Llythyr oddi wrth John [Gwilym Jones], [Groeslon],
- 1297.
- File
- [1960, Nadolig].
Part of Papurau Kate Roberts
Cerdyn Nadolig yn dweud iddo fwynhau Y Lôn Wen yn fawr iawn. Dyna yw barn pawb arall amdano hefyd.
20 results with digital objects Show results with digital objects
Llythyr oddi wrth John [Gwilym Jones], [Groeslon],
Part of Papurau Kate Roberts
Cerdyn Nadolig yn dweud iddo fwynhau Y Lôn Wen yn fawr iawn. Dyna yw barn pawb arall amdano hefyd.
Llythyr oddi wrth Denbighshire Free Press, yn Ninbych,
Part of Papurau Kate Roberts
Derbynneb am chwe swllt. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth Kate Davies (at Mr Roberts), yn Ninbych,
Part of Papurau Kate Roberts
Ymddiheuro am fethu â dod i gyfarfod. Cynnwys syniadau Dr Gwilym Arthur Jones am fathodyn i Ysgol Gymraeg Dinbych ac awgrymu dewis enw i'r ysgol. Os yw'r arian yn caniatáu byddai'n ddymunol cael telyn yn ogystal. Mae Mrs Frances Môn Jones yn dysgu telyn yn Ysgol Howells a gallai alw yn yr Ysgol Gymraeg yn yr un modd. Byddai cael recordydd tâp i'r ysgol yn gaffaeliad hefyd. Byddai'r Pwyllgor Addysg yn talu am hwnnw pe cyfrennid 30% ato. Gofyn am gael gostwng y pegiau yn yr ystafell fawr. Cynlluniau bathodynnau.
Llythyr oddi wrth R. O. Hughes, yn Wallington, Surrey,
Part of Papurau Kate Roberts
Mae wedi mwynhau [Y Lôn Wen] er mai brodor o Nantlle ydyw. Mae'n anfon englyn i'r Lôn Wen at Kate Roberts.
Llythyr oddi wrth Gwilym R. [Jones], yn Ninbych,
Part of Papurau Kate Roberts
Canmol ei dyddiadur yn Y Faner. Chwarddodd a dotiodd at fanyldeb y disgrifio. Diolch am gyfoethogi tudalennau'r Faner gyda phethau mor wych.
Llythyr oddi wrth [D.] Gwenallt [Jones], ym Mhenparcau,
Part of Papurau Kate Roberts
Hoffai dderbyn stori fer KR ar gyfer rhifyn cyntaf [Taliesin]. Mae ganddo ormod o erthyglau a rhy ychydig o weithiau creadigol. Llongyfarch KR ar [Y Lôn Wen]. Cymharu'r hunangofiant gydag un D. J. [Williams] - "calon lac yw calon D. J., ac ychydig sydd ganddo o ymennydd neu ddeall. 'Rydych chwi yn llenor deallus; y mae gennych ddisgyblaeth haearnaidd arnoch chi eich hun". Ni fydd yng nghyfarfod yr Academi yn Nolgellau gan ei fod yn mynd ar daith awyr i Balestina gan alw yn Athen am ddiwrnod.
Llythyr oddi wrth William Hughes, yn Chwilog,
Part of Papurau Kate Roberts
Cafodd ef a'i wraig flas anghyffredin ar Y Lôn Wen. Dweud bod John W. Davies a grybwyllir gan KR ym mhennod VII 'Fy Nheulu', yn perthyn iddo a bod yr ohebiaeth a grybwyllir ganddi yn ei feddiant. Y mae ef wedi ymddeol o weithio ar y rheilffordd.
Llythyr oddi wrth D. W. Davies, yn Llanymddyfri,
Part of Papurau Kate Roberts
Gair o werthfawrogiad am Y Lôn Wen.
Llythyr oddi wrth Arthur Pugh, yn Nhaliesin,
Part of Papurau Kate Roberts
Bu'n darllen Y Lôn Wen tra'n sâl dros y Nadolig. Sôn am golli ei fam yn 86 oed, roedd ganddi hithau atgofion tebyg. Bu hefyd yn darllen Atgofion Cardi Dr Tom Richards.
Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], ym Mhenarth,
Part of Papurau Kate Roberts
Mae wedi dotio at Y Lôn Wen. Y mae'r paragraff ar dd. 122-3 yn un o'r darnau mawr a ysgrifennwyd ganddi.
Llythyr oddi wrth Lollie Des Landes, Lerpwl 23,
Part of Papurau Kate Roberts
Cafodd gyfle i ddarllen Y Lôn Wen tra'n aros yng Ngherrigydrudion a chafodd fwynhad mawr o'i ddarllen. Mae'n cofio cerdded draw i Gae'r-gors o'r Waunfawr tua'r Sulgwyn 1922 a chyfarfod â mam Kate Roberts.
Llythyr oddi wrth Dulyn Thomas, yng Ngheinewydd,
Part of Papurau Kate Roberts
Datgan ei bleser o ddarllen Y Lôn Wen. Mae ef yn frodor o Nebo ac yr oedd ganddynt hwy eu 'Lôn Las' hefyd. Sôn am lyfrau eraill gan KR a roddodd fwynhad iddo. Cafodd y fraint o fynd i ddosbarthiadau WEA R. Williams Parry a chael goleuni newydd ar storïau O Gors y Bryniau. Hoffai ei phenodi yn aelod cyntaf o Dy Arglwyddi Cymru - "Arglwyddes Cors y Bryniau".
Llythyr oddi wrth Eifion [ ], Ysgol Gymraeg Dinbych,
Part of Papurau Kate Roberts
Diolch am flodau a dderbyniwyd ar ddydd cyntaf y gwanwyn. Maent yn darllen Deian a Loli ar ffurf stori gyfres bob dydd Gwener. Dymuno'n dda iddi ar ei thaith i Malta. Ei chroesawu i'r ysgol unrhyw adeg.
Llythyr oddi wrth T. Glyn Davies, yn Rhuthun,
Part of Papurau Kate Roberts
Diolch am enwi tri pherson ar gyfer trefnu agoriad swyddogol Ysgol Gymraeg Dinbych.
Llythyr oddi wrth Jennie [Eirian Davies], ym Mrynaman,
Part of Papurau Kate Roberts
Diolch am groeso a dderbyniodd yr wythnos gynt. Gobeithio y caiff KR daith hwylus i Malta. Dau ddiwrnod y parodd y marmalêd, yr oedd yn ardderchog.
Mantolen dawns werin [a gynhaliwyd er budd Ysgol Gymraeg Dinbych],
Part of Papurau Kate Roberts
Mantolen dawns werin a gynhaliwyd er budd Ysgol Gymraeg Dinbych,
Part of Papurau Kate Roberts
Llythyr oddi wrth G. J. W[illiams], yng Ngwaelod-y-garth,
Part of Papurau Kate Roberts
Bu'n ceisio gorffen ei feirniadaeth ar yr awdl - pedair ar bymtheg ohonynt. Mae'n meddwl fod trafod cyfoeth geirfa'r hen bobl yn bwnc addas iawn ar gyfer cyfarfod y Cymmrodorion yn y Rhos.
Llythyr oddi wrth T. Glyn Davies, yn Rhuthun,
Part of Papurau Kate Roberts
Mae'n gyfleus ganddo drefnu pwyllgor ar gyfer 29 Mehefin. Awgryma 4 pm yn Ysgoldy Capel Mawr.
Llythyr oddi wrth Corporation Of Denbigh, yn Ninbych,
Part of Papurau Kate Roberts
Derbynneb am £4-9-6. Saesneg/English.