Showing 239 results

Archival description
Only top-level descriptions file
Print preview View:

1 results with digital objects Show results with digital objects

Papurau'r Colegiwm Cymraeg,

  • NLW ex 2582.
  • file
  • 1981-1986.

Papurau, 1981-1986, yn ymwneud â'r Colegiwm Cymraeg, pan oedd y diweddar J. I. Daniel [Siôn Daniel] yn ysgrifennydd y Colegiwm. Ceir gohebiaeth ynglŷn â llunio'r cyfansoddiad, aelodaeth, a thefnu cyfarfodydd a chynadleddau.

Daniel, J. I. (John Illtud).

Trosiadau Hywel Berwyn Evans (sol-ffa),

  • NLW ex 2534.
  • file
  • [1935]-[2006] /

Chwe chyfrol yn cynnwys darnau clasurol wedi'u trosi i nodiant sol-ffa gan Hywel Berwyn Evans (1915-2006), llyfrgellydd ym Mhrifysgol Birmingham ac organydd yn Eglwys Bresbyteraidd Bethel yn y ddinas. Maent yn cynnwys gweithiau gan Handel, Sibelius, Mendelssohn a Bach.

Evans, Hywel Berwyn.

Cyfansoddiadau cerddorol John Jenkins,

  • NLW ex 2407.
  • file
  • [1936]-[2006].

Emyn-donau John Jenkins, Bad Uchaf, ger Pontypridd, gan gynnwys 'Glan-y-Bâd', buddugol yn Eisteddfod 'Welsh Industries' yng Nghaerdydd, 1946, ynghyd â 'Hen Delynor’ (geiriau T. Rowland Hughes), buddugol yn Eisteddfod Cydweli, 1952. Ceir hefyd wybodaeth fywgraffyddol am John Jenkins, ynghyd â nodyn am hanes Eglwys y Bedyddwyr Carmel, Bad Uchaf.

Jenkins, John, 1873-1958.

Nodiadau o bregethau,

  • NLW ex 2398.
  • file
  • [1847]-[1866].

Nodiadau am bregethau a phregethwyr, y darlleniadau a thestun y bregeth, [1839]-[1866], ar ddalennau rhydd. Rhestrir pregethwyr Sasiwn Machynlleth 1839.

Pregethau,

  • NLW MS 16210i-viiiB.
  • file
  • 1846-1885 /

Nodiadau pregethau, 1846-1885, gan y Parch. Samuel Jones, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yng Nghastell-nedd, Cefncoedycymer a Chaerdydd. = Sermon notes, 1846-1885, by the Rev. Samuel Jones, Calvinistic Methodist minister at Neath, Cefncoedycymer and Cardiff.

Jones, Samuel, 1812-1886.

Llythyrau Thomas Rowlands, Patagonia,

  • NLW ex 2389.
  • file
  • 1950.

Dau lythyr, 1950, oddi wrth Thomas Rowlands, Tyddyn Morlais, y Gaiman, Chubut, a ymfudodd i Batagonia ym 1906, ynghyd â llungopi o ffotograff o Côr y Dyffryn Uchaf, côr a sefydlodd ym 1925.

Cyfrol o gerddi gan Ioan Anwyl,

  • NLW ex 2277.
  • file
  • 1866-1909.

Cyfrol o gerddi llawysgrif gan Ioan Anwyl (John Anwyl, ?1841-1921), a gyfansoddwyd rhwng 1866 a 1909.

Ioan Anwyl, 1841?-1921.

Y Cylch Catholig,

  • NLW ex 2663.
  • file
  • 1989-1999.

Cardiau yn rhestru aelodau'r Cylch Catholig yng Nghymru a thu allan i Gymru, 1989-1999.

Llyfr nodiadau Garfield Hughes,

  • NLW ex 2435.
  • file
  • [1932x1968].

Nodiadau'n cymharu ffurfiau ieithyddol a gramadeg yn yr iaith Gymraeg, Llydaweg a Chernyweg, [1932x1968].

Hughes, Garfield H.

Papurau Cymdeithas Cymry Manceinion,

  • NLW ex 2508.
  • file
  • 1925-1991.

Dwy gyfrol yn perthyn i Gymdeithas Cymry Manceinion (Cymdeithas Genedlaethol Cymry Manceinion yn wreiddiol), sef llyfr cofnodion, 1954-1991, gan gynnwys rhaglenni'r tymor, a llyfr lloffion yn cynnwys erthyglau papurau newydd yn nodi gweithgareddau’r gymdeithas a'r eglwysi, 1925-1932. Dathlodd y gymdeithas ei chanmlwyddiant ym 1986. = Two volumes relating to Cymdeithas Cymry Manceinion (Manchester Welsh Society, originally known as Manchester Welsh National Society), being a minute book, 1954-1991 including programmes of events, and a scrap-book containing newspaper articles, 1925-1932, detailing the society’s activities and also the churches. The society celebrated its centenary in 1986.

Cymdeithas Cymry Manceinion.

Traethodau gan D. T. Evans, Llandysul,

  • NLW Misc. Records 538-539.
  • file
  • 1921-1923.

Two essays submitted by D. T. Evans, Cross Lane, Croes-lan Llandysul for local eisteddfodau, namely 'Tai Dadfeiliedig Plwyfi Bangor, Llanfair, a Llandysul hyd ochr orllewinol Afon Cerdin' (1921), and 'Diffygion Amaethyddiaeth Sir Aberteifi' (1923). = Dau draethawd a gyflwynwyd gan y diweddar Mr. D. T. Evans, Cross Lane, Croes-lan Llandysul, mewn eisteddfodau lleol, sef 'Tai Dadfeiliedig Plwyfi Bangor, Llanfair, a Llandysul hyd ochr orllewinol Afon Cerdin' (1921), a 'Diffygion Amaethyddiaeth Sir Aberteifi' (1923).

Traethawd 'Cerddoriaeth y Brythoniaid' gan J. Lloyd Williams,

  • NLW Misc. Records 504.
  • file
  • [1920x1945].

Copïau teipysgrif (3) o draethawd (54 tt.) gan y diweddar Athro J. Lloyd Williams ar 'Cerddoriaeth y Brythoniaid' yn ymwneud â'r dystiolaeth o weithgareddau cerddorol ymysg y Brythoniaid a'r Cymry o gyfnod y Derwyddon hyd at ddiwedd y ddegfed ganrif. = 'Three copies (duplicated typescript) of an essay (54pp.) in Welsh by the late Professor J. Lloyd Williams on 'Cerddoriaeth y Brythoniaid' in which he examines the evidence relating to musical activities amongst the Britons and Welsh from Druidic times to the late tenth century.

Hen Ysgol Ramadeg Edward Richard, Ystrad Meurig,

  • NLW ex 2424.
  • file
  • 1994-2005.

Tair ffeil yn cynnwys papurau'n ymwneud â Hen Ysgol Ramadeg Edward Richard (1714-1777), Ystrad Meurig, a hanes yr ymgyrch i ddiogelu’r adeilad er budd y gymuned leol, gan gynnwys cofnodion cyfarfodydd Cyfeillion yr Hen Ysgol, 1997, llythyrau oddi wrth CADW a Thomas Lloyd, a thorion o'r wasg = Three files containing papers relating to the Edward Richard (1714-1777) Old Grammar School, Ystrad Meurig, and the campaign to ensure that the building was to be used for the benefit of the local community, including minutes of Friends of the school meetings, 1997, letters from CADW and Thomas Lloyd, and press cuttings.

Lloyd, Thomas.

Papurau ychwanegol Llyfni Huws,

  • NLW Misc. Records 454.
  • file
  • 1906-1958.

Ychydig eitemau pellach o blith papurau Llyfni Huws, diweddar ŵr y rhoddwr [gweler Adroddiad Blynyddol 1975-76, t. 41], sef, copiau o lythyrau cymeradwyaeth at Arglwyddes Llanofer ar ran Llyfni Huws, 1906; dyddiadur ei dad am y flwyddyn 1908; cyfrol o farddoniaeth o waith, ac yn llaw, Llyfni Huws, 1915-46; cyfrol o dorion papur newydd ar iaith a llenyddiaeth Gymraeg o'r Darian, 1917-1918; cerdyn post yn dwyn englyn cyfarch gan Gwilym R. Jones, Dinbych, 1942; llythyr oddi wrth Bob Owen, Croesor, 1947; a llythyr oddi wrth Goronwy [O. Roberts, A.S.], 1958.

Cyfansoddiadau cerddorol Clydwyn Ap Aeron Jones,

  • NLW ex 2856.
  • file
  • [1949]-1981.

Cyfansoddiadau Clydwyn Ap Aeron Jones, (1913-1998), gan gynnnwys ei drefniant o 'Ar hyd y nos' a chaneuon mewn Sbaeneg, ynghyd â'i curriculum vitae, 1942-1980, a rhaglenni cyngherddau Côr Unedig Chubut y bu'n ei arwain.

Jones, Clydwyn Ap Aeron.

Llyfrau cerddoriaeth D. J. Griffiths,

  • NLW ex 2644.
  • file
  • [1926]-[1947] /

Tair llawysgrif gerddorol D. J. Griffiths, Crown Stores, Llandybie, yn cynnwys 'Tonau cynulleidfaol' a 'Tonau plant'. Ei enw gorseddol oedd 'Alawydd Tybie' ac roedd yn dad i'r rhoddwr T. Elwyn Griffiths. Cyfansoddwyd yr emyn-donau hyn rhwng 1926 a 1947 a nodir i rai ohonynt gael eu cyhoeddi yn Tywysydd y Plant.

Griffiths, D. J.

Gradd DLitt John Elwyn,

  • NLW ex 2578.
  • file
  • 1996.

Tystysgrif Doethur mewn Llên er anrhydedd a dderbyniodd yr artist John Elwyn gan Brifysgol Cymru mewn cynulliad o'r Brifysgol, 20 Ebrill 1996, ynghyd â chyfieithiad i'r Saesneg. = Certificate awarded to the artist John Elwyn as Honorary Doctor of Letters at a congregation of the University of Wales held on 20 April 1996, together with an English translation.

Papurau amrywiol,

  • NLW ex 2545.
  • file
  • [1863]-[1948].

'Llythyr agored at Mr Bob Owen, Croesor', 1935, oddi wrth W. G. Jones; cerdd 'Pen blwydd Mai. Cyflwynedig i Mr a Mrs Griffith Williams, Tresaethon, Croesor' gan Ioan Brothen; rhaglenni gwyliau llenyddol, 1863-1881, yn Nhalysarn yn bennaf; cyfieithiad o 'Wealth' gan Emerson i'r Gymraeg, Eisteddfod Dalaethol [sic], Pwllheli. 1895; 'Penillion' gan 'Berw', 1910, i'w darllen mewn cyfarfod tysteb i'r Parch. D. L. Williams, Ficer Llanwnda a Llanfaglan am hanner can mlynedd, ynghyd â cheisiadau am swydd Swyddog Meddygol yn siroedd Caernarfon a Môn, 1876. = Miscellaneous papers including an open letter to Bob Owen, Croesor, 1935, from W. G. Jones; a poem 'Mai's birthday', presented to Mr and Mrs Griffith Williams, Tresaethon, Croesor; programmes of literary festivals held mainly in Talysarn, 1863-1881; a translation of Emerson’s 'Wealth' into Welsh, Pwllheli provincial eisteddfod, 1895; verses by Berw to be read at a testimonial meeting for the Rev. D. L. Williams, Vicar of Llanwnda and Llanfaglan for fifty years, together with applications for the post of Medical Officer in the counties of Caernarfon and Anglesea, 1876.

Ioan Brothen, 1868-1940.

Barddoniaeth Derfelog,

  • NLW MS 16481C.
  • file
  • [1910au]-[1930au] /

Tua chant ac ugain o gerddi holograff, [1910au]-[1930au], gan Hugh Edwards (Derfelog), Manceinion, nifer ohonynt yn ymwneud ag ardal Llandderfel, sir Feirionnydd, neu ar bynciau crefyddol. = Some one hundred and twenty holograph poems, [1910s]-[1930s], by Hugh Edwards (Derfelog), Manchester, many relating to the Llandderfel area, Merionethshire, or on religious themes.
Ymddengys i rai o'r cerddi gael eu cyhoeddi yn newyddiadur wythnosol Y Seren (Bala); nid ydynt yn ymddangos yn ei gyfrolau Oriau Myfyr (Bala, [1898]) nac Oriau Anian (Bala, [c. 1900]). = Some of the poems were published in the weekly newspaper Y Seren (Bala); none appear in his Oriau Myfyr (Bala, [1898]) or Oriau Anian (Bala, [c. 1900]).

Derfelog, 1870?-1941

Results 121 to 140 of 239