Emyn-donau a phapurau eraill William Llewelyn Edwards
- NLW ex 2100
- File
- 1920-1996
Casgliad o lungopïau o emyn-donau W. Llewelyn Edwards (1908-2000); llyfrau nodiadau yn cynnwys nodiadau ar gyfer rhaglenni 'Caniadaeth y Cysegr' o dan ei arweiniad a gynhaliwyd yng Nghapel y Garn, 1958-1972, a chymanfaoedd canu eraill a gynhaliwyd yn lleol, 1965-1976; llyfr nodiadau ar achlysur Cymanfa Ganu a gynhaliwyd i ddathlu canmlwyddiant geni'r cerddor J. T. Rees, 1957; llyfr nodiadau yn cynnwys ei emyn-donau a ddefnyddiwyd yn 'Caniadaeth y Cysegr', 1992; torion o emyn-donau a ymddangosodd yn Trysorfa'r Plant, 1951-1959; nodiadau ar gerddoriaeth; ynghyd â thystysgrifau amrywiol, 1920-1996, am ei lwyddiant mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol ar gyfansoddi emyn-donau ac am lwyddo mewn arholiadau canu'r piano a sol-ffa yn bennaf; a phapurau'n ymwneud â chanlyniadau'r arholiadau sol-ffa gan gynnwys llythyr, 1956, yn ei hysbysu iddo gael ei benodi yn un o arholwyr Coleg y Tonic Sol-ffa.
Edwards, W. Llewelyn (William Llewelyn), 1908-2000