Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1860-1985 (Creation)
Lefel y disgrifiad
fonds
Maint a chyfrwng
0.056 metrau ciwbig (10 cyfrol, 3 bwndel, 2 ffolder); 1 bocs bychan (Mawrth 2009)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes gweinyddol
Erbyn 1859 yr oedd galw am gapel mwy o faint na'r Garth oherwydd y twf mewn poblogaeth a masnach ym Mhorthmadog. Ystyriwyd ehangu'r Garth ond penderfynwyd yn hytrach i godi capel newydd mewn rhan arall o'r dref. Yn Ionawr 1860 prynwyd darn o dir o Ystad Tremadog am brydles o 99 mlynedd ac agorwyd Capel y Tabernacl yn Ionawr 1862. Dewisodd 140 o aelodau'r Garth i symud i'r addoldy newydd. Nid oedd galeri i'r capel i ddechrau ond codwyd un yn 1866 a newidiwyd safle'r pulpud ac adrefnwyd yr eisteddleoedd. Yn 1881 codwyd ysgoldy y tu cefn i'r capel i ddal 300. Roedd yna lyfrgell eang er mwyn rhoi cyfle i'r werin bobl ehangu eu gorwelion. Yn 1889 codwyd Tŷ Capel. Newidiwyd tu blaen y capel yn 1924 a chafwyd organ newydd.
Dymchwelwyd Capel y Tabernacl, Porthmadog, yn 2000 a chodwyd capel newydd ar y safle, ond cadwyd yr ysgoldy a'r festrïoedd. Ym mis Mehefin 2001 agorwyd Eglwys y Porth. Roedd y capel yn rhan o Ddosbarth Tremadog yn Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Adneuwyd gan Mr John Rees Jones, Porthmadog, Mai 2002, a chan Mr Gareth Edwards, Porthmadog, Mawrth 2009.; 0200207596
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Mae'r fonds yn cynnwys cofnodion ariannol, cofnodion gweithgareddau diwylliannol a chofnodion gweinyddol Capel y Tabernacl, Porthmadog. Ceir llyfr cyfrifon, 1860-1917, llyfrau casgliad y Weinidogaeth, 1927-1937, llyfrau derbyniadau a thaliadau, 1968-1985, rhaglenni ac anerchiadau Cymdeithas Lenyddol y Tabernacl, 1884-[1923], llyfrau cofnodion cyfarfodydd y blaenoriaid, 1891-1935, llyfr cofnodion Pwyllgor y Chwiorydd a hanes yr Eglwys, 1862-1891, yn eu plith.
Cofysgrifau ychwanegol yn perthyn i'r capel, yn cynnwys llyfr casgliadau, 1955-1967; dwy gyfrol yr Ysgrifennydd, 1964-1971 a 1972-1981; a tudalen yn nodi cynnwys llyfrgell y capel, 1946-1968 a 1975.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Action: Cadwyd yr holl gofnodion a adneuwyd i'r Llyfrgell..
Croniadau
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
System o drefniant
Trefnwyd y cyfan o'r archif yn LLGC yn dair cyfres: cofnodion ariannol, papurau gweithgareddau diwylliannol a chofnodion gweinyddol; ac yn un ffeil: Hanes Eglwys y Tabernacl.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
- Cymraeg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LlGC 2001-
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
GEAC system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Ionawr 2003.
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd gan Ann Francis Evans.
Nodyn yr archifydd
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: Williams, Trefor, Canmlwyddiant Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn y Tabernacl, Porthmadog, 1862-1962; Yr Wylan, papur bro, Hydref 2000 a Mai 2002 ac CMA: Cofysgrifau Eglwys y Tabernacl, Porthmadog.