fonds GB 0210 TABPOR - CMA: Cofysgrifau Eglwys y Tabernacl, Porthmadog

Identity area

Reference code

GB 0210 TABPOR

Title

CMA: Cofysgrifau Eglwys y Tabernacl, Porthmadog

Date(s)

  • 1860-1985 (Creation)

Level of description

fonds

Extent and medium

0.056 metrau ciwbig (10 cyfrol, 3 bwndel, 2 ffolder); 1 bocs bychan (Mawrth 2009)

Context area

Name of creator

Administrative history

Erbyn 1859 yr oedd galw am gapel mwy o faint na'r Garth oherwydd y twf mewn poblogaeth a masnach ym Mhorthmadog. Ystyriwyd ehangu'r Garth ond penderfynwyd yn hytrach i godi capel newydd mewn rhan arall o'r dref. Yn Ionawr 1860 prynwyd darn o dir o Ystad Tremadog am brydles o 99 mlynedd ac agorwyd Capel y Tabernacl yn Ionawr 1862. Dewisodd 140 o aelodau'r Garth i symud i'r addoldy newydd. Nid oedd galeri i'r capel i ddechrau ond codwyd un yn 1866 a newidiwyd safle'r pulpud ac adrefnwyd yr eisteddleoedd. Yn 1881 codwyd ysgoldy y tu cefn i'r capel i ddal 300. Roedd yna lyfrgell eang er mwyn rhoi cyfle i'r werin bobl ehangu eu gorwelion. Yn 1889 codwyd Tŷ Capel. Newidiwyd tu blaen y capel yn 1924 a chafwyd organ newydd.

Dymchwelwyd Capel y Tabernacl, Porthmadog, yn 2000 a chodwyd capel newydd ar y safle, ond cadwyd yr ysgoldy a'r festrïoedd. Ym mis Mehefin 2001 agorwyd Eglwys y Porth. Roedd y capel yn rhan o Ddosbarth Tremadog yn Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd.

Archival history

Immediate source of acquisition or transfer

Adneuwyd gan Mr John Rees Jones, Porthmadog, Mai 2002, a chan Mr Gareth Edwards, Porthmadog, Mawrth 2009.; 0200207596

Content and structure area

Scope and content

Mae'r fonds yn cynnwys cofnodion ariannol, cofnodion gweithgareddau diwylliannol a chofnodion gweinyddol Capel y Tabernacl, Porthmadog. Ceir llyfr cyfrifon, 1860-1917, llyfrau casgliad y Weinidogaeth, 1927-1937, llyfrau derbyniadau a thaliadau, 1968-1985, rhaglenni ac anerchiadau Cymdeithas Lenyddol y Tabernacl, 1884-[1923], llyfrau cofnodion cyfarfodydd y blaenoriaid, 1891-1935, llyfr cofnodion Pwyllgor y Chwiorydd a hanes yr Eglwys, 1862-1891, yn eu plith.

Cofysgrifau ychwanegol yn perthyn i'r capel, yn cynnwys llyfr casgliadau, 1955-1967; dwy gyfrol yr Ysgrifennydd, 1964-1971 a 1972-1981; a tudalen yn nodi cynnwys llyfrgell y capel, 1946-1968 a 1975.

Appraisal, destruction and scheduling

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a adneuwyd i'r Llyfrgell..

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

System of arrangement

Trefnwyd y cyfan o'r archif yn LLGC yn dair cyfres: cofnodion ariannol, papurau gweithgareddau diwylliannol a chofnodion gweinyddol; ac yn un ffeil: Hanes Eglwys y Tabernacl.

Conditions of access and use area

Conditions governing access

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Conditions governing reproduction

Amodau hawlfraint arferol.

Language of material

  • Welsh

Script of material

Language and script notes

Cymraeg

Physical characteristics and technical requirements

Finding aids

Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LlGC 2001-

Allied materials area

Existence and location of originals

Existence and location of copies

Related units of description

Ceir cofrestri bedydd y capel, 1879-1925, yn LlGC, CMA EZ1/238/1-2; cedwir ffotograffau o dripiau Ysgol Sul yn LlGC, Casgliadau Arbennig. Yn CMA E134/1 ceir llyfr cofnodion, 1877-1881, cyfarfodydd athrawon yr Ysgol Sul a chofnodion erail yr Ysgol Sul yn CMA EZ1/238/98-112. Yn CMA EZ1/165/1 ceir catalog o gynnwys llyfrgell y capel ac yn CMA EZ1/165/4 ceir papurau, 1922-1923, yn ymwneud ag atgyweirio'r Mans a'r Tŷ Capel. Mae adroddiadau blynyddol y Capel, 1894-1986 (gyda bylchau) ar gael yn LlGC ac ar gyfer 1965, 1982-1983 yn CMA EZ2. Ceir gweithredoedd, 1860, yn Adran y Llawysgrifau, Llyfrgell Prifysgol Cymru Bangor. Gweler hefyd disgrifiadau lefel ffeil.

Related descriptions

Notes area

Alternative identifier(s)

Virtua system control number

vtls004248970

GEAC system control number

(WlAbNL)0000248970

Access points

Place access points

Genre access points

Description control area

Description identifier

Institution identifier

Rules and/or conventions used

Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.

Status

Level of detail

Dates of creation revision deletion

Ionawr 2003.

Language(s)

  • Welsh

Script(s)

Sources

Archivist's note

Lluniwyd gan Ann Francis Evans.

Archivist's note

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: Williams, Trefor, Canmlwyddiant Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn y Tabernacl, Porthmadog, 1862-1962; Yr Wylan, papur bro, Hydref 2000 a Mai 2002 ac CMA: Cofysgrifau Eglwys y Tabernacl, Porthmadog.

Accession area

Related genres

Related places

Physical storage

  • Text: CMA: Cofysgrifau Eglwys y Tabernacl, Porthmadog.