Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 4 Mehefin 1891 (Creation)
Lefel y disgrifiad
Ffeil
Maint a chyfrwng
i, 9 ff. ; 255 x 230 mm.
Hanner lledr, 'GYRFA DANIEL OWEN. YN EI LAWYSGRIF EI HUN' (aur ar y clawr blaen); cefnwyd y dalennau gan liain a'u rhoi ar gardiau cyn eu rhwymo.
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Roedd Daniel Owen (1836-1895) yn nofelydd a theiliwr. Ganed ef yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint, ar 20 Hydref 1836, yn fab ieuengaf i Robert Owen (bu f. 1837) a'i wraig Sarah (1796-1881). Prentisiwyd ef yn deiliwr ac yn y pen draw cychwynnodd fusnes ei hun yn yr Wyddgrug, er iddo dreulio peth amser yng Ngholeg y Bala gyda'r bwriad o ddod yn weinidog. Cafodd ei berswadio gan y Parch. Roger Edwards i gyhoeddi rhai o'i bregethau yn Y Drysorfa. Dilynwyd y rhain gan y nofelau Y Dreflan (Treffynnon, 1881) a Hunangofiant Rhys Lewis (Yr Wyddgrug, 1885), y ddau wedi eu cyhoeddi gyntaf yn fisol yn Y Drysorfa. Cyfreswyd ei ddwy nofel arall, Profedigaethau Enoc Huws (Wrecsam, 1891) a Gwen Tomos (Wrecsam, 1894), yn gyntaf yn Y Cymro (Lerpwl). Heblaw'r rhain cyfrannodd golofn o'r enw 'Nodion Ned Huws' i'r Cymro, 1892-1894, a chyhoeddodd Y Siswrn (Yr Wyddgrug, 1886), casgliad o ysgrifau a barddoniaeth, a Straeon y Pentan (Wrecsam, 1895), casgliad o storïau. Bu farw Daniel Owen yn yr Wyddgrug ar 22 Hydref 1895.
Hanes archifol
'T. Parry Llys Ifor Mold' a 'John Edwards 11 West Road Kingston Hill Surrey 11/12/39' (inc y tu mewn y clawr blaen); 'J. H. Jones, Llygad y Wawr, 12 Cedar Street, Birkenhead' a 'Myfi piau hwn, a gwae tragyfyth i'r neb a'i dyco' (inc ar f. i).
Ffynhonnell
Is-gyrnol John Edwards, DSO; Kingston Hill, Surrey; Rhodd; Ebrill 1947.
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Hunangofiant Daniel Owen ar ffurf llythyr, dyddiedig 4 Mehefin 1891, yn ei law ei hun, [at Isaac Foulkes (Llyfrbryf), golygydd Y Cymro]. Cyhoeddwyd yn Y Cymro, 11 Mehefin 1891, t. 2, a'i ailgyhoeddi yn Isaac Foulkes, Daniel Owen y Nofelydd (Lerpwl, 1903), tt. 1-8. = A holograph autobiographical account by Daniel Owen in the form of a letter, dated 4 June 1891, [sent to Isaac Foulkes (Llyfrbryf), editor of Y Cymro]. It was published in Y Cymro, 11 June 1891, p. 2, and reprinted in Isaac Foulkes, Daniel Owen y Nofelydd (Liverpool, 1903), pp. 1-8.
Ceir ambell i frawddeg ychwanegol yn y llawysgrif na gyhoeddwyd yn Y Cymro (ff. 4-5, 9). Ysgrifennwyd y llythyr ar gefn dalennau o Gofrestr Etholwyr, 1879, ar gyfer Llanelwy a Rhyl. = The manuscript contains a few sentences which were not published in Y Cymro (ff. 4-5, 9). The letter is written on the reverse of leaves from an 1879 Register of Electors for St Asaph and Rhyl.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
System o drefniant
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg.
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Teitl yn seiliedig ar y cynnwys.
Nodiadau
Preferred citation: NLW MS 16501C.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
- Llyfrbryf, 1836-1904. (Pwnc)
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Medi 2006 a Chwefror 2015.
Iaith(ieithoedd)
- Saesneg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd y disgrifiad gan Bethan Ifans, a'i adolygu gan Rhys Morgan Jones;