Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- [1905x2018] (Creation)
Lefel y disgrifiad
Ffeil
Maint a chyfrwng
1 ffolder
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes archifol
Ffynhonnell
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Deunydd amrywiol yn bennaf o natur wleidyddol, lenyddol, grefyddol neu gymdeithasol, yn eu plith:
Llungopi o ffotograff o Glunderwen, Sir Benfro, tua throad neu ym mlynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif.
Pamffledyn gan Harold Bing yn dwyn y teitl 'Pacifists over the world'.
Taflen yng ngeiriau George Bernard Shaw yn dwyn y teitl 'Sacrifice - for what?'
Cerdyn cydnabod Mrs Eluned Tilsley, gweddw'r bardd y Parchedig Gwilym Richard Tilsley ('Tilsli').
Rhifyn cyntaf (Nadolig 1946) ac ail rifyn (Calanmai 1947) o gylchgrawn Y Fflam.
Cerdyn yn dangos cofeb y bardd a'r llenor D. J. Williams ar y Lôn Las, Abergwaun.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
System o drefniant
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Amodau rheoli atgynhyrchu
Iaith y deunydd
- Cymraeg
- Saesneg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cyflwr ac anghenion technegol
Rhaglen Eisteddfod yr Hen Ganiadau: Rhwyg sylweddol ar dudalen ôl y rhaglen, yn ymron hollti'r ddalen yn ddwy. Diogelwyd mewn amlen.
Cyfrol yn dwyn y teitl Merrie England: Cloriau yn eisiau.
Cyfrol yn dwyn y teitl Gweithiau Flavius Josephus: Nifer o'r tudalennau'n rhydd, gan gynnwys y clawr blaen; clawr ôl yn eisiau. Diogelwyd mewn amlen.
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, 'roedd yr heddychwr Harold Frederick Bing yn aelod o'r Frawdoliaeth yn erbyn Gorfodaeth Filwrol (y No-Conscription Fellowship). Gwrthodwyd ei apêl yn y tribiwnlys, ond fe wrthododd Bing yntau gyflawni ei ddyletswyddau milwrol ac fe'i carcharwyd am dair blynedd. Wedi ei ryddhau, bu'n gweithio fel athro. 'Roedd yn ymgyrchydd selog dros heddwch ac yn aelod o Undeb y Llw o Blaid Heddwch (y Peace Pledge Union - gweler Abergwaun Group of the Peace Pledge Union dan bennawd Dilys Williams - Deunydd amrywiol gan neu ym meddiant Dilys Wiliams).
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cyhoeddodd y dramodydd, adolygydd a'r dadleuydd Gwyddelig George Bernard Shaw ddeunydd ar ran Gymdeithas y Ffabiaid (y Fabian Society), cymdeithas a ymgyrchai dros hyrwyddo sosialaeth ddemocrataidd trwy ymdrech raddoledig ddiwygiadol yn hytrach na thrwy gyfrwng gwrthryfel.
Cylchgrawn llenyddol yn dwyn safbwynt cenedlaetholgar radicalaidd cryf oedd Y Fflam, a gyhoeddwyd rhwng 1946 a 1952 dan olygyddiaeth y bardd a'r gweinidog Euros Bowen, y llenor a'r gweinidog Pennar Davies a'r bardd a'r darlithydd J. Gwyn Griffiths. Ymhlith y cyfrannwyr i'r rhifyn cyntaf ceir D J. Williams, R. S. Thomas, Rhydwen Williams a Saunders Lewis.
Bu'r bardd a'r emynydd Gwilym Richard Tilsley ('Tilsli') yn gwasanaethu fel gweinidog Methodistaidd mewn amryw fannau yng Nghymru. Ennillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerffili ym 1950 ac yn Llangefni ym 1957. Gwasanaethodd fel Archdderwydd Cymru o 1969 hyd 1972. Priododd Anne Eluned Jones ym 1945 a ganed mab iddynt, Gareth Maldwyn Tilsley, ym 1946.
Ganed y bardd a'r llenor David John Williams (1885-1970) yn Llansawel, Sir Gaerfyrddin, cyn symud i Rydcymerau ym 1891. Astudiodd Saesneg ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth a Choleg yr Iesu, Rhydychen a threulio'r rhan helaeth o'i oes fel athro Saesneg yn ysgol ramadeg Abergwaun. Yn genedlaetholwr ac yn sosialydd, 'roedd yn un o sefydlwyr Plaid Cymru. Ym 1936, ynghyd â'r bardd, llenor a hanesydd Saunders Lewis (1893-1985) a'r gwleidydd a'r awdur y Parchedig Lewis Valentine (1893-1986), cynllwyniodd i losgi'r ysgol fomio ym Mhenyberth, Pen Llŷn, am ba weithred y'i carcharwyd am naw mis yng ngharchar Wormwood Scrubs.