Ffeil NLW MS 23943B. - Barddoniaeth

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

NLW MS 23943B.

Teitl

Barddoniaeth

Dyddiad(au)

  • [1795]-[1830] (Creation)

Lefel y disgrifiad

Ffeil

Maint a chyfrwng

46 ff. gydag ychwanegiadau ; 200 x 160 mm.

Chwarter lledr dros fyrddau.

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Hanes archifol

'John Davies his book October 27th 1795' (y tu mewn i'r clawr blaen); 'John Evans his book 1811' a 'John Evans Black Smith Llanrhaiadr Denbigh Sh. May 6th 1830' (y tu mewn i'r clawr cefn). Trosglwyddwyd i'r Llyfrgell fel rhan o gasgliad D. Tecwyn Lloyd (1914-1992) ar farwolaeth ei weddw Gwyneth E. Lloyd yn 2005.

Ffynhonnell

HSBC Probate Services (ysgutorion Mrs Gwyneth E. Lloyd); Sheffield; Pryniad; Ebrill 2006; 004646232.

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Cyfrol o farddoniaeth, [1795]-[1830], yn cynnwys copïau o faledi a cherddi eraill, yn dyddio'n bennaf o'r ddeunawfed ganrif. Mae'r rhan helaethaf o'r llawysgrif (ff. 1-42) yn llaw John Davies, gydag ychwanegiadau, [?1820au], gan John Evans, gof o Lanrhaeadr[?-ym-Mochnant], sir Ddinbych (ff. 42 verso-46). = A volume, [1795]-[1830], containing transcripts of Welsh ballads and other poems, mainly of the eighteenth century. The majority of the manuscript (ff. 1-42) is in the hand of one John Davies, with later additions, [?1820s], by John Evans, blacksmith, of Llanrhaeadr[?-ym-Mochnant], Denbighshire.
Ymysg y beirdd a gynrychiolir yn y gyfrol mae Jonathan Hughes (ff. 3-4 verso, 12 verso, 34 verso-36), Huw ap Huw [Hugh Hughes, y Bardd Coch o Fon] (ff. 4 verso-9 verso, 11 verso-12 verso), Rhys Jones [y Blaenau] (ff. 10-11), Jonathan Hughes Ifangc (f. 13), Walter Davies [Gwallter Mechain] (f. 13 recto-verso), David Thomas [Dafydd Ddu Eryri] (f. 13 verso), Ellis Roberts [Elis y Cowper] (ff. 14-16 verso, 18-22, 38 verso-41 verso), Hugh Roberts y Teiliwr o blwy Llanllyfni (ff. 16 verso-18), Richard Llwyd o'r Plas [Meini] (f. 22 recto-verso), Robert Richard o Bentraeth (ff. 24 verso-26 verso), Richard Parry [o Niwbwrch] (ff. 26 verso-29, 33 verso-34 verso), Humphrey Wiliam, Tywyn, Meirionnydd (ff. 29-30), Y Parch. [William] Williams, Llaneilian-yn-Rhos (ff. 30-32 verso), a Huw Morris [Huw Morys] (ff. 32 verso-33 verso). Ymddengys bod y mwyafrif o'r cerddi wedi eu copïo o ffynnonellau printiedig, gan gynnwys Blodeu-gerdd Cymry, o gynnulliad David Jones o Drefriw (Amwythig: Stafford Prys, 1759, Libri Walliae 2804) (ff. 22-34 verso) ac amryw bamffledi. Mae yn y gyfrol hefyd ymgais gan John Evans i ysgrifennu beddargraff, dyddiedig 1825 a 1830 (f. 44), a dwy fersiwn o 'Cerdd yr Offeiriad Dur neu Steel Parson', o bosib gan John Evans, [1820au] (ff. 43, 46 recto-verso), gyda chopi teipysgrif o'r ddwy fersiwn, [20 gan., ail ½], [?gan D. Tecwyn Lloyd] yn rhydd yn y gyfrol (2 ff.). Mae taflen o dablau rhifyddol a werthwyd gan P. Sandford, Amwythig, [c. 1795], wedi ei bastio y tu mewn i'r clawr blaen. = Amongst the poets represented in the volume are Jonathan Hughes (ff. 3-4 verso, 12 verso, 34 verso-36), Huw ap Huw [Hugh Hughes, y Bardd Coch o Fon] (ff. 4 verso-9 verso, 11 verso-12 verso), Rhys Jones [y Blaenau] (ff. 10-11), Jonathan Hughes, junior (f. 13), Walter Davies [Gwallter Mechain] (f. 13 recto-verso), David Thomas [Dafydd Ddu Eryri] (f. 13 verso), Ellis Roberts [Elis y Cowper] (ff. 14-16 verso, 18-22, 38 verso-41 verso), Hugh Roberts, tailor, of Llanllyfni (ff. 16 verso-18), Richard Llwyd ('o'r Plas [Meini]') (f. 22 recto-verso), Robert Richard, Pentraeth (ff. 24 verso-26 verso), Richard Parry [of Newborough] (ff. 26 verso-29, 33 verso-34 verso), Humphrey Wiliam, Tywyn, Meirionnydd (ff. 29-30), the Rev. [William] Williams, Llaneilian-yn-Rhos (ff. 30-32 verso), and Huw Morris [Huw Morys] (ff. 32 verso-33 verso). The majority of the poems were apparently copied from printed sources, including Blodeu-gerdd Cymry, selected by David Jones, Trefriw (Shrewsbury: Stafford Prys, 1759, Libri Walliae 2804) (ff. 22-34 verso) and numerous pamphlets. The volume also contains attempts by John Evans at composing an epitaph, in 1825 and 1830 (f. 44), and two versions of 'Cerdd yr Offeiriad Dur neu Steel Parson', possibly by John Evans, [1820s] (ff. 43, 46 recto-verso), with a typescript copy of both versions, [20 cent, second ½], [?by D. Tecwyn Lloyd], inserted loose in the volume (2 ff.). A sheet of arithmetical tables, sold by P. Sandford, Shrewsbury, [c. 1795], is pasted inside the front cover.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Croniadau

System o drefniant

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Gwarchod Data 1998 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

  • Cymraeg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg.

Cyflwr ac anghenion technegol

Wedi'i heffeithio gan leithder; dalennau wedi eu colli cyn f. 1 ac ar ôl ff. 43, 44 a 46; f. 41 wedi ei rhwygo; f. 42 yn rhydd; cloriau wedi treulio, meingefn wedi ei difrodi.

Cymhorthion chwilio

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Teitl yn seiliedig ar y cynnwys.

Nodiadau

Preferred citation: NLW MS 23943B.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls004646232

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad pwnc

Pwyntiau mynediad lleoedd

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Hydref 2011.

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd y disgrifiad gan Rhys Morgan Jones;

Ardal derbyn

Pynciau cysylltiedig

Lleoedd cysylltiedig

Storfa ffisegol

  • Text: NLW MS 23943B; $q - Wedi'i heffeithio gan leithder; dalennau wedi eu tynnu ymaith cyn f. 1 ac ar ôl ff. 44 a 46; f. 41 wedi rhwygo; f. 42 yn rhydd; cloriau wedi treulio, meingefn wedi ei ddifrodi.