- GB 0210 ERWHOW
- Fonds
- 20fed-21ain ganrif
Casgliad o ddeunydd llawysgrif a phrintiedig yn ymwneud â nodau clustiau defaid (Mân Adnau 1626 gynt; troswyd yn rhodd ym mis Ionawr 2023).
Llyfr nôd clustiau Machynlleth a'r ardaloedd cyfagos, ynghyd â dyddlyfr y bugail teithiol John Erwyd James ynglŷn â'r clafr yng ngogledd Ceredigion; Ebrill 2022.
Copi o lyfr nôd clustiau Llanddewi Brefi ac ardaloedd cyfagos. Gwaith Edward (Eddie) James, Ty'n swydd, a fu yn wâs ar fferm y Graig, Llanddewi. Rhain trwy law Jackie James, Caerdydd, merch Eddie James. Maer llyfr gwreiddiol wedi ei golli; Ionawr 2023.
Papurau a gasglwyd gan y rhoddwr yn ymwneud â chŵn defaid a bugeilio, a hanes teuluoedd canolbarth Cymru, a drosglwyddwyd i LlGC yn 2019 gyda chasgliad o ffotograffau; Ionawr 2023.
Llyfr cyfrifon William Hopkins, Llaneithyr, 1927 (wedyn 'Melindwr', Eglwysfach) yn cynnwys cyfrif prynu a gwerthu, a phrisiau defaid cadw tros yr haf; Mai 2023.
Casgliad o ddyddiaduron y rhoddwr, 1969-98, ynghyd â llungopïau o gyfres o erthyglau o'r Welsh Gazette, 1922-3, 'Local lore. Devil's Bridge and District. Gleanings from the past', gwaith beirdd gwlad gogledd Ceredigion a gasglwyd gan y rhoddwr ddiwedd yr ugeinfed ganrif a dechrau'r unfed ganrif ar hugain, a deunyddiau yn ymwneud â hanes Pontarfynach, Goginan, Rhos-y-gell, Trisant, Ystumtuen, Pen-llwyn/Capel Bangor a Thal-y-bont, a hanes pobl a fagwyd yng ngogledd Ceredigion ond a fu farw yn Unol Daleithiau America; Medi 2024.
Papurau ychwanegol yn cynnwys dyddiaduron y rhoddwr, 1995-2023; 4 Chwefror 2026.
Nodiadau achyddol (ffeil 50) yn ymwneud â theulu Griffiths, Werndeg, Ponterwyd, a Throedrhiw, Goginan; 6 Chwefror 2026.
Ffolder yn cynnwys deunydd yn ymwneud â chŵn defaid; Ebrill 2026.
Un bocs bach yn cynnwys deunydd achyddol a phapurau yn ymwneud â Chwmystwyth; Mehefin 2026.
Howells, Erwyd