Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 1729 canlyniad

Disgrifiad archifol
Eisteddfod Genedlaethol Cymru - cyfansoddiadau a beirniadaethau Ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

1 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

'Casgliad o Enwau Personol y Cymru, o'r Oesoedd boreuaf, gyda'u gwreiddiau a'u hystyron, ynghyd â nodiadau eglurhaol, etc.' gan 'Llywarch ...,

'Casgliad o Enwau Personol y Cymru, o'r Oesoedd boreuaf, gyda'u gwreiddiau a'u hystyron, ynghyd â nodiadau eglurhaol, etc.' gan 'Llywarch Hen' a 'William Salesbury and other Welshmen as Linguistics and Educators, with reference to the Present State of Education in Wales' gan 'Gomer'. Gofynnwyd am waith heb ei gyhoeddi yn cynnwys gwaith gwreiddiol yn ymwneud ag unrhyw gangen o lenyddiaeth Gymraeg. Ataliwyd y wobr.

'Casgliad o hen alawon at wasanaeth canu gyda'r tannau' gan 'Cynnyg Cyntaf' (Llynfi Hughes, Rhydaman) y dyfarnwyd y wobr iddo ...,

'Casgliad o hen alawon at wasanaeth canu gyda'r tannau' gan 'Cynnyg Cyntaf' (Llynfi Hughes, Rhydaman) y dyfarnwyd y wobr iddo [rhif 69 yn y Rhestr Testunau]. [Am chwech o englynion coffa 'Eifionydd' gan 'Cyfaill' (Mrs R. E. Jones, Caernarfon), cerdd goffa i 'Llew Tegid' gan 'Cysgod Cwmwl' (R. R. Thomas) a chywydd 'Y Berllan' gan 'Manawydan' (y Parch. W. Penllyn Jones) gweler Papurau'r Cymmrodorion yn LlGC].

'Casgliad o weithiau anghyhoedd unrhyw fardd Cymreig yng nghyfnod y Tuduriaid' - 'Bedo Aerddrem' gan 'Gutyn' a 'Iorwerth Fynglwyd' gan ...,

'Casgliad o weithiau anghyhoedd unrhyw fardd Cymreig yng nghyfnod y Tuduriaid' - 'Bedo Aerddrem' gan 'Gutyn' a 'Iorwerth Fynglwyd' gan 'Eilfryn' ynghyd â beirniadaeth Owen M. Edwards. Rhannwyd y wobr rhwng y Parch. B. R. Jones, Caerdydd, ac R. Stephens, Griffithstown [rhif 14 yn y Rhestr Testunau].

Casgliad o'r deuddeg emyn Cymraeg gorau wedi eu dewis gan yr ymgeisydd a'u cyfieithu a cheir detholiad 'Isaac Watts',

[Am waith 'Morgan Rhys' a 'Brython' gweler Papurau Syr Vincent Evans]. [Am fugeilgerdd 'Owen Puw' gan 'Alltud', beirniadaeth 'Dafydd Morganwg', 'Watcyn Wyn' ac un dienw ar y fyfyrdraeth a beirniadaeth Joseph Parry ar y gystadleuaeth 'Baritone Songs' gweler Papurau'r Cymmrodorion yn LlGC]. [Am fyfyrdraeth 'Y Disgybl Fardd ar Gader Idris' gan 'Adsain y Creigiau'; 130 o englynion i'r 'Cerflunydd'; trigain hir-a-thoddaid 'Beddargraff Cynfaen'; dychangerdd 'Cyfieithwyr Anfedrus Llysoedd Barn Cymru'; 'Rhangan i leisiau gwrywaidd' gan 'Ymdeithydd' (cydfuddugol); a thriawd lleisiol i denor a bas gan 'Thibaut' (gwobrwywyd) gweler Papurau Syr Vincent Evans yn LlGC].

Canlyniadau 181 i 200 o 1729