Showing 7333 results

Archival description
Archif Plaid Cymru, Welsh
Advanced search options
Print preview View:

Papurau amrywiol a deunydd printiedig gan gynnwys prydles ar ddarn o dir ym mhlwyf Llanidloes, 1963; copi o Celtic News ...,

Papurau amrywiol a deunydd printiedig gan gynnwys prydles ar ddarn o dir ym mhlwyf Llanidloes, 1963; copi o Celtic News, 1964; Llythyr Ceridwen, Gwanwyn 1968, wedi'i argraffu gan Bwyllgor y Merched, Undeb Cymru Fydd; llyfryn sy'n dwyn y teitl Tyranny Could Not Quell Them, sef hanes athrawon yn Norwy yn ystod yr Ail Ryfel Byd, c. 1960au, wedi'i argraffu gan Peace News, cylchgrawn heddwch wythnosol; rhifyn o'r Faner, Medi 1977, gan gynnwys erthyglau gan Gwynfor Evans ac eraill; The Welsh Economy in Figures 1981 gan Fanc Lloyds; a chopi o Welsh Agenda, cylchgrawn Sefydliad Materion Cymreig, Haf 1996.

Pamffledi Plaid Cymru, gan gynnwys Electricity Plan for Wales, 1944; Look You: a Miscellany concerning Wales, 1948; Pencader Poems, 1953 ...,

Pamffledi Plaid Cymru, gan gynnwys Electricity Plan for Wales, 1944; Look You: a Miscellany concerning Wales, 1948; Pencader Poems, 1953; Camre Cymru, 1952; Cyfle Olaf y Gymraeg gan Gwynfor Evans, 1962; Codi'r Faner gan D. J. Williams, 1968; a'r taflenni canlynol heb ddyddiad: Y Pleidiau Seisnig a'u Cynffonnau yng Nghymru; TV in Wales; The Labour Party and Welsh Home Rule gan Gwynfor Evans; The Battle of Wales; Must the Welsh Pits Close a Local Government and Wales gan Wynne Samuel; The Crisis of Wales gan Saunders Lewis; a The Party of Wales: Replies by Saunders Lewis and J. E. Daniel to Mr Gwilym Davies.

Papurau unigolion ac amrywiol

U 1-7: Papurau, c.1940au-90au, o eiddo Nans Jones, 7 Melrose Avenue, Pen-y-lan, Caerdydd, aelod teryngar o Blaid Cymru ac, am gyfnod maith, cyfrifydd a threfnydd Adran Merched y Blaid. Trosglwyddwyd nifer o luniau i Adran y Darlunau a'r Mapiau [199800411]. (Adnau C1998/15).

Llyfrau nodiadau

Deuddeg llyfr o nodiadau bras o gyfarfodydd gweinyddol mewnol a rhestri "i'w gwneud", tua Mawrth 2003-Gorffennaf 2007. Mae'r rhan fwyaf o'r nodiadau heb eu dyddio. Mae un llyfr gyda'r enw Dafydd Trystan; mae'r rhan fwyaf o'r llyfrau heb enwau.

Trefnau gwasanaethau o ddiolch

Desmond T. Boobier, 1968, David John Davies (DJ), 1914-2000, Huw Tudwal Davies, 1922-1989, Annie Dorothy Watkin Dolben (Donos), 1970, Glyn Evans, 1998, Gwynfor Evans, 1912-2005, Lilian Mary Evans, 1989, John Henry Griffiths, 1988, Margaret Myfanwy (Molly) Griffiths, 1994, Cyril Hodges, 1974, Enid Arwel Hughes, 1995, Joan Hughes, 1927-2000, Eirwen Humphreys, 1912-1991, Emrys Jarman, 1983, H. R. Jones, 1975, J. E. Jones, 1970 (tri chopi), John Thomas Jones, 1984-1975, William Andreas Jones, 1991, Aneirin Lewis, 1924-1989, Dewi M. Lewis, 1924-2003 (dau gopi), Saunders Lewis, 1893-1985, Meinir Lloyd Llywelyn, 1955-1997, William Alun Mathias, 2002, Gwenda Nadolig Morgan, 1989, Tegwen Clee Morris, 1965, William Delwyn Phillips, [d.d.], Chris Rees, 2001, Ioan Bowen Rees, 1929-1999, Elwyn Roberts, 1989, Freda Roberts, 1993, Hywel David Roberts, 1989, William Henry Roberts, 1889-1983, Alun Rowlands, 1997, Elwyn Richard Rowlands, 1914-1984, Wynne Islwyn Samuel, 1989, Dan Thomas, 1974, David J. W. Thomas, 2002, Dewi-Prys Thomas, 1916-1985, Mair Elvet Thomas, 1998, Millicent (Mil) Thomas, 1999, Rachel Thomas, 1905-1995, William Gweirydd Thomas, 1914-1996, Sara Minwel Tibbott, 1998, Eunice Mary Williams, 2000, a Phil Williams, 1939-2003.

Llythyrau i Nans Jones

Llythyr a chardiau post i Nans Jones, gan gynnwys oddi wrth Kate Roberts yn gofyn am gyfeiriad newydd Noëlle Davies, 1959; D. J. Williams ar farwolaeth ei wraig, 1965; Gwynfor Evans, 1967, a Cyril a Pegi, 1968, ar ei hymddeoliad; Cassie Davies yn trefnu cwrdd yng Nghapel Heol y Crwys yn y gwasanaeth i ddiolch am J. E., 1970; Gwenan Jones o Aberystwyth, 1970; Dilys o Fangor [Dilys Jones?], 1970; cerdyn Nadolig oddi wrth Eamon de Valera, 1971; Noëlle Davies o Co. Wicklow, 1972; Enid ar farwolaeth ei chwaer Pegi, 1976; cerdyn Nadolig oddi wrth Gwynfor Evans a Rhiannon, [d.d.]; Alun o Gaerfyrddin [D. Alun Lloyd?], [dim blwyddyn].

Amryw Nans Jones

Amryw bapur rhydd Plaid Cymru, gan gynnwys teipysgrif o ganlyniadau etholiadau, 1929-1955; cerdyn cinio ffarwel i Noëlle Davies, 1957; rhaglen cyngerdd Gŵyl Dewi Coleg Hyfforddi Caerdydd, 1961; memorandum gan Ray Smith, trefnydd De Cymru, i'r Pwyllgor Gwaith yn beirniadu trefniannau mewnol y Blaid, 1963; 'bras nodiadau' teipysgrif yn galw am fudiad newydd i ferched yng Nghymru, [1960au?]; cyfansoddiad Adran y Merched, mewn cynnig i Gynhadledd, [1970au?]; rhestr o gyhoeddiadau, c.1971; calendr y blaid genedlaethol 1980; cynigion dilys Cynhadledd 1987; a chyfrifon Plaid Cymru, 30 Mehefin 1993. Hefyd 'Remember Cwm Tryweryn', baled gan Meic Stephens mewn cefnogaeth Cronfa Emyr Llew, [c.1963]; caneuon etholiad Caerffili, 1968; englyn 'I Nans Jones ar ymddeol o'i swydd yn Swyddfa Plaid Cymru', gan Ithel Davies, [c.1967]; 'Gwynfor', cân gan Dafydd Iwan, [d.d.]; a rhaglen perfformiad Cwmni Theatr Gwynedd o 'Excelsior' gan Saunders Lewis, [1991].

Llofnodion a llawysgrifau

Casgliad o lofnodion bras casglwyd gan Nans Jones, 'yr wyf yn ceisio gwneud "traycloth" gydag enwau aelodau'r Blaid arno i'w rafflo yn yr Ysgol Haf', gan gynnwys Trefor Beasley, W. Ambrose Bebb, J. Kitchener Davies, Gwynfor Evans, Gwenan Jones, J. E. Jones, Nans Jones, Saunders Lewis, Kate Roberts, O. M. Roberts, Lewis Valentine a D. J. Williams, [pre-1952]. Hefyd saith darn o ryddiaith neu farddoniaeth mewn llawysgrif wedi'u llofnodi, sef 'Adnabod Duw' gan D. Tecwyn Evans, 'I Gymru hon' gan Gwenan Jones, 'Cân y Cwteri' gan Wil Ifan, 'Y llwybr arian' gan E. Tegla Davies, 'Afradlondeb' gan Davies Aberpennar, 'Y Graith (Pen. XVIII)' gan Elena Puw Morgan, a 'Ffair Wragedd' gan T. Hudson-Williams, [c.1954].

Results 1 to 20 of 7333