Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1936-1959 (Creation)
Lefel y disgrifiad
fonds
Maint a chyfrwng
0.009 metrau ciwbig (2 gyfrol)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes gweinyddol
Cychwynnodd yr achos ym Mhenrhyndeudraeth yn 1770 ac adeiladwyd capel yno yn 1777. Dyma'r ail gapel a adeiladwyd yn Sir Feirionnydd. Saif yr hen gapel gwreiddiol o fewn tafliad carreg i Nazareth. Defnyddiwyd yr hen gapel hyd 1815, pryd adeiladwyd capel newydd o'r enw Bethel mewn lle newydd. Gelwid yr ail gapel yn 'gapel canol' gan yr ardalwyr.
Cynyddodd y gynulleidfa yn dilyn y diwygiad dirwestol a bu'n rhaid adeiladu capel helaethach eto, lle mae'r capel presennol. Agorwyd ef ar 8 Mehefin 1839. Oherwydd bod dirwestaeth mor gryf, galwyd y capel yn Nazareth, oherwydd bwriadau'r holl drigolion fod yn Nasareaid, sef yn llwyrymwrthodwyr. Roedd hwn yn gapel mawr gyda lle i dri chant i eistedd. Rhoddwyd galeri ynddo yn 1860 ac fe'i hadnewyddwyd yn 1880. Yn 1900 codwyd ysgoldy ar gyfer plant yr Ysgol Sul. Mae'r Eglwys yn perthyn i Ddosbarth Gogledd Meirionnydd.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Adneuwyd gan Mr Alun Williams, Cil-y-coed, Ffordd y Bermo, Dolgellau, Mawrth 2000, ymysg casgliad o ddeunydd o Henaduriaeth Gorllewin Meirionnydd.
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Mae'r fonds yn cynnwys cofrestri priodas, 1936-1959.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
Mae ychwanegiadau yn bosibl.
System o drefniant
Trefnwyd yr archif yn LLGC yn ddwy ffeil: cofrestri priodas, 1936-1945, a 1946-1959.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
- Saesneg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Saesneg
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LLGC 2001-.
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
GEAC system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Mai 2002
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd gan Nia Mai Williams.
Nodyn yr archifydd
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: Owen, Robert, Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd, cyfrol II, (Dolgellau, 1891); Ellis, Hugh, Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd, cyfrol III, (Dolgellau, 1928).