedlaethol Cymru - cyfansoddiadau a beirniadaethau ffeil
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Rhyddiaith,

Darn neu ddarnau o ryddiaith ar ffurf benodol (Ysgoloriaeth Emyr Feddyg); stori fer wedi ei lleoli dramor; casgliad o 10 stori ar ffurf llên meicro ar y thema 'Perthynas'; stori ffantasi i bobl ifanc; ysgrif bortread; un bennod o hunangofiant; a darn o ryddiaith yn dychanu unrhyw sefydliad Cymreig.

Rhyddiaith,

Darn neu ddarnau o ryddiaith ar ffurf benodol (Ysgoloriaeth Emyr Feddyg); dwy stori fer yn ymwneud ag un digwyddiad o safbwynt dau berson; casgliad o ddeg stori ar ffurf llên micro; ysgrif: 'Ysguboriau'; pennod gyntaf Cyfarwyddiadur hel achau; erthygl goffa i Gymro neu Gymraes a fu farw yn ystod yr unfed ganrif ar hugain; deuddeg o ddarnau byrion crafog; colofn o newyddion dychmygol ar gyfer papur bro; monolog ar thema: 'Unigrwydd'; llythyr doniol/dychanol gan ymgeisydd am swydd.

Rhyddiaith,

Stori fer: 'Creithiau'; ysgrif: 'Clymau'; portread; tair erthygl gyfoes yn null 'Dros fy sbectol'; casgliad o 10 stori ar ffurf llên meicro; cyfres o e-byst rhwng dau gyfandir; casgliad o 3 stori ddigri yn ymwneud â'r Eisteddfod; stori fer iasoer; cyfrol bwrdd coffi: 'Etifeddiaeth'; a stori fer neu ymson; 'Addewid neu addewidion' (ieuenctid dan 19 oed).

Rhyddiaith,

Cyfrol a anfonwyd i gystadleuaeth y fedal ryddiaith; straeon byrion yn ymwneud â chymeriad hanesyddol; sgript rhaglen nodwedd ar unrhyw bwnc cyfoes (radio); tâp ynghyd â sgript yn cyflwyno rhai o emynwyr Sir Gaerfyrddin; cywaith : 'Ein hardal ni'; ymdriniaeth Gymraeg o hoff lyfr a ysgrifennwyd ym mamiaith y dysgwr; adroddiad, gyda darluniau ar waith ymarferol mewn unrhyw faes o wyddoniaeth (ysgol uwchradd); erthyglau'n egluro unrhyw ddamcaniaeth bwysig a wnaed yn y ganrif hon a gemau bwrdd ar gyfer plant neu bobl ifanc.

Rhyddiaith,

Cyfrolau o ryddiaith greadigol ar y thema 'Caethiwed' neu 'Gorfoledd' (y fedal ryddiaith); straeon byrion; straeon byrion digri; casgliad o goelion unrhyw ardal; pum erthygl; casgliad o atgofion am Evan Roberts; dwy bennod o nofel i blant a dwy bennod o gyfieithiad o'r gwreiddiol.

Rhyddiaith,

Nofel fer (cystadleuaeth ar gyfer ysgrifenwyr sydd heb gyhoeddi nofel; cyfres o storïau byrion cyfoes (y fedal ryddiaith); straeon byrion : 'Ofn'; llyfryn am unrhyw ardal yng Nghymru i ddenu ymwelwyr; tair ysgrif bortread o unigolion o fro'r eisteddfod; deialogau rhwng gwleidydd a'i gydwybod; casgliad o storïau gwreiddiol addas ar gyfer dosbarthiadau adfer; cyfres o dair erthygl newyddiadurol yn ymwneud ag argyfwng/argyfyngau yng ngwledydd y trydydd byd; traethodau : Hen feddygyniaethau ym Mhatagonia (i rai sydd wedi eu geni yn y Wladfa ac sy'n dal i fyw yno); sgript i raglen nodwedd deledu hanner awr am fardd neu lenor o Gymraes; Iaith, arferion a thraddodiadau pysgota a nofel garu ar gyfer rhai yn eu harddegau (3 pennod).

Rhyddiaith,

Nofel heb ei chyhoeddi (Gwobr Goffa Daniel Owen); stori ddeng munud addas i'r radio ar y thema celwydd golau; erthyglau ar waith unrhyw fardd neu lenor o fro'r eisteddfod; portread o wleidydd; casgliad o straaeon yn ymwneud â chwarae triciau (cystadleuaeth i'r rhai sydd wedi cael eu geni yn y Wladfa ac yn dal i fyw yno); pigion o ddyddiadur mis person ifanc yng Nghymru Fu neu yng Nghymru Fydd; casgliad o hanesion unrhyw fro ar un thema a llawlyfr i ddarpar rieni neu lawlyfr priodas.

Rhyddiaith,

Straeon byrion wedi eu selio ar ddigwyddiad hanesyddol; ysgrif : portead o unrhyw berfformiwr o dras Cymreig; pedair sgwrs ar batrwm 'Munud i feddwl'; dyddiadur dychmygol dros wythnos yr eisteddfod; stori fer dafodieithol; nofel fer neu gyfrol o straeon sy'n addas ar gyfer bechgyn yn eu harddegau a chasgliad o groeseiriau.

Rhyddiaith,

Straeon byrion (agored); casgliad o 10 stori fer ar ffurf llên meicro; erthygl ar naill ai: oblygiadau datblygiadau diweddar ym myd geneteg, neu: cynhesu byd eang; deuddeg llythyr rhwng dau/dwy yn ymateb i sefyllfa neu ddigwyddiad a chasgliad gwreiddiol o storïau neu sgyrsiau cyfoes i'w cyflwyno mewn gwasanaeth boreol ysgol uwchradd.

Canlyniadau 161 i 180 o 691