Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1887-2019 (gyda bylchau) (Creation)
Lefel y disgrifiad
Fonds
Maint a chyfrwng
2.81 metrau ciwbig (401 bocs, 7 cyfrol, 1 ffolder)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes gweinyddol
Cyfeirir at yr Eisteddfod Genedlaethol fel ‘prif ŵyl ddiwylliannol y Cymry’ yn y Cydymaith i lenyddiaeth Cymru. Sefydlwyd Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1880 ac yn 1890 sefydlwyd Rheolau’r Gymdeithas. Cytunodd Cyngor Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1922 i roi cartref i’r cyfansoddiadau a beirniadaethau a gynigiwyd gan Gymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn 1937 ffurfiwyd Cyngor yr Eisteddfod drwy uno Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol a Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Yn 1952 disodlwyd y Gymdeithas gan Lys yr Eisteddfod Genedlaethol. Llwyddwyd i gynnal eisteddfod bob blwyddyn ac eithrio 1914 a 1940 (Eisteddfod Radio). Cyflwynwyd cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn 1937, Tlws y Ddrama yn 1961 (daeth i ben yn 1993), Gwobr Goffa Daniel Owen yn 1978 a Thlws y Cerddor yn 1990. Bellach mae’r Orsedd hefyd yn rhan o seremoni’r Fedal Ryddiaith.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol ac yna Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol; Adnau; ar sawl achlysur rhwng 1922 a 1950
Ysgrifenyddion a threfnyddion Eisteddfod Genedlaethol Cymru; Adnau; 1951-2019
Mr Stephen Graham, Llyfrgellydd ymchwil, Llyfrgell Aberdâr; Rhodd; Chwefror 2014
Dafydd Meurig; Bethesda, Gwynedd; Rhodd; Ebrill 2018; $$e 99332868702419
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Cyfansoddiadau amrywiol a gyflwynwyd i gystadlaethau llenyddol a cherddorol Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 1887-2019. Yn eu plith ceir awdlau, pryddestau, cywyddau, englynion, englynion ysgafn, baledi, sonedau, straeon byrion, blogiau, llên meicro a dramâu. Ceir gweithiau ar gyfer y Fedal Ryddiaith, Gwobr Daniel Owen, Ysgoloriaethau Emyr Feddyg a Geraint Morris, ynghyd ag emyn-donau a chyfansoddiadau Tlws y Cerddor a chyfansoddi dawns. Cyflwynwyd cystadlaethau i ieuenctid a chystadleuaeth y gadair a thlws rhyddiaith i ddysgwyr ac i'r rhai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes. = A variety of literary and musical compositions entered at National Eisteddfodau, 1887-2018, including odes and poetry in free metre, ballads, short stories, blogs, micro literature and plays. Entries for the Prose Medal, Daniel Owen Memorial Prize, Emyr Feddyg and Geraint Morris Scholarships, together with musical compositions such as the Musicians' Medal, hymn-tunes and dance composition are also included. Competitions for young people, Welsh learners including a chair and prose competition and a competition for those who have lived in Patagonia throughout their lives have been introduced.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Action: Cadwyd yr holl gyfansoddiadau cyn 1951 ond chwynnwyd dyblygion, 1951-2012. Cafwyd caniatâd i waredu'r copïau dyblyg mewn llythyr gan Drefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol, Chwefror 2013. Mae awdurdod i ddinistrio'r papurau hyn yn Ffurflen Werthuso Adrannol AFE/2013/..
Croniadau
Disgwylir ychwanegiadau.
System o drefniant
Trefnwyd yn bedwar grŵp yn y Llyfrgell: Eisteddfodau Cenedlaethol, 1887-1950; Cyfansoddiadau a beirniadaethau amrywiol, [1887x1950]; Eisteddfodau Cenedlaethol, 1951-1979 (gyda bylchau); Eisteddfodau Cenedlaethol, 1980-2000; ac Eisteddfodau Cenedlaethol, 2001-2019. O fewn y grwpiau, trefnwyd yn nhrefn amser yn ôl dyddiad yr eisteddfod. Defnyddiwyd Rhestri Testunau printiedig yr Eisteddfod Genedlaethol fel sail i'r trefniant.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Warchod Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2018 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
- Cymraeg
- Saesneg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg, Saesneg.
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ceir copi caled o gatalog Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, 1886-1950, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau ANW a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Mawrth 2015.
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd gan Ann Francis Evans. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol i lunio'r disgrifaid : LlGC, Eisteddfod Genedlaethol Cymru - cyfansoddiadau a beirniadaethau; Gildas Tibbott, 'National Eisteddfod Manuscripts'; Cylchgrawn Llyfrgell Gendlaethol Cymru, Gaeaf 1941; Cydymaith i lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1997); William H. Howells, Mynegai Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1900-1990 (1992); a gwefan 'Canrif o Brifwyl' (BBC Cymru).