Dangos 164 canlyniad

Disgrifiad archifol
Archif Plaid Cymru, Ffeil Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

Elpast Ltd. ac HH Associates, 'argraffwyr' taflenni Plaid Llafur

Papurau yn ymwneud â datganiad ffug ar waelod rhai taflenni Plaid Llafur wedi'u hargraffu gan "Elpast Ltd. trading as HH Associates" yn Uned B1, Stad Ddiwydiannol Lôn Coedcae, Talbot Green. Roedd yr uned yn wag ers dros flwyddyn, a ddim e erioed wedi bod yn argraffwr. Mae'r papurau yn gynnwys gohebiaeth; datganiad statudol Tŷ'r Cwmnïau Encore Print Ltd, gan gynnwys newid o enw i HH Associates, Chw. 1996; cyfrifon Tŷ'r Cwmnïau HH Associates, Ion. 1997-Mawrth 1998; a thystysgrif Tŷ'r Cwmnïau ymgorffori Elpast fel cwmni cyfyngedig preifat, Medi 1998.

Dewis darpar ymgeiswyr

Papurau yn ymdrin â dewis darpar ymgeiswyr ar gyfer etholiadau a'r arweinyddiaeth. Taflenni Janine Edwards, Dafydd Elis-Thomas, Jill Evans, Bethan Jenkins, Elin Jones, Mary Helen Jones, Gilliam Lansdown, Dr Dai Lloyd, Neil McEvoy, Marc Phillips, Simon Thomas, Carole Willis a Leanne Wood.

Darllediadau gwleidyddol Plaid Cymru ar gyfer yr etholiadau Ewropeaidd 1989

Sgriptiau a phapurau Meleri Mair yn ymwneud â darllediadau gwleidyddol Plaid Cymru ar gyfer yr etholiadau Ewropeaidd 1989, gan gynnwys yr Ysgol Undydd ('Euroschool'), Caerfyrddin, 16 Ebrill 1988, a'r Ŵyl Glyndŵr ('Cymru yn Ewrop'), Machynlleth, 16-18 Medi 1988. Yn cynnwys pecyn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Merthyr Tudful, 26-30 Mai 1987.

Cymhorthion mewnol

Arweinlyfrau a thaflenni yn ymwneud â delio gyda'r cyfryngau, trefnu cangen, paratoi am etholiad, nodiadau i ganfaswyr, a chanllawiau hunaniaeth gorfforaethol.

Cyhoeddiadau cynadleddau

Cynigion i'r gynhadledd, 1978, penderfyniadau, 1984 (gyda nodiadau Dafydd Williams), 1987 a 1990, standing orders, [post 1984], rhaglenni cynadleddau 1977, 1994-1996, 2000-2001 a 2004, taflen Cynhadledd Wanwyn, 2002, a chynnigion a gwelliannau, 2003.

Cyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith

Cofnodion llawysgrif a theipysgrif o gyfarfodydd 12 Ionawr, 9 Mawrth, 13 Ebrill, 11 Mai, 13 Gorffennaf, 14 Medi, 12 Hydref a 9 Tachwedd, a phapurau cyfarfodydd 9 Tachwedd a 14 Rhagfyr.

Cyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith

Agenda, adroddiadau a phapurau perthnasol eraill yn ymwneud â nifer o gyfarfodydd Hydref a Thachwedd, gan gynnwys cofnodion llawysgrif.

Canlyniadau 41 i 60 o 164