fonds GB 0210 TIRYDAIL - CMA: Cofysgrifau Capel Elim, Tir-y-dail,

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 TIRYDAIL

Teitl

CMA: Cofysgrifau Capel Elim, Tir-y-dail,

Dyddiad(au)

  • 1902-2003 / (Creation)

Lefel y disgrifiad

fonds

Maint a chyfrwng

0.027 metrau ciwbig (3 bocs, 1 gyfrol fawr)

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Yn 1903 teimlwyd yr angen yng Nghapel Bethani, Rhydaman, am gael capel newydd, ond yn dilyn Diwygiad 1904 penderfynwyd bod mwy o angen am gael capel yn Nhir-y-Dail. Adeiladwyd Capel Elim, Tir-y-dail yn 1906 ar gost o £560, ac agorodd y drysau ar Ddydd Nadolig 1906. Yn 1911 penderfynodd nifer o aelodau Capel Bethani i ymuno â Chapel Elim ac erbyn hynny roedd 64 o aelodau yno.

Y Parch W. Nantlais Williams oedd yn gwneud y gwaith bugeilio o'r cychwyn yn 1906, cymerodd ofal yr eglwys yn ffurfiol rhwng 1911-1919, a bu'n cynorthwyo hefyd rhwng 1922-1931 pan nad oedd bugail gan y Capel. Adeiladwyd festri yng nghefn y capel yn fuan ar ol iddo gael ei ffurfio yn eglwys, a phrynwyd y mans yn 1921 am tua £700.

Roedd Capel Elim, Tir-y-dail, yn perthyn i ddosbarth Rhydaman, Henaduriaeth Gogledd Myrddin. Caewyd y capel yn 2002 neu 2003 (ni restrir y capel yn Blwyddiadur a Dyddiadur Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd 2003). Yn 2003 cafwyd caniatâd cynllunio amlinellol gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer un annedd preswyl gan gynnwys dymchwel y capel presennol yng Nghapel Elim, Tir y Dail, Rhydaman.

Hanes archifol

Ffynhonnell

Y Parch. J. E. Wynne Davies; Aberystwyth; Adnau; Medi 2003; 0200310923.

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Cyfrolau o gyfrifon ariannol, cofrestr bedyddiadau, ffeil o bapurau'r ysgrifennydd, llyfrau yn nodi cyfraniadau'r aelodau, ac adroddiadau blynyddol Capel Elim (MC), Tir-y-dail, Rhydaman, 1902-2003.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Item: 1.1 Manuscript Volume (CMA_CapelElim). Action: Condition reviewed. Action identifier: 4304444. Date: 20060323. Authorization: Selected for conservation. Authorizing institution: NLW. Action agent: J. Thomas. Status: Manuscript Volume (CMA_CapelElim) : Yellow staining from self adhesive tape, paper badly mould damaged near spine and repaired with selotape, water has caused red ruling to run, some gatherings loose within covers. Institution: WlAbNL.

Item: 1.2 Manuscript Volume (CMA_CapelElim). Action: Conserved. Action identifier: 4304444. Date: 20060405. Authorizing institution: NLW. Action agent: D. Williams. Status: Manuscript Volume (CMA_CapelElim) : Removed old self adhesive repairs, no further action required by curator. Institution: WlAbNL.

Croniadau

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

System o drefniant

Trefnwyd yn bump cyfres yn nhrefn amser: cofrestr bedyddiadau, 1902-1982; ffeil ysgrifennydd, 1911-2001; cyfrifon ariannol, 1936-2003; cyfraniadau'r aelodau, 1958-2003; ac adroddiadau blynyddol, 1959-1979.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â'r amodau a nodir ar y ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data' a gyflwynir iddynt gyda'u tocynnau darllen.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg.

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Ceir adroddiadau blynyddol y capel 1937, 1949, 1952, 1954-5, 1957, 1960, 1963-5, 1970, 1972, 1976 yn nghasgliad CMA; ac hefyd adroddiadau am 1935, 1937-1939, 1960, 1964 yn LLGC.

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Crewyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls004304444

GEAC system control number

(WlAbNL)0000304444

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LLGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Hydref 2005.

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd gan Nia Mai Daniel.

Nodyn yr archifydd

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: Parch. S. L. George, Elim, Tirydail, Ddoe a Heddiw, (Rhydaman, [1936]); Y Parch. James Morris, Hanes Methodistiaeth Sir Gaerfyrddin, (Llansteffan, 1911); Blwyddiadur a Dyddiadur Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd, 2002 a 2003; Cronfa ddata CAPELI yn LLGC;

Ardal derbyn

Genres cysylltiedig

Lleoedd cysylltiedig

Storfa ffisegol

  • Text: CMA: Cofysgrifau Capel Elim, Tir-y-dail.