Identity area
Type of entity
Authorized form of name
Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru.
Parallel form(s) of name
Standardized form(s) of name according to other rules
Other form(s) of name
Identifiers for corporate bodies
Description area
Dates of existence
History
Cyhoeddwyd yr Atlas Cymraeg ym 1987 o dan nawdd Cynllun Gwerslyfrau ac Adnoddau Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru, yn addasiad Cymraeg o Philips' Certificate Atlas for Secondary Schools (1979). Bwriad y prosiect oedd i gynhyrchu atlas safonol a chynhwysfawr yn y Gymraeg, ac hefyd i gynrychioli enwau lleoedd tramor yn eu priod ieithoedd lle nad oedd ffurf Gymraeg i gael, yn ymwybodol o ddylanwad grymus yr iaith Saesneg. Dechreuwyd y gwaith ym 1979, pan sefydlwyd Panel Atlas i oruchwylio'r prosiect, gydag Is-Banel a Gweithgor i wneud y gwaith manwl. Rhannwyd y gwaith fesul tudalen fel arfer, a gwnaethpwyd nifer fawr o ddrafftiau o'r testun wrth i'r testun gael ei olygu gyda chrib mân. Cadeirydd y Panel a Golygydd yr Atlas oedd Dafydd Orwig, a chwmni George Philip a'i Fab, Llundain, oedd yr argraffwyr.