Identity area
Reference code
Title
Date(s)
- [1990x2018] (Creation)
Level of description
File
Extent and medium
1 amlen
Context area
Name of creator
Archival history
Immediate source of acquisition or transfer
Content and structure area
Scope and content
Llungopïau a chopïau gwreiddiol o goeden deuluol Angharad Williams (née Jones), yn olrhain manylion teulu ei mam, Margaret Jones, oddi ar Elias Jones, Cwm, Llangernyw. Mae rhai o'r dalennau yn llaw David Williams, nai Waldo Williams a gor-nai Angharad.
Coeden deulu Syr Henry Jones, brawd John Jones, tad Angharad Williams (née Jones), a luniwyd - yn ôl nodyn [yn llaw David Williams, nai Waldo a gor-nai Angharad] ar ymyl y ddalen gefn - gan Jean Ware (bellach Hunt, ganed Jones) (a oedd, yn ôl tystiolaeth y goeden deulu, yn wyres i Syr Henry Jones); ynghyd â gwybodaeth bellach ynghylch ŵyrion, gor-ŵyrion a gor-gor-ŵyrion Syr Henry Jones yn llaw Jean Ware.
Llungopi o fanylion achyddol a arysgrifwyd ym meibl teuluol John a Margaret Jones, rhieni Angharad. Nodir genedigaethau plant ac ŵyrion John a Margaret Jones (gan gynnwys Angharad), ynghyd â'r wybodaeth mai anrheg briodas oddi wrth aelodau 'Temlwyr Da Brynaman' oedd y beibl. Yr oedd John Jones yn brifathro Ysgol Elfennol Brynaman ar y pryd.
Achau teuluol Angharad, yn deillio oddi wrth ei thaid a'i nain, Elias ac Elizabeth Jones, Cwm, Llangernyw; ynghyd â manylion achyddol yn llaw David ('Dai') Williams, nai Waldo Williams a gor-nai Angharad.
Allbrintiadau o fanylion a gymerwyd o gyfrifiadau 1861 a 1881 oddi ar wefan Ancestry.com yn dangos manylion am John Jones, tad Angharad, pan yn blentyn yn byw yn Cwm, Llangernyw, cartref ei rieni, ac yna ym mhlwyf Hanley Castle, Swydd Gaerwrangon, lle 'roedd yn gweithio fel garddwr a lle ganwyd ei ail fab, Azariah Henry Jones, brawd Angharad; hefyd, manylion am Angharad pan yn blentyn yn byw ym mhlwyf Hanley Castle, Swydd Gaerwrangon.
Allbrintiadau o gyfrifiadau 1861 a 1871 yn dangos manylion teulu Elias ac Elizabeth Jones, Cwm, Llangernyw, taid a nain Angharad ar ochr ei thad, a llungopi o gyfrifiad 1881 yn dangos manylion teulu John a Margaret Jones, rhieni Angharad, pan yn byw yn mhlwyf Hanley Castle, Swydd Gaerwrangon, lle ganed Azariah Henry Jones, brawd Angharad. Testun yn aneglur.
Appraisal, destruction and scheduling
Accruals
System of arrangement
Conditions of access and use area
Conditions governing access
Conditions governing reproduction
Language of material
- Welsh
- English
Script of material
Language and script notes
Physical characteristics and technical requirements
Finding aids
Allied materials area
Existence and location of originals
Existence and location of copies
Related units of description
Notes area
Note
Ganed John Jones, tad Angharad Williams (née Jones), yn Llangernyw, bellach yng Nghonwy, yn arddwr wrth ei alwedigaeth, er bu am gyfnod yn cadw Ysgol Elfennol Brynaman ynghyd â'i frawd, yr athronydd Henry (yn ddiweddarach Syr Henry) Jones. Ym 1874, priododd Margaret Price o Rydaman ac yn fuan wedyn ymgartrefodd y ddau yn Styche Hall, Market Drayton, Swydd Amwythig, lle ganed Angharad. 'Roedd John Jones yn Ryddfrydwr o ran daliadau gwleidyddol, yn sosialydd, ac yn meddu ar natur annibynnol, gwreiddioldeb meddwl a hiwmor ffraeth (gweler Alan Llwyd: Waldo: Cofiant Waldo Williams: 1904-1971 (Y Lolfa, 2014), tud. 39-40).
Ganed Margaret Jones (née Price), mam Angharad Williams (née Jones), yn Rhydaman, Sir Gaerfyrddin. Priododd John Jones ym 1874 ac yn fuan wedyn ymgartrefodd y ddau yn Styche Hall, Market Drayton, Swydd Amwythig, lle ganed Angharad. 'Roedd Margaret Jones yn wraig grefyddol a difrifol, ond heb fod yn sychdduwiol (gweler Alan Llwyd: Waldo: Cofiant Waldo Williams: 1904-1971 (Y Lolfa, 2014), tud. 40), a gweithiai'n ymarferol ar ran y tlawd a'r anghenus o fewn ei chymuned.
Alternative identifier(s)
Access points
Subject access points
Place access points
Name access points
- Williams, Angharad, née Jones, 1875-1932 -- Family (Subject)
- Williams, David, nephew of Waldo Williams (Subject)
- Jones, John, 1850-1912 (Subject)
- Jones, Margaret, née Price (Subject)