Showing 691 results

Archival description
Eisteddfod Genedlaethol Cymru - cyfansoddiadau a beirniadaethau file Welsh
Advanced search options
Print preview View:

Rhyddiaith,

Wyth i ddeg o ysgrifau creadigol (y fedal ryddiaith); rhifynnau Gŵyl Ddewi o bapur bro cyhoeddedig; straeon byrion; traethawd : 'Cefndir cymdeiethasol Deddf Cau'r Tafarnau ar y Sul'; deg o straeon safon darllen hawdd; dwy bennod o nofel i blant a chyfieithiadau.

Rhyddiaith,

Tair erthygl newyddiadurol; adolygiadau ar 4 o lyfrau a gyhoeddwyd rhwwng 1979 a 1982; atgofion am gyfnod dirwasgiad mewn unrhyw ardal amaethyddol; dwy ysgrif o atgofion am addysg a chrefydd yn y Wladfa (cystadleuaeth i rai sy'n byw yn yr Ariannin); dwy bennod o nofel antur fodern i bobl ieuainc; cyfieithiad o nofel benodol a nofelau antur/serch ar gyfer dysgwyr hŷn.

Rhyddiaith,

Dyddiaduron dychmygol yn ymwneud â bywyd mewn cymdeithas neilltuedig (y fedal ryddiaith); straeon byrion gyda diweithdra yn gefndir iddynt; stori fer hir; sgwrs rhwng Aelod Seneddol a'r diafol; ysgrifau : 'Clustiau'; adolygiad o Gyfansoddiadau 1983; portread o feddyg neu filfeddyg; adolygiad o gylchgrawn Cymraeg a chystadleuaeth i'r rhai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes - ysgrif : 'Fy mhlentyndod'.

Rhyddiaith,

Cyfrolau ar fywyd a gwaith unrhyw gerddor o Gymro neu Gymraes a fu farw ar ôl 1960, ynghyd â chystadlaethau Adran Gomisynu yr Eisteddfod gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru : nofelau ar gyfer darllenwyr 13-14; arweinlyfr i Gymru ar batrwm tebyg i'r Illustrated Guide to Britain a chasgliad o ddeuddeg o straeon ysbryd neu arswyd i blant 9-12 oed

Rhyddiaith,

Hanes un teulu neu unigolyn a ymfudodd o Gymru i Awstralia; Cystadleuaeth i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes - Atgofion am Eluned Morgan; sgript rhaglen radio hanner awr ar Gymro neu Gymraes diddorol; llyfrau i blant o dan 7 oed yn creu cymeriad newydd ac yn cynnwys lluniau gwreiddiol; nofel fer ffantasïol i blant a llawlyfr ar gyfer pobl ifainc ar ffotograffiaeth neu ar unrhyw offeryn cerdd.

Rhyddiaith,

Straeon byrion yn ymwneud â byd y cyfryngau; pigion o ddyddiadur myfyriwr; cyfrol o storïau gwreiddiol yn ymwneud â byd chwaraeon, i blant 12-15 oed; cyfrol o storïau gwreiddiol ar gyfer darllenwyr ysgol uwchradd; llyfryn i'r carafaniwr dibrofiad; erthygl : 'Coron yr Eisteddfod Genedlaethol am ryddiaith?'; cystadleuaeth i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes : 'Fy ysgol i' a nofel i blant 11-13 oed;

Rhyddiaith,

Straeon byrion : 'Perthyn'; ysgrifau : 'Hiwmor bro'; portread o gymwynasydd bro; sgwrs ddychmygol rhwng eisteddfodwr ddoe a heddiw; pigion o ddyddiadur mis : rhywun mewn cyfyng gyngor; casgliad yn cynnwys amrywiaeth o bytiau gwaelod tudalen ar batrwm deunydd llenwi-bwlch Reader's Digest a chasgliad o ddeg o straeon arswyd i ddarllenwyr tua 12-14 oed.

Rhyddiaith,

Straeon byrion : 'Gwewyr'; casgliad o chwe phortread; cyfres o dair stori ar gyfer yr arddegau; tair sgwrs ar dâp addas ar gyfer yr arddegau; stori wir : hanes llofruddiaeth neu achos llys a ddenodd sylw yn y cyfnod diweddar a llyfr crwydro ar y thema o ddilyn un o afonydd Cymru.

Rhyddiaith,

Nofelau heb eu cyhoeddi (Gwobr Goffa Daniel Owen); cystadleuaeth i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac yn dal i fyw yn Ariannin (atgofion personol bywyd a gwaith); casgliad o ryddiaith mewn unrhyw gyfrwng : 'Teulu dyn'; nofelau cyfoes byr a chasgliad o straeon am ysbrydion.

Rhyddiaith,

Stori fer: yn seiliedig ar unrhyw ddihareb; portreadau o dri chymeriad lleol ar gyfer papur bro; sgwrs rhwng dau ar 'Deg o'm cas bethau' yn null Room 101; erthygl hyd at 5000 o eiriau: datblygiad chwyldroadol mewn unrhyw faes o ddechrau'r ugeinfed ganrif ymlaen; ysgrif ar ymdeimlad o le; tywys-daith o amgylch tref neu ddinas; tair ymson gan dri unigolyn yn ymateb i'r un sefyllfa ddirdynnol; a llyfr o deithiau mewn ardal arbennig.

Results 141 to 160 of 691