Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- [1770]-2001 (Creation)
Lefel y disgrifiad
Ffeil
Maint a chyfrwng
1 ffeil.
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Yr oedd Gwilym Richard Jones yn fardd a newyddiadurwr. Fe’i ganed yn Nhal-y-sarn, Sir Gaernarfon, ar 24 Mawrth 1903. Bu’n gweithio fel gohebydd ac yn 1945 fe’i penodwyd yn olygydd ar Y Faner gan aros yn y swydd nes iddo ymddeol yn 1977. Cyhoeddodd bum cyfrol o gerddi. Ef oedd y cyntaf i ennill y gadair, y goron a’r fedal ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu farw ar 29 Gorffennaf 1993.
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Yr oedd David James Jones ('Gwenallt',1899-1968) yn fardd ac ysgolhaig. Ganwyd ef yn Alltwen, Pontardawe, Morgannwg, ar 18 Mai 1899. Addysgwyd ef ym Mhontardawe ac Ysgol y Sir Ystalyfera. Treuliodd y cyfnod Mehefin 1917 hyd Mai 1919 yng ngharchar fel gwrthwynebydd cydwybodol. Ar ôl cael ei ryddhau, aeth i astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, gan raddio mewn Cymraeg a Saesneg. Yma cyfarfu ag Idwal Jones (1895-1937), y dramodydd a diddanwr. Bu'n athro Cymraeg yn y Bari cyn dychwelyd i Aberystwyth yn 1927 yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, gan dod yn ddarlithydd hŷn ac yna'n ddarllenydd. Enillodd radd M.A. yn 1929. Ymysg ei diddordebau ymchwil yr oedd bywyd y saint, ysgol farddol diwedd yr oesoedd canol, a barddoniaeth y ddeunawfed ganrif, ond ei brif waith oedd ar hanes llenyddiaeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ymysg ei weithiau ysgolheigaidd mae Yr Areithiau Pros (Caerdydd,1934), Blodeugerdd o'r Ddeunawfed Ganrif (Caerdydd, 1936, Y Ficer Pritchard a 'Cannwyll y Cymry' (Caernarfon, Cwmni'r Llan,1946) a chofiant Idwal Jones (Aberystwyth, 1958). Ymddeolodd yn 1966. Fel bardd cafodd gryn lwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn ennill y Gadair yn 1926 ar 'Y Mynach' ac yn 1931 ar 'Breuddwyd y Bardd'. Cyhoeddodd sawl gyfrol o farddoniaeth: Ysgubau'r Awen (Llandysul: Gomer, 1939), Cnoi Cil (Aberystwyth, 1942), Eples (Llandysul: Gomer, 1951), Gwreiddiau (Aberystwyth, 1959) a Coed (Llandysul: Gomer, 1969).
Hanes archifol
Ffynhonnell
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Llythyrau a dogfennau awduron gyda’r cyfenw ‘Jones’, gan gynnwys Cain Jones (1738?-1795), almanaciwr, Gwilym R. Jones (1903-1993), golygydd a Prifardd a Phrif-lenor, a David James Jones ‘Gwenallt’ (1899-1968), bardd.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
System o drefniant
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Amodau rheoli atgynhyrchu
Iaith y deunydd
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
This description follows NLW guidelines based on ISAD(G) Second Edition; AACR2; and LCSH.