Showing 164 results

Archival description
Archif Plaid Cymru, File
Advanced search options
Print preview View:

Elpast Ltd. ac HH Associates, 'argraffwyr' taflenni Plaid Llafur

Papurau yn ymwneud â datganiad ffug ar waelod rhai taflenni Plaid Llafur wedi'u hargraffu gan "Elpast Ltd. trading as HH Associates" yn Uned B1, Stad Ddiwydiannol Lôn Coedcae, Talbot Green. Roedd yr uned yn wag ers dros flwyddyn, a ddim e erioed wedi bod yn argraffwr. Mae'r papurau yn gynnwys gohebiaeth; datganiad statudol Tŷ'r Cwmnïau Encore Print Ltd, gan gynnwys newid o enw i HH Associates, Chw. 1996; cyfrifon Tŷ'r Cwmnïau HH Associates, Ion. 1997-Mawrth 1998; a thystysgrif Tŷ'r Cwmnïau ymgorffori Elpast fel cwmni cyfyngedig preifat, Medi 1998.

Taflenni, posteri a chylchlythyrau

Taflenni, posteri a chylchlythyrau'n ymwneud ag amryw etholiad ac ymgyrch. Hefyd, dalennau o sticeri Plaid Cymru, g.g. 'Stop the war = Dim rhyfel' a 'Senedd nawr!' / 'Parliament now!'.

Dewis darpar ymgeiswyr

Papurau yn ymdrin â dewis darpar ymgeiswyr ar gyfer etholiadau a'r arweinyddiaeth. Taflenni Janine Edwards, Dafydd Elis-Thomas, Jill Evans, Bethan Jenkins, Elin Jones, Mary Helen Jones, Gilliam Lansdown, Dr Dai Lloyd, Neil McEvoy, Marc Phillips, Simon Thomas, Carole Willis a Leanne Wood.

Amryw gyhoeddiadau

Copïau o 'Pecyn y Wasg=The Press Pack', 21 Rhagfyr 1995; 'Cymru rydd mewn Ewrop unedig=A democratic Wales in a united Europe' (Plaid Cymru, 1995); a Dafydd Wigley AS, 'Dewis teg i Gymru=A real choice for Wales ' (Plaid Cymru, cyfres goffa Herbert Thomas, rhif 2, 1996).

Amryw

Amryw, gan gynnwys nodyn yn ymwneud ag ymddeoliad J. E. Jones, 1962; cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Gwaith, Aberystwyth, 21 Medi 1963, a rheolau sefydlog yn ôl penderfyniadau'r Pwyllgor Gwaith; llythyrau oddi wrth Gwynfor Evans ac R. E. [Jones?], Aberystwyth, i Nans Jones, 1970; torion papur yn ymwneud â charreg coffa Waldo, 1978, a R. E. Jones, Llanrwst, 'Ail Lyfr o Idiomau Cymraeg', [1987].

Results 41 to 60 of 164